Welsh Blogs.com


Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (3) via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:16

image Yn y prynhawn fe es i lansiad gwefan newydd Casglu’r Tlysau ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn gyfle i weld ac i glywed y gweinidog treftadaeth newydd, sef Alun Ffred Jones AC. Fe wnaeth argraff dda. Fe wnaeth gadw ei araith yn fyr ac ni wnaeth ddweud dim byd ffuantus na diangen. Patrwm ar sut i ymddwyn ar waith swyddogol. Wedyn ‘nôl i Neuadd Buddug yn haf poeth y prynhawn i goginio swper. Heno roeddwn i am wneud cyw iâr gyda philaff tomato. Y cyfan yw pilaff tomato mewn gwirionedd yw berwi’r reis mewn cymysgedd o stoc a thomatos wedi’i malu’n fân ac ychwanegu ychydig siwgr i roi ychydig bach o help i’w melyster naturiol. Fel mae’n digwydd roedd ychydig o gnau pîn ar ôl yn y cwpwrdd ac fe aeth y rheiny i mewn i’r reis......

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-08 via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:18

image Dwi’n ofni na ddigwyddodd rhyw lawer heddiw. Aeth DML a DJP i’r eisteddfod fel arfer ac fe es i ac RO i mewn i’r ddinas ar y bws. Mae’r tocyn diwrnod yn fargen ac yn galluogi dyn i deithio fel y mynno. Wedi cinio aeth RO i’r eisteddfod ac es i lawr i Fae Caerdydd ar y bws, yna yn ôl i ganol y ddinas i gael yr ychydig gynhwysion terfynol ar gyfer y swper; yr olaf yn Neuadd Buddug. Rhaid imi gyfaddef imi weld bargen yn M&S ar ffalaffel ac felly dyma brynu dau becyn er mwyn cael i swper. Y prif gwrs oedd pelenni cig iâr gyda philaff (fel arfer!) a saws tomatos. Dyma orffen yr wythnos mewn steil. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-09 via Blog Dogfael August 31st, 2008 at 23:25

image Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd hi’n bwrw glaw unwaith eto ac felly doedd dim llawer o chwant ymweld ag unrhyw le ar y ffordd adref. Ond dywedodd RO y carai fwrw golwg dros siop lyfrau Borders yn Llantristant ac felly dyna a wnaethpwyd yng nghanol y glaw. Wedi cinio yn y caffi yn y siop dyma ddychwelyd i Aberystwyth trwy’r Rhondda a’r canolbarth. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (1) via Blog Dogfael August 29th, 2008 at 10:19

image Bydda i’n well imi orffen adrodd yr hanes am yr eisteddfod cyn imi droi at y gwyliau yn Norwich a Norfolk. Dydd Iau oedd fy niwrnod mawr i yn y yr eisteddfod. Mewn geiriau eraill dyna ‘r unig ddiwrnod yr oeddwn i’n teimlo ei bod hi’n rhaid imi fynd i’r maes. Roedd rhagolygon y tywydd trwy’r wythnos wedi bod yn hala ofn arna i. Roedd meddwl am gerdded am hanner awr trwy’r glaw er mwyn cyrraedd y maes yn ddigon i fy ngwneud i’n llwfr. Roedd glaw wedi’i addo ar gyfer dydd Iau, ond y bore hwnnw roedd popeth yn edrych yn iawn. I ddweud y gwir roedd y ffordd o Neuadd Buddug a thrwy’r coed i’r bont dros Afon Taf yn daith hyfryd. Dim ond croesi’r ffordd brysur iawn i mewn i ganol dinas Caerdydd oedd yn rhaid ac roedd dyn yn...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (2) via Blog Dogfael August 29th, 2008 at 10:36

