Welsh Blogs.com


47,779 gair via Arth sy'n Dawnsio August 26th, 2008 at 23:22

Rhywsut daeth ŵyl fach fod yn ŵyl tair wythnos. Wn i ddim sut ddigwyddodd hynny. Ta beth, rydw i wedi dychwelyd at waith ar y llyfr yr wythnos hon. Ac rydw i'n symud yn araf tuag at ddiwedd y prosiect.Na, celwydd yw hwnnw. Rydw i'n symud yn araf tuag at gwblhau'r drafft cyntaf. Mae yna bum pennod i'w ysgrifennu. Ar ôl hynny daw pwy a ŵyr pa mor hir o olygu. Ac wedyn beth bynnag sy'n angenrheidiol ar gyfer cyhoeddi'r peth. Dwi erioed cyrraedd y pwynt hwnnw o'r blaen, felly bydd yn gyffrous a diddorol.Gobeithio y bydd y cyhoeddwr eisiau'r peth o hyd. Yng nghefn fy mhen mae gennyf ofyn y byddwn yn cyflwyno'r gwaith i'm golygydd a byddai'n dweud: "Na, diolch Chris. Dwi wedi ailfeddwl y peth a does dim diddordeb. Sori. Chi wedi cwyno gormod am Eisteddfod."Pe digwyddai hyn byddai gennyf...

Eisteddfod tales via Smiling under Buses August 12th, 2008 at 21:27

The National Eisteddfod of Wales was held at Cardiff this year, and for many it was their first visit. I'm 30 now, and have only been going to Eisteddfod's 'properly' for the last 6-7. What I mean by properly is venturing onto the Maes (the main field) for at least a full day. When I was a child, my parents and I would only go if it was in the north. When I was 16 I started going with friends and camped on Maes D (the young people site) - this was when it was managed by Cymdeithas yr Iaith and before it got all commercialized and sterile. The sole purpose of the week was to get wrecked, and then as I got a little older and more interested in music, it was the gigs that were the main attracton - in fact, I'd travel the lenth and bredth of Wales to an Eisteddfod and maybe not even...

Hardeep mewn diwylliant Cymraeg…. via Clecs Cilgwri August 12th, 2008 at 07:46

Mi glywais i adolygiad o raglen BBC2 am yr Eisteddfod ddoe tra, wrando ar sioe Sian Thomas, felly mi es i ati neithiwr i'w lawrlwytho o i-player. Dwi'n hoff iawn o'r Albanwr 'Sikhaidd' Hardeep Singh, mae ganddo fo ardull sych, hamddenol, a gallu i gymryd i 'mickey' o bethau mewn ffordd tyner, heb bod yn or-greulon megis sawl digrifwr. Mi wnath o argraff drawiadol ar y 'Maes' mewn ei dwrban lliw 'pafilion', wrth iddo fo grwydro caeau Pontcanna yn siarad gyda eisteddfodwyr, wrth ei foff yn ymarfer cyfarchion newydd ei dysgu gan Nia Parry. Mi wnath o ymdrech parchus i ynganu'r geiriau'n iawn, wrth siarad gyda amrywiaeth eang o bobl. Cryfder y sioe efallai (ar wahan i bresenoldeb Hardeep ei hun), oedd y nifer mawr o wynebau rhwngwladol gafodd Hardeep y cyfle i siarad gyda nhw, gan cynnwys...

Crynodeb byr iawniawn via Blog yr Hogyn o Rachub August 11th, 2008 at 09:47

Mae hi wedi bod yn wythnos ers i mi flogio, a’r rheswm am hynny ydi’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mae arna i ofn na allaf ddweud popeth a wnes yn ei gyflawnder, a p’un bynnag mae’r rhan helaethaf ohono’n dra-gywilyddus. Heb sôn am fod yn berchen ar hici gywilyddus ers nos Fercher yn Maes B (sydd DAL yno), aeth dydd Iau yn wirion wrth siarad â Trebor Edwards gyda Ceren. Daeth rhyw ddyn arall atom a fanno fu am ychydig, ac mi ofynnodd Trebor wrthyf a oeddwn yn hoff o Rhys Meirion. Ew, ydw, medda fi, llais mawr tenor arno. Wel, ebe Treb, dyma fo wrth dy ymyl ers meitin. Ro’n i’n teimlo’n wirion.Tai’m i ddweud mwy am f’anturiaethau Eisteddfodol. Nid fy mod yn cofio’u hanner. Cywilydd bu i mi feddwi ar faes yr Eisteddfod, ond wir-yr, os am roi bar yno a’m cael innau yno,...

