Welsh Blogs.com


Pregeth dda ar Nehemeia 2 via Blog Rhys Llwyd August 30th, 2008 at 19:09

Dwi newydd wylio'r fideo isod sef sgwrs gan Mark Driscoll ar Nehemeia 1:11b-2:8 lle mae Driscoll yn esbonio sut roedd Nehemeia ar un llaw yn uchelgeisiol ac ar y llaw arall yn llwyr ddibynnol ar Dduw a gweddi. Byrdwn ei neges yw fod dim byd o'i le gyda bod yn uchelgeisiol a dibynnu fod yr uchelgais yna yn un bydd yn gogoneddu Duw....

Fy llyfr dyfyniadau via Blog Rhys Llwyd August 29th, 2008 at 22:46

Dwi'n hoff iawn o gadw llyfrau nodiadau bach, mewn ffordd llyfr bach nodiadau electronig ydy blogs. Tra ro ni'n Rhydychen rhai diwrnodau yn ol wnes i brynnu llyfr nodiadau bach newydd, dydy fy un cyfredol i ddim yn llawn ond ro ni'n ysu i gychwyn defnyddio'r un newydd felly dwi wedi penderfynnu defnyddio'r un newydd yn arbennig ar gyfer nodi dyfyniadau da a defnyddiol alla i ddefnyddio mewn pregethe, sgyrsiau ac erthygle. Ymysg y rhai cyntaf sydd wedi mynd mewn i'r llyfr wythnos yma mae:"I found that I was just as likely to meet God in the sewers of the ghetto as in the halls of academia. I learned more about God from the tears of homeless mothers than any Systematic Theology ever taught me." (Shane Claiborne)"Frank: I'm seeing this new Girl.Andy: What are you doing messing with all these...

Trin yr Eglwys fel Sinema via Blog Rhys Llwyd August 22nd, 2008 at 17:07

image Dwi wrth fy modd yn mynd i'r Sinema yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd fod mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o'r tripiau bach draw i Junction (fel mae'r Conductor ar y trên yn ei alw) anaml iawn dwi'n cael noson rydd neu wythnos dawel i fynd; dim ond os nad oes dim byd arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i'w gwblhau a dim adloniant amgen ar gael dwi'n ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd draw does dim rhaid i chi wneud dim byd, prynu eich tocyn, y staff yn gweni diodydd a phop-corn i chi yna i mewn a chi ac eistedd nol a mwynhau y ffilm a chael dianc o'r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref a chi a gadael i staff y Sinema glirio y pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod i'r ffilm nesaf. Tybed a ydych chi'n un...

Hip-Hop yn Mars Hill via Blog Rhys Llwyd July 16th, 2008 at 10:51

Maen ymddangos mae nid dim ond pregethu da mae Mars Hill yn Seattle yn deall ond mae ganddyn nhw sesiynnau mawl pen i gamp hefyd. Dyma fideo o'r band oedd yr arwain y mawl ddydd Sul diwethaf, pa mor cŵl yw hwn, mewn capel! Ffantastig! 'Send Me' - Live at MHC | Ballard from Mars Hill Church on...

Mark Driscoll yn Llundain via Blog Rhys Llwyd July 14th, 2008 at 17:43

Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef...

Adolygiad o ‘Stop Dating the Church’ gan Joshua Harris via Blog Rhys Llwyd July 5th, 2008 at 16:02

image Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O'r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw'n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi'n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai'n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw'r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau'r cysur a'r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae'r sbarc a'r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw'n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae'r wefr o fod gyda'i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos...