image Dechreuais i fynd i’r eisteddfod o ddifri yn 1975. Dros y blynyddoedd dwi wedi gweld llawer o bethau gwych a gwachul. Ar y dechrau roeddwn i’n cadw’n ffyddlon i’r hen babell lên. Wedyn dechreuais i fynd i theatr fach y maes. Dwi wedi gweld llawer o newid hefyd; efallai taw’r newid mwyaf yw’r corfforaethu sydd wedi digwydd i’r eisteddfod ers canol y 1990au. Dwi’n siŵr ei bod hi’n rhaid i gyrff cyhoeddus fod yno, ond rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i lawer o ddiddordeb mewn dysgu am y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr asiantaeth hon neu’r cwango arall. O ganlyniad mae’n rhaid mynd i chwilio am y stondinau gwirioneddol ddiddorol yng nghanol hyn i gyd. Ac i ddweud y gwir does gen i ddim mo’r awydd i wneud...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (6) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 23:00

image Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. Dwi’n teimlo braidd yn euog am hyn gan nad oeddwn i wedi bod yn rhan o’r frwydr o gwbl, na neb arall yn fflat B1. Yn hytrach na chreu ffws roeddem ni wedi bodloni ar wrando ar Tocyn wythnos gyda Beti George. Ond mae ‘na lot o bobol yr eisteddfod yn aros yn Neuadd Buddug a rhai ohonyn nhw yn bobol ddigon bolshi. Dwi’n cymryd taw un ohonyn nhw a fartsiodd lawr at y groesawfan a mynnu’r hawl i weld ei sianel ei hun yn ei wlad ei hun. A diolch byth...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-06 via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 23:22

image Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27. Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron â bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol....

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 09:46

image Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y glaw. Er inni deithio’n araf mewn tagfa draffig trwy ganol Caerdydd yn y glaw i gyrraedd Caerffili, roedd hi’n bwrw gormod i feddwl dod mas o’r car i edrych am y capel. Roedd yn dipyn o siom, ond wedyn roeddwn i yn y car ac yn gymharol sych o’m cymharu gyda’r trueiniaid oedd yn crwydro maes yr eisteddfod mae’n siŵr. Mae glaw mewn amgylchiadau fel hyn yn medru bod yn dorcalonnus. Doedd gen i ddim byd pwysig yr oedd yn rhaid i’w wneud, ond...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (3) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 05:56

image Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath? Note: There is a rating embedded within this post, please visit this...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (4) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 06:09

image Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal. Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (2) via Blog Dogfael August 7th, 2008 at 05:44

image Rhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod yn fwy i mi. Mae’r adeilad yn un trawiadol, ac mae’r ffaith fod y gwleidyddion wastad ar y lefel isaf gyda’u etholwyr yn cerdded uwch eu pen, yn sumbolaidd iawn. Nid yw’n adeilad mor fawr na mawreddog ag yw Senedd yr Alban – dim ond siambr ac ystafelloedd pwyllgora sydd yma o’u cymharu â’r cymhlethdod adeiladau roedd yn cael eu codi yn yr Alban – ond mae ei arwyddocâd cymaint yn fwy. Roedd ‘na adeilad yng Nghaeredin yn barod a...

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (1) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 17:29

image Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. Gwelwyd yr un fath o beth yn digwydd yn Nhyddewi yn 2002. Ond am ryw reswm wrth wylio pigion yr ŵyl ar S4C digidol neithiwr prin soniodd Rhun ab Iorwerth am y glaw. Ond dwi’n ofni taw glaw, glaw a hyd yn oed mwy o law sydd gen i i’w ddweud amdano heddiw. Roedd hi’n ofnadwy ddoe o ran tywydd. Yn lle mynd ar ein taith arferol o gwmpas bro’r eisteddfod, fel mae RO a minnau yn ei wneud am ddiwrnod neu ddau yn ystod yr wythnos, roedd yn rhaid inni fodloni i dreulio’r rhan...