Wrthi’n llosgi pontydd Eisteddfod via Arth sy'n Dawnsio August 7th, 2008 at 11:23

Ysgrifennais gofnod hir iawn ar fy mlog Saesneg am yr hyn nad ydw i'n hoffi am Eisteddfod. Ar hyd yr wythnosau diweddar rydw i'n ceisio gafael ar beth sy'n digio (efallai byddai "siomi" yn air gwell) fi cymaint am y Brifwyl -- dyma rhan o'r ymdrech hwnnw.Yn wreiddiol roeddwn i am ei ysgrifennu yn y Gymraeg. Ond roeddwn i'n pryderu y byddai'r neges yn cael ei cholli ymhlith cwestiynau...

I’d do anything… fasw ni ddim via Blog Rhys Llwyd April 22nd, 2008 at 05:31

image Mae Menna, fel pob merch maen siŵr, wedi dotio gyda'r gyfres 'I'd do anything' – y gyfres ar y BBC i ganfod y Nancy nesaf. Mae Tara Bethan, ein Tara ni (!), allan wrth gwrs ond mae diddordeb Menna yn y rhaglen yn parhau. Ond wrth gwrs rhan o ffenomenon gyffredinol y byd darlledu yw'r gyfres ddiweddaraf yma oherwydd yn perthyn i'r un categori y mae'r rhaglenni canlynol: Pop Idol, X Factor, Stricktly Come Dancing, Dancing on Ice, Fame Academy ac wrth gwrs cyfresi fel I'd do Anything ac How do you find a girl like Maria. Fe ymddengys mae dyma yw big hitters y diwydiant teledu ar hyn o bryd gyda'r BBC ac ITV yr un fath. Maen rhaid mae apel rhagleni o'r fath yw'r cyfuniad od o berfformio a chystadlu, dyma yw'r peth mawr, y peth diweddaraf ar hyn o bryd ym myd teledu Anglo-Americanaidd.Ond...

Codi tâl ar addolwyr yn ’steddfod: beth fyddai Dr. Tudur yn dweud? via Blog Rhys Llwyd April 12th, 2008 at 12:22

Os ydych chi'n anorac Cristnogol fel fi mi fyddwch chi wedi clywed y newydd diweddar fod yr Eisteddfod wedi penderfynnu codi tâl ar bobl fydd am ymweld a maes yr Eisteddfod ar y Sul i fynychu'r gwasanaeth boreuol blynyddol. Mae'r arweinwyr Eglwysig, yn anad neb Aled Edwards (Cytun) a Geraint Tudur (Annibynwyr) wedi beirniadu'r penderfyniad yn hallt - mae'r stori lawn i'w darllen ar wefan y BBC fan yma.Wrth i mi ddarllen y stori fe ddaeth i nghof i fod Dr. Tudur Jones wedi "gwrthod" cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol oedd yn rhan o drefniadau'r Eisteddfod ym Mangor yn 1970. Dyma ddywedodd Dr. Tudur mewn llythyr at John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod ar y pryd:"Diolch yn fawr ichwi am eich llythyr... a'r gwahoddiad caredig i ymuno yn y gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol ar Mehefin...

My Eisteddfod via Smiling under Buses August 27th, 2007 at 11:52

image This year I spent more time on the Maes then any other Eisteddfod. This was because jobs-cymraeg.com, along with 7 other members of the Association of Welsh Language Software (CMC) had clubbed together to have a stall. We actually shared a 3 unit stand with The Association of Welsh Language Translators and Interpreters.MondayFirst day on the stall, and got to meet up again with Dewi and Delyth who are the chair and secretary of CMC and who both work for the Language Technology Unit at the University of Wales, Bangor (see their blog). I was also introduced to Ambrose and David who work part time with the unit and part time for private companies. Ambrose works with Draig, while David works from home (in York) for a firm in the English Midlands.David had another reason to be present at...