Wedi meddwl mynd i’r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? via Blog Rhys Llwyd June 17th, 2008 at 23:29

image Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? Wel... mae ateb!CWRDD, Eglwys Dafarn Gymraeg - tafarn The End, Caerdydd, 9 pm - 22 a 29 Mehefin 6 a 13 GorffennafDyma medd y trefnwyr:Ni'n byw mewn cymdeithas sy' 'di newid. Dydy mynd ir capel ar y Sul ddim yn norm, dydy Cristnogaeth ddim mor ddylanwadol yng Nghymru ag oedd hi ganrifoedd yn ôl. Ma' lot 'di newid. Ond ma' 'na un peth yn aros yn union run peth. Efengyl Iesu Grist yw honno. Bwriad CWRDD yw cyfuno neges y Dyn adnabyddus hwnnw - Iesu Grist - trwy gyfrwng newydd.Pwy yw Iesu? Does dim un cymeriad yn hanes y byd wedi'i bortreadu cynifer o weithiau a Iesu Grist. Pa un oedd yn gywir, os unrhywun? Celwyddgi? Gwr Priod? Terfysgwr? Cenedlaetholwr? Arglwydd?Wrth edrych ar unigolion yn CWRDD yr Iesu yn y Beibl, bydd CWRDD yn...

Tystiolaethu’n Ddigidol a’r Emerging Church via Blog Rhys Llwyd June 16th, 2008 at 10:02

image Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF. Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o...

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll ‘Confessions of a Reformission Rev’ [2/3] via Blog Rhys Llwyd December 30th, 2007 at 10:46

image Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Parhad o'r postiad blaenorol...Megathema'r llyfr yw fod yr eglwys i fodoli fel cenhadaeth ac nid fel clwb i'r cadwedig rai yn unig felly wrth wneud penderfyniadau ar sut y dylid cynnal gwasanaethau ac ati yn yr eglwys rhai rhoi yr ystyriaeth gyntaf i'r rhai di-gred a fydd yn troi mewn ac nid i'r teulu Cristnogol bach neis. Mae hon yn wers galed sydd yn rhaid i Eglwysi Cymru ei dysgu os am weld twf eto. Fel enghraifft o'r egwyddor hon ar waith mae Driscoll yn rhoi hanesyn am deulu o efengylwyr-brethren tra ceidwadol a ddechreuodd fynychu'r eglwys ac a ddywedodd y buasen nhw yn dod yn aelodau ar yr amod y cai eu plant nhw gannu handbells fel rhan o'r gwasanaeth a fyddai, a...

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll ‘Confessions of a Reformission Rev’ [3/3] via Blog Rhys Llwyd December 30th, 2007 at 10:51

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Parhad o'r postiad blaenorol....Beirniadaeth o rai agweddau o'r llyfrI ddechrau rhaid nodi na fydd arddull Driscoll at ddant pawb, mae ei onestrwydd ar rai adegau yn rhy onest ac maen debyg y bydd llawer o bobl o fewn ei eglwys yn darllen amdanyn nhw eu hunain ac yn gwylltio gyda Driscoll am ddatgelu rhai hanesion rhy bersonol. Gellid dadlau hefyd fod Driscoll, am berson sy'n honni i roi'r pwysigrwydd mwyaf i waith Iawnol Crist ar y groes, yn rhyw ysgaf ei agwedd at waith Iesu, edrychwch ar y frawddeg fyrbwyll yma: 'We scraped together enough money to buy some big honking speakers, and I stole an unused sound console from my old church along with a projection screen,...

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll ‘Confessions of a Reformission Rev’ [1/3] via Blog Rhys Llwyd December 30th, 2007 at 10:41

image Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Mae'r adolygiad yma yn un hir a hynny mewn tri postiad gwahanol ac ar y dechrau hoffwn annog pob Cristion i ddarllen y blog ar ei hyd oherwydd fod cynnwys y llyfr yn ddifyr ac yn hynod berthnasol i chi. Maen flogiad hir oherwydd fod gymaint o gîg yn y llyfr i'w drafod.Yn dilyn y gynhadledd am ddyfodol yr eglwysi ddechrau'r mis (blog am y digwyddiad yma) ym Mangor dwi wedi fy sbarduno i ddarllen ambell i lyfr gan aelodau mwyaf blaenllaw symudiad yr Emerging Church. Dyma adolygu'r llyfr cyntaf sef Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll. Yn y llyfr hynod yma mae Driscoll yn gwneud sylwadau am gyflwr yr eglwys...