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04 via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 12:24

image Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn. Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (8) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:05

image Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd gul i lawr yno trwy bentref bach Silstwn. Ni chawsom ein siomi, er ein bod yn mwynhau’r olygfa yng nghysgod hen bwerdy Aberddawan. Wrth inni grwydro yno roedd y cymylau’n tywyllu a’r glaw yn dechrau pigo. Ond cyn troi yn ôl am Gaerdydd dyma fynd ymlaen i brif ddinas y Fro, sef y Bont-faen i weld y gofeb sydd yno i Iolo Morganwg. Petai’r tywydd wedi bod yn sych byddwn i’n bendant wedi mynnu fod y cyfeillion yn dod heibio i Egwys y Grog...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (9) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:13

image Wedi cinio dydd Sul fydda i ceisio coginio rhywbeth ysgafn gyda’r nos ac felly dau gwrs cymharol ysgafn a hawdd i’w coginio oedd i fod i swper. Yn gyntaf iogwrt a chaws feta ac yna cawl reis a thomatos. Roedd y ddau gwrs yn llwyddiannus, er efallai bod y cyntaf ychydig yn rhy drwm. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2003-08-03 (7) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 09:00

image Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth sifig yn cael ei gynnal yn yr eglwys i nodi penodi maer newydd. Roedd pawb bron yn gwisgo cadwyn neu fedal neu’n cario baner. Roedd hi’n rhyfedd i weld y dorf yn ymgasglu a’r byd fel petai’n mynd heibio iddynt. Doedd neb yno yn gwylio’r hyn a oedd ar ddigwydd heblaw am ddau blismon a ni’n pedwar. Eto i gyd roedd y ddefod yn bwysig iawn i’r rhai oedd yn rhan o’r peth. Roedd y gwasanaeth yn dechrau am 3.00pm yn Eglwys Illtud Sant, ac felly am 2.50pm...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:03

image Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin. Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (4) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:07

image Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr yn dyddio o gyfnod cynnar hanes Cymru gan gynnwys clas Illtud Sant (6ed ganrif) a oedd yn ganolfan i ddysg a fyddai wedi’i disgrifio fel ‘prifysgol’ mewn oes ddiweddarach. Bellach y cyfan sydd ar ôl o holl ogoniant y gorffennol yw’r adeiladau, oherwydd o ran bywiogrwydd mae’r pentref (neu dref) yn teimlo yr un mor dawel a digyffro â’r rhan fwyaf o Fro Morgannwg. Wrth deithio o Drefflemin i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid inni deithio...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:10

image Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn ddigon cydymdeimladol gyda fy sefyllfa i aros i mi dynnu llun. Fel mynach Celtaidd mae’n siŵr y buasai Illtud wedi ymatal rhag bwyta cig ac felly roedd yn rhaid gadael y rhan fwyaf o’r pasteiod i fod, ond dwi’n siŵr ei fod yn ddiolch fod Spar yn cynhyrchu ei pasteiod caws a winwns eu hunain. Pa saig rheitiach i sant? Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (6) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:42

image Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr un – ond fe ddewisais i’r cig mochyn a’r peth gorau am fy mhryd i oedd y sglodion. Roedden nhw’n frown ac yn greisiog ar y tu fas ac yn hyfryd feddal ar y tu fewn. Dim ond canmol oedd fy nghyfeillion hefyd. Lle gwerth galw ynddo os yn Llanilltud ac yn chwilio am rywle i gael bwyd. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Tesco yn gorfod cyfyngu ar werthu alcohol via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:14

image Dyma’r arwydd yn siop Tesco Extra yng Nghaerdydd yn rhybuddio cwsmeriaid rhag meddwon gwyllt yr eisteddfod. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Swper 2008-08-02 via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:18

image Dyma’r swper wnes i goginio nos Sadwrn. Sef twrci gyda pilaff reis (gyda chnau pin a resins) a iogwrt gyda mintus. Blasus iawn, hyd yn oed os taw fi sy’n dweud! Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (1) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:20

image Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu bod nhw’n “Gymry go iawn”. Ond dwi’n ofni taw ar y radio y gwnes i wrando arno’n pregethu, yn gywir fel yr ydw i ers blynyddoedd, yn y car ar y ffordd i grwydro ychydig ar fro’r eisteddfod. Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi mynd ychydig tu hwnt i’r fro honno heddiw wrth inni droi ein golygon tuag at Fro Morgannwg a rhai o’r llefydd oedd yn gysylltiedig gydag Iolo Morganwg ei hun. DML oedd wedi sôn i ddechrau am ei ddymuniad i ymweld â Threfflemin,...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (2) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:29

image Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld peth o waith llaw Iolo ei hun a oedd wrth ei alwedigaeth yn saer maen. Pentref bychan tawel yw Llan-fair sy’n dwyn enw yr eglwys gyda’i thŵr trawiadol yn ei ganol. Prin nad oedd neb yn symud yno wrth inni groesi’r parc ger yr eglwys. Roedd y drws yng nghlo, ond wrth inni grwydro o gwmpas y fynwent dyma wraig yn sylwi arnom ni ac yn gofyn a oeddwn i am weld y tu fewn. Atebodd y pedwar ohonom fel côr llefaru ein bod am wneud. Ac felly fe aeth hi yn ôl i’r tŷ i...

Llyfrau dwi wedi dod â nhw i’r Eisteddfod via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 11:23

image Fel dywedais yn gynt dwi wedi ceisio teithio’n ysgafnach i’r eisteddfod y tro hwn o’i gymharu â blynyddoedd cynt. Felly dim ond 5 llyfr dwi wedi dod gyda mi y tro hwn. Fel arfer bydda i’n dod â llawer mwy, gan gynnwys yr Odliadur ac Anghenion y gynghanedd gan obeithio y bydd yr awen yn fy nharo gan fy mod mor agos i gymaint o brifeirdd. Dyma’r llyfrau dwi wedi dod â nhw gyda mi’r tro hwn. J I Packer, Affirming the Apostles’ creed (Crossway Books, 2008) C J Sansom, Dissolution (Pan Books, 2007) Pat Chapman, Pat Chapman’s favourite middle eastern recipes (Piatkus, 1996) Claudia Roden, Arabesque: a taste of Morocco, Turkey & Lebanon (Michael Joseph, 2005) Het nieuwe testament met psalmen en gebeden (KBS, 1999) Note: There is a rating...

Eisteddfod yn y ddinas (3) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 07:50

image Wedi cyrraedd, dadlwytho’r car, a gwneud ein hunain yn gyfforddus yn ein palas newydd yn y ddinas ar lan afon Taf, y cam nesaf oedd dod o hyd i siop a fyddai’n ateb ein gofynion. Doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau chwilio. Felly dyma ffonio cyfaill oedd wedi’i fagu yn y ddinas i ofyn am gyfarwyddiadau. Fe aeth ei gyfarwyddiadau ef â ni i uwch-deml siopa Caerdydd, sef Tesco Extra ar Western Avenue! (Yn dechnegol mae’r siop yn sefyll ar Excelsior Road yng Nghaerdydd. Tybed a yw Cyngor Dinas Caerdydd wedi ailenwi’r stryd fel teyrnged i Saunders Lewis a’i ddrama ddadleugar. Gyda llaw yr hyn sy’n eich croesawu wrth ymweld â’r siop yw neges fawr yn cyhoeddi fod cyfyngiadau ar werthu alcohol yn y siop rhwng 11.00pm tan 7.00am dros gyfnod yr...

Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 08:13

image Wrth i ni ddychwelyd i Neuadd Victoria roedd dau eisteddfodwr blinedig ond brwd yn disgwyl amdanom – DJP a DML. Wel, DJP oedd ynn disgwyl amdanom, a DML yn gorffwys wedi diwrnod caled o waith ar stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y maes. Roedd DJP yn gwylio criced ar y teledu yn y gegin. Yn ddiweddarach fe ddaeth hi’n amlwg nad oedd hi’n bosib gwylio S4C ar y teledu o gwbl, gan ei fod yn derbyn darllediadau digidol sy’n cael eu rheoli gan gosodwyr y sustem! Dim rhyfedd bod nifer gwylwyr S4C yn is na’r disgwyl, mae’n amhosib i rai pobol fyddai am wylio’r sianel ei gwylio yn y lle cyntaf. Dwi ddim yn gwybod beth fydd ein strategaeth i ddelio gyda hyn, ond rhaid imi gyfaddef nad ydw i am wneud rhyw lawer iawn o ffws am y peth – rydw i ar fy...

Eisteddfod yn y ddinas (5) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 08:33

image Bu raid i RO bopo mas i’r siop unwaith eto cyn swper oherwydd yr oeddwn i wedi anghofio un cynhwysyn hanfodol ar gyfer swper, sef ciwbiau stoc. Heno roeddwn i’n dechrau gyda salad tomatos syml gyda bara ffres, ac yna roeddwn i’n troi at bryd cyntaf yr wythnos oedd yn dilyn thema o’r Dwyrain Canol. Cig twrci (roedd hwnnw’n rhatach na ffowlyn yn Tesco) wedi’i goginio mewn olew a menyn gyda philaf cnau a resins gyda iogwrt fel glybwr. Fe aeth popeth yn iawn. Rhaid i mi gyfaddef, er taw fi oedd yn gyfrifol am y coginio, fy mod wedi fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y pilaf yn flasus iawn. Cynnwys y pilaf oedd reis basmati, winwns, cnau pîn, hol-sbeis, sinamon, resins a menyn. Cefais y rysáit yn llyfr gwych Claudia Roden, Arabesque: a taste of Morocco,...

Eisteddfod yn y ddinas (2) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 07:14

image Fi oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i’r llety ar gyfer y grŵp eleni, ac mae hynny’n medru bod yn ofid. A fydd y lle yn dderbyniol i fy nghyfeillion? A fydd yn ateb ein hanghenion? Roeddwn i wedi dod o hyd i’r llety ar un o restrau’r Eisteddfod Genedlaethol o lety yng Nghaerdydd ac felly roeddwn i’n teimlo petai pethau’n mynd yn gyfan gwbl o le yna byddwn i’n medru martsio i mewn i swyddfa’r Eisteddfod a mynnu rhyw fath o ddatrysiad. Rydyn ni’n aros eleni mewn un o neuaddau preswyl y ddinas, ond nid un o’r rhai sy’n perthyn i Brifysgol Caerdydd neu UWIC. Yn hytrach mae’n neuadd “breifat” yn dwyn yr enw Victoria Hall (Neuadd Buddug) sy’n sefyll yn agos i dafarn y Black Weir (Y Gored Ddu?) ar y ffordd i mewn i...

Eisteddfod yn y ddinas (1) 2008-08-02 via Blog Dogfael August 3rd, 2008 at 06:39

image O’r diwedd dwi’n cael cyfle i ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Am amryw resymau dwi wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf; yn rhy brysur i droi at ysgrifennu’r blog yn gyson. Dwi’n siŵr i Oscar Wilde ddweud unwaith os yw rhywun yn rhy brysur i flogio ei fod yn rhy brysur! Unwaith eto dyma Wilde yn dod yn weddol agos at y gwir. Un broblem sydd gen i ar hyn o bryd, sef nad ydy hi’n bosib imi osod lluniau ar y blog gan imi adael y weiren hanfodol ym Mhlas-yn-Dogfael. Felly bydd y lluniau yn dilyn… rhywbryd. Gadewais Aberystwyth i fynd i’r brif ddinas am ryw 1.30pm ddoe. Roedd fy nghyfaill da RO yn rhoi lifft i mi a fy nhrugareddau. Eleni roeddwn i wedi ceisio bod yn fwy gofalus na’r arfer o ran yr hyn roeddwn yn ei gludo ar draws...