Are we talking about the same Eisteddfod? via Smiling under Buses August 24th, 2007 at 15:29

I've been thinking of writing a post about what I did at this year's National Eisteddfod in Mold, but haven't got round to it yet, in the meantime, there's a particularly nasty article in the highly respected South Wales Echo by Dan O'Neill titled Let’s tell these dotty druids to byrger off!.This columnist likes to think of himself as controversial, and his article about the festivals visit to the capital next year annoyed a lot of people, and understandably so. If it was an article 'taking the mick'* out the Eisteddfod it would be fine, I find some of it a bit strange myself, but it was basically an attack on people who speak Welsh - he really goes for it and it's a shame that the echo allowed such hatred towards a language be expressed in it's pages. It starts off fairly...

Balwns via Morfablog August 23rd, 2007 at 22:04

...

Os am ryw reswm via Gwenu dan Fysiau August 15th, 2007 at 17:28

yr hoffech weld fy nghyflwyniad ar ran Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau Eisteddfod Sir y Fflint 2007, dyma...

maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr eisteddfod? via Blog Rhys Llwyd August 15th, 2007 at 23:28

image Mae pawb yn ymwybodol o hoffter y Cymry o'r ddiod gadarn. Amhosib yw mynychu unrhyw ddigwyddiad Cerddorol, Llenyddol neu Chwaraeon Cymreig heb fod y cwrw neu'r gwin yn llifo'n rhydd. Meiddia i awgrymu fod presenoldeb y ddiod gadarn ar lawer achlysur wedi troi yn bwysicach na'r gerddoriaeth ei hun? Yn bwysicach na'r gêm rygbi ei hun?Nos Fawrth diwethaf roedd Meic Stevens yn lansio ei albwm newydd – roedd yna stondin yna yn gwerthu'r CD. Er fod yna lond pabell o bobl yn 'lyfio', yn 'addoli' ac 'yn ffan penna' Meic – dim ond un, ie un, CD a werthwyd. Pam hynny te? Wel esboniad fy nghyfaill (nad sy'n Gristion o argyhoeddiad fel fi) oedd y byddai gwell ganddynt wario eu £10 olaf ar bedwar diod arall nag ei wario ar CD newydd eu 'harwr'.Nawr cyn mynd ymlaen ym mhellach rhaid i mi...

Fy Steddfod i via Blog Rhys Llwyd August 14th, 2007 at 22:24

Dwi wedi dychwelyd o'r Eisteddfod ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Yn ôl yr arfer fe renais fy amser yn gywrain rhwng gweithgareddau a gigs y Gymdeithas a gweithgaredd y Gorlan. Fe aeth gigs y Gymdeithas yn wych, roedd yr awyrgylch yn arbennig y system sain yn rhagorol a'r gallu i osod eich pabell yna mewn awylgylch lot mwy ymlaciol na maes b yn goron ar y cyfan. Dau set wnaeth aros allan yn arbenniog i mi oedd set Sibrydion a set Y Derwyddon. Sibrydion heb os yw pros mwya y Sin Roc Gymraeg – roedd profiad dros 15 mlynedd ar y sîn (Beganifs>Big Leaves>Sibrydion) yn amlwg yn aeddfedrwydd eu set. Mae'r Derwyddon yn fand fydd yn tyfu i fod yn fand enfawr – roedd eu set nhw yn hollol sgleiniedig ac eu sengl ddiweddara 'Madrach' yn profi i fod yn anthem y 'steddfod.Fe aeth...

Hey, wait. You’re not real cowboys! You lied to me! via Arth sy'n Dawnsio August 13th, 2007 at 15:41

image Dwedir taw doethineb yw'r peth cyntaf i'w fynd pan yfir alcohol. Nid yw hyn yr achos i fi. Gyda finnau, Cymraeg yw'r peth cyntaf i'w ffoi rhag fy mhen. Gellid darlunio graff llinell a ddangosa sut mae safon fy Nghymraeg yn exponentially converse i nifer o gyrfau yn fy mol.Mae pethau'n gwella erbyn hyn -- yr oedd yn arfer bod taw dim ond dau beint gallwn eu hyfed cyn llithrai'r Gymraeg i ffordd. Gallaf yfed llawer mwy'r dyddiau hyn heb gael fy ngorfodi newid y sgwrs i'r Saesneg, ond pan geisiaf gymryd rhan yn y sgwrs, gwnaf cachu hwch ohoni.Felly, dyna fi ar nos Fercher diwethaf -- yn sefyll wrth ochr Elin, gwraig Rhodri, yn gig Pwsi Meri Mew/ Gwibdaith Hen Frân/ Cowbois Rhos Botwnnog/ Gai Toms -- yn teimlo taw efallai y cawn i ormod o gwrw a gwin a dylwn droi tuag adref. Yr oeddwn yn...

