Welsh Blogs.com


Trin yr Eglwys fel Sinema via Blog Rhys Llwyd August 22nd, 2008 at 17:07

image Dwi wrth fy modd yn mynd i'r Sinema yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd fod mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o'r tripiau bach draw i Junction (fel mae'r Conductor ar y trên yn ei alw) anaml iawn dwi'n cael noson rydd neu wythnos dawel i fynd; dim ond os nad oes dim byd arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i'w gwblhau a dim adloniant amgen ar gael dwi'n ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd draw does dim rhaid i chi wneud dim byd, prynu eich tocyn, y staff yn gweni diodydd a phop-corn i chi yna i mewn a chi ac eistedd nol a mwynhau y ffilm a chael dianc o'r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref a chi a gadael i staff y Sinema glirio y pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod i'r ffilm nesaf. Tybed a ydych chi'n un...

Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas via Blog Rhys Llwyd July 28th, 2008 at 20:15

image Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd. Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff...

Adolygiad o ‘Stop Dating the Church’ gan Joshua Harris via Blog Rhys Llwyd July 5th, 2008 at 16:02

image Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O'r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw'n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi'n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai'n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw'r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau'r cysur a'r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae'r sbarc a'r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw'n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae'r wefr o fod gyda'i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos...

Faint o’r gloch mae’r cwrdd dydd Sul? via Blog Rhys Llwyd June 16th, 2008 at 21:55

Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o'r gloch mae'r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn llenwi map google gyda lleoliadau Eglwysi Cymraeg ynghyd ac amseroedd eu cyrddau. Hyd yma dwi ond wedi rhoi gwybodaeth yr Eglwysi mae gennyf gyswllt a nhw ac felly yn digwydd gwybod y lleoliad ac amseroedd y cyfarfodydd, os ydych chi am i mi ychwanegu eich eglwys chi cysylltwch gyda mi.Yn ein dydd ni gyda cyn lleied yn mynychu'r cwrdd maen gwbl hurt nad ydy'r Eglwysi yn gwneud mwy o ymdrech i adael pobl i wybod lle a phryd maen nhw yn cwrdd. Gobeithio bydd y map yma yn gymorth:View Larger...

Don Carson yn siarad am rôl addysg a cholegau diwinyddol via Blog Rhys Llwyd May 17th, 2008 at 09:28

image Dyma gyfweliad gan Adrian Warnock, un o flogwyr mwyaf adnabyddus y byd reformed-charismatic yn Lloegr gyda D.A. Carson, un o ddiwinwyr mwyaf blaenllaw yr Eglwys yn rhyngwladol ar hyn o bryd. Ei lyfr enwocaf yw The Gagging of God: Christianity Confronts Pluralism (Zondervan, 1996). Yr hyn sy'n hynod yw fod y cyfweliad wedi ei gynnal ym Mhenychain, Pwllheli pan oedd Carson yna dros y Pasg eleni fel un o brif siaradwyr yng nghynhaledd New Word Alive - tybed a wyddai poblach Pwllheli fod un o ddiwinwy'r mwyaf blaenllaw y byd yn troedio o amgylch eu tref yr wythnos hwnnw?! Mae gan Carson bethau diddorol iawn i ddweud am rôl y diwinydd a rôl addysg ddiwinyddol o fewn yr eglwys, a dyna'r gyfrinach, sef mae disgyblaeth i ymarfer er budd yr eglwys yw diwinyddiaeth ac y dylai sefydliadau addysg...

Ydy Cristnogion yn patronising? via Blog Rhys Llwyd December 25th, 2007 at 11:05

Ydy Cristnogion yn patronising? Ydyn yn sicr! Dwi'n meddwl mae un o brif broblemau'r eglwys, Cristnogaeth ac un o fy brif broblemau personol i ydy bod yn hunangyfiawn a dilornus o safbwyntiau gwahanol. Mae Cristnogaeth a Christnogion yn euog ar adegau o ddod drosodd yn patronising ac ar lawer adeg mi ydw i'n syrthio i'r twll ac yn fwy euog na neb am ddod drosodd yn patronising. Rwy'n cael fy hun yn aml yn gorwedd yn y gwely yn cicio fy hun am ddweud yr hyn ar llall mewn ffordd anraslon wrth rhywun, yn amlach na pheidio ar maes-e. Dwi'n gobeithio fod pobl sy'n fy adnabod yn y cigfyd yn gwybod yn iawn fod fy nghyfarth ar maes-e ac ar bapur (ac ar y blog hwn) yn fwy na'm brathiad. Ddim bod hynny wrth gwrs yn esgus am y troeon llawer lle dwi wedi bod yn ffyrnig o ymosodol tra'n dadlau am...

Cynhadledd Yr Eglwys i’r Dyfodol I via Blog Rhys Llwyd December 14th, 2007 at 23:45

image Ddoe mi fuesi yn ysgol undydd yn y Coleg Gwyn ym Mangor i drafod 'Yr Eglwys i'r dyfodol' (Emergent Church). Trefn y dydd oedd gair o groeso gan Y Parch. Athro D. Densil Morgan yna'r cyflwyniad i'r maes gan Parch. Ddr. Robert Pope. Toriad am ginio yna astudiaeth Feiblaidd ar y pwnc gan y Parch. Euros Wyn Jones yn cael ei ddilyn gan grwpiau trafod ac yna diweddu'r dydd gydag adrodd yn ôl. Croeso - DenzYn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob...