Welsh Blogs.com


Ffrainc - Diwrnod 3 - Adar via Wierdo April 3rd, 2008 at 22:52

Heddiw mi aethom ni i warchodfa adar. Sydd yn beth ddigon dewr i mi yn fy marn i gan mai adar yw un o fy ofnau mwyaf. Ond wedi dweud hynny, doeddwn nhw ddim yn hedfan o gwmpas rhyw lawer, heb son am fflapio yn fy nwyneb! Tydio ddim yn ffobia o bellffordd (er ma' f'annwylyd yn ffobia pan ma'n sdyrbio ar fywyd o ddydd i ddydd a dwi'n dueddol o gadw i ffwrdd o adar pan yn bosib); yr unig phobia dwi di gal erioed ydi disgyn am yn ol a dwi wedi concro hwna i raddau helaeth...ish.Eeeeniwe, gwarchodfa adar. Mi sylwais heddiw cyn lleied dwi'n gwybod am adar. Mi oedd pawb arall yn pwyntio adar allan ac yn eu henwi yn syth. A finna yna efo binoculours wedi'w menthyg, ar gora oni'n gallu'w wneud oedd mynd "ylwch, aderyn". Mi welais i lot o adar ond peidiwch a gofyn i mi pa rai oedden nhw! Mi oedd na...

Ffrainc - Diwrnod 2 - Nadolig Llawen via Wierdo April 3rd, 2008 at 22:36

Dyma ddymunodd mam f'annwylyd i'w gefneither bore ma. Dim joc fel ma bobl yn gneud weithia: dweud y peth anghywir yn fwriadol, ond cangymeriad hollol onest.Pasg hapus oedd hi'n feddwl wrth sgwrs. Mi geshi diwrnod plentynaidd iawn heddiw gan ddechrau gyda chwilio am wyau pasg bacho gwmpas llawr gwaelod y ty.Brecwast cyntaf yn y ty heddiw; croissants, french stick a jam. Gorjys. Yr unig broblem oedd fod y trydan dal ddim yn gweithio ac felly doeddwn i methu rhoi fy nghroissant yn y microwave - croissant cynnes yw fy hoff mrecwast yn y byd i gyd yn grwn.Wedyn ymlaen i explorio'r dref ac i chwilio am y farchnad. Ac wrth sgwrs wedyn mi oedd rhaid hmmio a hoooio os dwi'n mynd i brynu hyn neu'r llall cyn setlo am dop llewis hir du a maroon sydd yn edrych fel dillad gwrach.Gan fod hi'n ddydd Sul...

Ffrainc- Diwrnod 1 - Ffawd via Wierdo April 3rd, 2008 at 20:44

Tydwi ddim yn credu mewn ffawd. Tydwi ddim eisiau i fod yn gwbwl onest; ma'r syniad yn fy nychryn i; dwi'n hoffi meddwl mai fi sydd yn dewis fy nyfodol ac nid rhyw gyfarfod yn y goruchaf.Ond ar ól diwrnod fel ddoe mae credu mewn ffawd yn dod yn haws. Mi oedd hi wir yn teimlo fel nad oedden ni yn fod i ddod i Ffrainc, mi oedd na rhyw bwer yn rhywle yn ein herbyn.Mi ath y daith rhwng West Brom yn well na'r disgwl; dim eira na traffic pasg yn arafu'n taith. Mi oedd hynny'n golygu wrth sgwrs ein bod yn eistedd yn Dover am awr a hanner. Pen ol sgwar ta be?!Ar ol awr a hanner mi ddywedodd rhywun fod y llong wedi canslo. Felly mi oedd rhaid darganfod ffordd arall i Ffrainc. Mi oedd Bolougne a Calais wedi cau felly roedd rhaid hwylio i Dinkirk oedd rhyw hanner awr ychwanegol o yrru yn Ffrainc.Mi...

Asiantaeth Alibiau via e-clectig September 13th, 2007 at 09:50

Mae cwmni yn Ffrainc wedi lansio gwasanaeth sy'n darparu alibiau ar gyfer pobl sydd "angen tipyn bach o ryddid" o gyffiniau dedwyddwch priodasol.Bydd Alibila, sy'n disgrifio ei hun fel "eich generadur alibiau", yn gwneud galwadau teleffon, dyfeisio gwahoddiadau ac hyd yn oed yn creu biliau bwyty a gwesty i ategu unrhyw stori.Mae prisiau'r gwasanaeth yn amrywio o €19 (£12) am alwad ffon syml i €50 (£34) am "alibi dosbarth 2", sy'n cynnwys pob dogfen, galwad ffon ac unrhyw gefnogaeth arall sydd angen er mwyn mwynhau "antur...

Diwrnod 1 - Ysbrydoliaeth via Wierdo March 30th, 2007 at 09:52

Edrych am yn ôl ar y gwch. Mae ‘na ambell i olygfa sy’n fy ysbrydoli i fwy na rai eraill. Mae hyn yn beth amlwg iawn i’w ddweud mae’n siwr. Mae sefyll ar gefn cwch yn edrych ar yr “wake” yn diflannu dros y gorwel yn un ohonyn nhw. Dyna lle’r oeddwn i’n sefyll ddoe ar y gwch i Ffrainc. Mi oedd yn hyfryd. Y gwynt yn chwipio o’ng nghwmpas a’r salwch môr yn cael ei adael ar ôl jesd tu allan i Dover. Mae gin i barch newydd at gapteiniaid Fferis. Doeddwn i erioed wedi sylwi o’r blaen pa mor brysur oedd y sianel rhang Prydain a Ffrainc. Ar un adeg, mi oedden ni’n gallu gweld 7 llong arall a hynny gyda’r gorwel yn agosach nag arfer oherwydd fod na ddipyn bach o niwl. Pob parch i’r Capten am “hwylio” drwy’r mor prysur gyda cannoedd o bobl o dan ei...

Diwrnod 2 - Teulu via Wierdo April 1st, 2007 at 10:17

Mae’n edrych yn debyg fod pob gwyliau teulu yr un fath. Pan oeddwn i’n fach ac yn mynd i gampio efo mam, dad a’m mrawd, mi oedden ni’n cyrraedd tua amser tê (cyn gynted a sydd bosib bethbynnag) ac yn codi’r dent. Wedyn mi oedd yr ail ddiwrnod yn un diog bob amser; mynd i’r swyddfa twristiaeth ac ymlwybro o amgylch yr ardal gyfagos. Llun o’r afon oedd yn rhedeg trwy’r pentref Rhywbeth tebyg sydd yn digwydd wythnos yma yn Ffrainc. Neithiwr, mi gyrhaeddom ni tua hawdi wyth a setlo mewn. Heddiw, mi gerddom ni yn ara deg o amgylch pentref Hesdin. Mae’n bentref prydferth iawn âg afon yn rhedeg trwyddo ac Eglwys yn ei ganol yn ogystal a neuadd y dref impresif iawn. Tu mewn eglwys St Saulve yn Montreuil Ma pobman wedi cau ar dydd Sul yn Ffrainc wrth sgwrs a...

Diwrnod 4 - Gwynt a Lluniau via Wierdo April 3rd, 2007 at 10:49

Mi oedd hi wedi bod mor braf ddoe, mi oedden ni wedi bwriadu mynd i lan y môr heddiw. Mi gychwynnom ni o’r tŷ am tua 9 a mi oedd hi’n eitha’ braf ond oer iawn; lot o wynt. Ond ffwrdd a ni i Le Touqet bethbynnag. Wedi’r cyfan, dim ond 9 o’r gloch oedd hi, mi oedd hi siwr o gnesu cyn amser cinio. Mi gyrhaeddom ni ac mi oedd hi dal yn oer. Ddigon braf, ond gwyntog ac oer. Tra oedd yr “oedolion” yn chwilio am le gwell i barcio lle nad oedd rhaid talu, mi oedd y “plant”, John a mi yn chwarae pel droed. Fi a Iwan yn erbyn Carys a Gareth (cefnder a cyfneither John) gyda John yn chwarae gôl. Andros o gêm. 10-9 iddyn nhw. Gem agos a shatryring. Nid llun o’r gem ei hun oedd hwn, ond dyna ni. Mae’n rhyfedd peido bod yn un o’r “plant”. Mana 9 ohona ni ar y...

Diwrnod 3 - Mynwentydd via Wierdo April 2nd, 2007 at 10:30

Dim ond un Memorial sydd yn bodoli I’r Royal Air Corps. Yng nghanol y rhyfel byd cynta newidwyd yr enw i Royal air force. Mae’r memorial yn Arras yn un sydd yn anodd iawn i’w ffindio (mi oedd i ni bethbynnag); mi dreuliom ni gryn dipyn o amser yn chwilio amdano! Ond mi oedd werth yr ymdrech. Mi oedden ni’n chwilio amdano gan fod un o ffrindiau nain a taid John wedi gofyn iddyn nhw chwilio am berthynnas iddyn nhw (dwin meddwl mai brawd tad un ohonyn nhw). Mi oedd y person yma wedi marw ar y diwrnod y newidiodd eu teitl. Felly, er ei fod wedi treulio ei hol amser yn gwasanaethu i’r royal air corps, mae o wedi ei restru o dan y royal air force. Llun o’r memorial yn Arras Ma’ teulu John wastad yn mynd o amgylch sawl mynwent, ac yn poeni fod hynny’n ddiflas i mi. Beth...

Diwrnod 6 - Hanner awr wedi 9 via Wierdo April 5th, 2007 at 11:48

Ma’ hi’n hanner awr wedi naw y bora wedyn (a dwi’n meddwl pa ddyddiad nai roi ar hwn? Ydwi’n rhoi hwn ar y wê fel petawn i’n blogio ddoe fel arfer, ta ydwi’n cal 2 flog heddiw? Cewn weld.) a dwi’n falch. Oni’n dechra ama nad oedd y bore byth am gyrraedd yn iawn. Dwi’n effro ers tua hanner awr wedi pump. Mi geisiais i droi a throsi fy ffordd i gysgu tan tua hawdi chwech neu 7 cyn rhoi gif-yp. Mi dreulish i hanner awr go dda yn trio setio chwaraewr mini-disg John i fyny yn y tywyllwch. Wedyn gorwedd ar fy nghefn yn gwrando ar Stereophonics yn methu troi rhag tisian ac yn methu anadlu dan annwyd. Not a happy bunny. Fel oeddwn i’n disgyn i gysgu, mi redodd batri’r chwareuwr allan a bipian yn uchel yn fy nghlust a fy neffro. Disgynnais i gysgu am rhyw hanner awr cyn codi...

Diwrnod 5 - Pysgod via Wierdo April 4th, 2007 at 10:57

Pan yn cynllunio beth oedden ni am wneud bob dydd tra yn Ffrainc, mi oedd marchnadoedd yn helpu. Pryd a lle oedden nhw, dyna lle oedden ni am fod hefyd. Dyna pam ddewision ni fynd i Boulogne heddiw; y farchnad. Doedd o ddim cystal ag oeddwn i’n disgwyl. Er ei fod yn un ddigon mawr; mwy na’r rhai dwi wedi bod iddyn nhw yn ôl adra bethbynnag, doedd na ddim digon i mi ei weld yno. Dim ond lot o fwyd a diod oedd yna. llysiau, caws, llysiau, cig, caws, cig. Lot o hwyl bethbynnag. Ma’na un yn y dref lle ma’r ty fory, dwi’n obeithiol fydd hwnnw’n well! Mi brynodd John flodau i mi. 10 o rosod. Nausicaa wedyn. Wel, dyma i chi brofiad wnes i fwynhau lot fawr iawn. Mi oedd yr aquarium wedi’w gynllunio yn dda iawn; lot o sections gwahanol a lot o atmosffer. Goleadau a synnau...

Diwrnod 7 - Disgyn i’r Haul via Wierdo April 6th, 2007 at 11:52

Ein diwrnod llawn ola yn Ffrainc. Beth i’w wneud? Mi oedd hi’n anhygoel o braf ond mi oedd angen pacio cyn y nos felly doedd dim amser gwneud dim rhu anhygoel. Y penderfynniad terfynnol oedd i fynd nôl i Montreuil am chydig. Mi oedd hi mor braf mi dreulion ni gryn dipyn o amser tu allan y citadel yno yn chwarae. Pel droed a Badminton. John a Gareth yn chwarae badminton. Yn wych wrth sgwrs. Mi esi a John am dro trwy walia’r dref ac allan ochr arall a dechrau cerdded o gwmpas chydig. Mi oedd y syniad o antur wedi fy nhroi yn blentyn unwaith eto. Mi redais i, mi ddisgynnais i, mi griais i. Megis plentyn bach. Dwi heb ddisgyn ers blynyddoedd, ond dwi’n siwr fod henaint (ha!) yn golygu ei fod yn brifo lot fawr iawn mwy. Ma’ Saflon hefyd yn beth cas iawn. Pam, o pam fod...

Adra via Wierdo April 10th, 2007 at 11:59

A dyma fi. Dwi’n eistedd o flaen y teledu gyda gweddillion wy pasg wrth f’ochr. Dwi wedi dal fyny gyda’ng nghwsg i rhyw raddau a ma’n neis bod adra. Nain John efo chydig o’r siocled oedd i deithio yn eu car nhw. Welodd neb erioed gymaint o siocled a gwin yn cael ei sgwashio i mewn i gar. Mi oedd y car yn llawn ar y ffordd i Ffrainc, heb yr holl anrhegion. Ar y ffordd nol, mi oedd gennym ni yr un faint o petha gyda Siocled, gwin ac anrhegion (i ni’n hunain ac eraill) yn ychwanegol. Mi aethom ni i weld ffactori siocled fach ar y ffordd i Boulogne i ddal y gwch adra. Mi oedd yn fach, ond drud. Bag o siocled yn 9€! Mi brynish i far o siocled arferol a bar o siocled tywyll i mi a’n nheulu rannu (yn ara deg, mi dalish i 7€ amdanyn nhw). Wedyn i E. Leclerc;...