Meditations and Ministers via Aberdare Blog August 12th, 2007 at 21:45

image We took the charabanc to the West Wales coast for the annual August pilgrimage this week. After a miserable June and July and a heart-breaking summer harvest, a spell of sunshine gave us precious time to ’stand and stare’ and re-charge our batteries whilst enjoying the Welsh countryside. On Wednesday the sky was cloudless and the beaches of Cardigan Bay filled with holidaymakers, sunseekers, the sea-sports people, and families from near and far. As the hot sands teased our toes, we joined them for a refreshing dip in the serene Ceredigion sea. It was clear that day and below you could survey the wonders of the sea-floor. Above the aircraft scribbled ugly white trails against a pristine azure canvas. We swam like a paddling of ducks who had been deprived of water for far...

Ar y ffordd via Arth sy'n Dawnsio August 6th, 2007 at 22:02

Yr wyf yn siŵr nad oes neb a sylweddola nad ydw'n blogio yr wythnos hon, oherwydd maent yn Eisteddfod. A gellir rhifo fi yn eu plith nawr. Byddaf yno yn fy mhabell o leiaf hyd ddydd Iau. Os yr wyf yn mwynhau a bod gennyf ddigon arian, efallai arhosaf am ysbaid hirach.Os ydych chi'n gweld fi unrhywle o gwmpas, plîs dwedwch helo. Ar fy mhen fy hun byddaf (ni ddaw'r briodferch ifanc), felly byddaf yn awyddus cael cwmni....

Anturiaeth via Arth sy'n Dawnsio July 31st, 2007 at 13:24

OK, yn ôl Dafydd, rhan o'r hwyl Eisteddfod yw ei darganfod, fel petai hi ryw fath o flash mob. Dweud gwir, gwneid y digwyddiad yn llawer gwell: "Psst. Yfory byddem yn cystadlu ym marddoniaeth -- dweda wrth dy ffrindiau."Ar hyn o bryd yr wyf yn meddwl am deithio i fyny ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth ar y trên. Af gyda'm pabell a gobeithiaf y gallaf ffeindio lle i'w osod (sut byddaf yn delio â hyn, ni ŵn). Yr wyf yn meddwl am fod yno er mwyn y blogmeet bach ar ddydd Mawrth a hefyd oherwydd mae yna bosibilrwydd y caf gyfle bod yn bresennol ar gyfer y ddadl hon ar nos Fawrth.Os nad oes gennych gyfrif Facebook, bydd rhaglen BBC 4, "Hecklers," yn trafod a oes gormod o gefnogaeth i'r iaith Gymraeg: "Has promotion of the Welsh language gone too far? Sir Dai Llewellyn, baronet and proud...

Codi fy nhymer via Arth sy'n Dawnsio July 29th, 2007 at 18:01

Efallai gwyddoch nad ydw'n ffan fwyaf o Eisteddfod. Un rheswm am hyn yw fy nghred bod y peth yn hollol anniben.Yr wyf eisiau i chi ddychmygu eich bod yn Americanwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sydd eisiau mynd i Eisteddfod. Ni wyddoch lawer am ddaearyddiaeth Cymru ac nad oes gennoch gar. Nawr, yr wyf eisiau chi ceisio defnyddio gwefan Eisteddfod, neu wefan Sir Fflint, neu'r ddau ohonynt, i ddysgu sut yn union i gyrraedd y ffycin Maes. Nid oes trên Arriva neu gerbyd National Express y bydd yn mynd yn syth i'r Wyddgrug, felly pa le dylwn fynd ati sy'n agosaf i'r Wyddgrug? Byddai hyn yn wybodaeth dda rhoi ar wefan, onid fyddai?Grr. Efallai byddai'n well i fi aros tan ddaw Eisteddfod i...

Glaw cadw draw via Blog Rhys Llwyd July 13th, 2007 at 03:16

image Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi'n synnu mod i hyd yn oed wedi galw'r cyfnod yma o'r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd - heb ddim byd arall yn mynd am sylw - jest fi a'r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).Mae rhai wedi sôn fod yna 'heat wave' ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma'r mae'r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin...

Sod it via Gwenu dan Fysiau July 6th, 2007 at 11:55

image Mei a fi wedi penderfynnu cael blog-gwrdd ein hunain ar ddydd Sadwrn olaf y Steddfod. Bydd yn dechrau am 9:00am a gorffen am 6:00pm (ddim go iawn, ni heb benu amser eto!)Os hoffech fathodyn swanc, ewch i flog...

Dal i fyny via Gwenu dan Fysiau July 5th, 2007 at 17:50

Bues i'r gogledd am noson er mwyn mynd i weld nain yn yr ysbyty. Fe gafodd hi godwm tua 5 wythnos yn ôl a thorri ei chlun, ac fe gafodd lawdriniaeth i osod pin yn ei chlun. Gwelais i hi rai diwrnodau wedi'r lawdrinaieth a doeddwn heb ei gweld ers hynny. Roedd hi'n edrych yn well y tro yma, ond roedd yn dal yn ffwndrus ofnadwy. Hyd yn oed cyn iddi ddisgyn, doedd hi ddim yn gallu cerdded bron oherwydd ei phengliniau, ac mae hi fwy neu lai'n ddall. Does dim rhaid dweud nad oes ganddi fywyd hawdd iawn, nac fy mam druan chwaith sy'n edrych ar ei hol. Ta waeth, roedd nain yn 93 oed ddoe, ac roedd Inffyrmari Dinbych ble mae nain yn aros ar hyn o bryd yn 200 oed hefyd ar yr un diwrnod.Tra ar y tren, dyma fi'n darllen 2 rifyn diwethaf o'r Faner Newydd nad oeddwn wedi cael cyfle i'w darllen,...

Y Gorlan: saith mlynedd yn ddiweddarach… via Blog Rhys Llwyd June 23rd, 2007 at 00:37

Fuesi lawr yn Llanelli heddiw yn ffilmio fideo's ar gyfer Y Gorlan, rhai i roi ar y wefan a rhai i chwarae ar sgrin fawr yn y Gorlan ei hun yn yr Eisteddfod eleni. Roedd un, ro ni'n teimlo, mor bwerus roedd rhaid i mi fynd syth ati i'w olygu ar ôl cyrraedd adre ac am hanner nos dyma fi wedi ei lwytho i youtube. Wnai ddim dweud mwyd, jest edrychwch ar y fideo (gyda llaw, nid fy mai i oedd hi fod hi'n...

Polau Piniwn ar fy mlog via Blog Rhys Llwyd May 30th, 2007 at 12:55

Fe welesi Bol Piniwn ar flog Ciaran Jenkins felly dyma ddwyn y syniad. Bydd yna Bol Piniwn yn ymddangos bob wythnos (os bydd amser/amynedd yn caniatau) ym mar ochr. fy mlog. Gan ei bod hi'n wythnos eisteddfod yr Urdd pol piniwn eisteddfotaidd sydd...

Cerdd Dant Ache via Blamerbell Briefs May 28th, 2007 at 15:40

It's that time of year again. S4C shelves the farming programmes for a week and dedicates its entire airtime to that festival of over-exaggerated facial expressions otherwise known as the Urdd Eisteddfod.Tune in on Monday for seven year-olds straining their cheekbones to convey some hackneyed emotion or other through speech or song.Tune in on Saturday and all that's changed is the trouser measurements.But worst of all must be the bloody Cerdd Dant. We Welsh are enormously proud of this unique art form. Unique, that is, because the rest of the world wouldn't go near the idea (except for this website in Japan, which as far as I can make out seems unusually keen on it).Cerdd Dant is a performance for harp and voice (or voices - equally bad). And this is how it works: The harp plays a 'cainc'...

O Drelawnyd i Sandycroft… via Clecs Cilgwri May 21st, 2007 at 23:08

Mae'n braf cael clywed bod ape^l Eisteddfod 07 yn Sir y Fflint wedi cyrraedd ei nod (tua £210,000 dwi'n credu) yn barod, ac hynny cwpl o fisoedd cyn agoriad y prifwyl. Pan ystyried y llwyddiant 'ma, mae'n pwysig i gofio hefyd dyni'n son am ardal lle gafodd 60% y poblogaeth eu geni tu allan i'r fro, y rhan mwyaf yn Lloegr. Heb tapio mewn i ryw gradd i'r di-Gymraeg (a dysgwyr wrth rheswm) yr ardal, mae'n bur debyg na fasai'r pwyllgor ape^l wedi llwyddo mor gyflym.Yn son am y steddfod, mi ges i fy nheffro i lais cyfarwydd a y radio y bore 'ma, hynny yw boi o'r enw Carl Renshaw sy'n tarddu o Fagillt, dim ond ychydig o filltiroedd dros yr aber o fan'ma. Ro'n i'n arfer cwrdd a^ fo pan o'n i'n mynd i'r sesiynau sgwrs yn y Llonguchaf cwpl o flynyddoedd yn ol. Dysgodd o ei Gymraeg gan ei Nain...

Yr Eisteddfod ar City Hippy via Gwenu dan Fysiau August 16th, 2006 at 14:35

Mae Ella Rabaiotti o Organic Jac, wedi cyfrannu post at y blog gwyrdd City Hippy am Gelf Gwyrdd yn yr Eisteddfod.eisteddfod2006, eisteddfod, celf, gwyrdd, green, cityhippy, organicjacGenerated By Technorati Tag...

Wedi’r Eisteddfod via Gwenu dan Fysiau August 14th, 2006 at 13:28

Treuliais mwy o amser ar y maes eleni nag ydw i erioed wedi gwenud, gan ymweld ar 4 diwrnod. Chefais i ddim llawer o gyfle i wneud beth oeddwn eisiau ar y dydd Sadwrn cyntaf oherwydd tro Menter Caerffili oedd bod ar stondin Mentrau Iaith Cymru, bues yn cael cinio gyda'm rhieni (a oedd yn aros gyda fi a Sarah) a dyma fi'n mynd i'r pafiliwn am y tro cyntaf ers... wel dwn im pryd, i weld cefnder fy mam yn derbyn Medal Aur am Gelfyddyd Gain Dois yn ôl i'r Eisteddfod Dydd Iau, Gwener a Sadwrn, yn bennaf er mwyn hyrwyddo fy ngwefan jobscymraeg.com. Cefais ymateb da gan lawer o'r sefydliadau a siaradais gyda, a gobeithiaf weld ychydig o swyddi newydd yn ymddangos arno'r wythnos hyn. Ond uchafbwynt yr Eisteddfod i mi oedd y blog-gwrdd. Unai syniad fi neu Rhodri Nwdls oedd y blog-gwrdd...

Argoel via Gwenynflog August 11th, 2006 at 11:03

Da chi'n gweled pawb yn y Steffod, tydych? Rwy'n gwylio ffrwd y BBC o'r llwyfan, ac rwy'n siwr imi weld Efan a Sion o'r ysgol yn canu fel rhan o'r "Parti ger y Lli", parti harmoni-agos yn canu Ar Lan y Môr. Rown nhw'n dda fyd. Lwcus, gan iddyn nhw fod yr unig barti yn y gystadleuaeth...Newydd weld fy ffrind gorau o'r ysgol, Carys, mewn "Close-up" o'r llwyfan fyd! Reit ynghanol y sgrin!! Diawch, swn i'n hoffi bod yn y Steddfod y flwyddyn yma, yn lle'n styc mewn stafell yn sgwennu...

Brigdonni ar Faes yr Eisteddfod via Gwenu dan Fysiau August 9th, 2006 at 10:51

Diolch i Peter Black am fy ngwneud i'n ymwybodol o'r 'Peiriant Brigdonni' ym Mhabell Cynogr Abertawe ar faes yr Eisteddfod. Rhywbeth arall i'w ychwanegu ar fy rhestr: Pethau i'w gwneud yn yr Eisteddfod eisteddfod2006, eisteddfod Generated By Technorati Tag Generator...

Finding your way around the Eisteddfod via Smiling under Buses August 2nd, 2006 at 13:00

It's sometimes difficult to find out what's going on on the Maes, even if you're fluent. To help welsh learners, Elwa (do they still exist?) have put a booklet together called: Eisteddfod Handbook for Learners and Non - Welsh Speakers (PDF), whichis usefull for those who've not been to the Eisteddfod before.Two thing I'd recomend that you look out for during the week on the Maes (but this is my personl taste) are:Performance Stage (if you can't make it to the gigs in the evenings)Pictiwrs yn y 'Steddfod (a chance to see welsh language short films)Lots of things about the Eisteddfod have been tagged at deli.icio.us and technoratieisteddfod2006, eisteddfod, cymraeg, welshGenerated By Technorati Tag...