Welsh Blogs.com


Cofion y Cwrs, Rhan 2 via castell tywod July 25th, 2008 at 07:08

Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.) Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos....

Yn ôl o’r Cwrs Cymraeg via castell tywod July 23rd, 2008 at 00:45

image Des i'n ôl o'r Cwrs Cymraeg yn Iowa nos Sul (yn hwyr iawn, yn anffodus) ar ôl dysgu cymaint a gwella fy Nghymraeg mewn dosbarth arbennig o dda gyda Geraint Wilson-Price (ar y dde yn y ffoto). Hefyd, cwrddais i â Emma Reese, blogwraig arall oedd yn fy nosbarth i hefyd. Ces i lawer o hwyl dros yr wythnos, fel arfer. Fel arfer eto, roedd treulio amser gyda ffrindiau, yn enwedig y tiwtoriaid mod i'n ffrindiau gyda nhw fel Mark a Chris, yn brofiad arbennig. Roedd digon o gyfle i fi ymarfer siarad, a ceisias i'n galed siarad Cymraeg cymaint â phosib. Mae un problem mawr yr ydw i wedi darganfod, sef mae hi'n bron amhosib i fi ddweud beth dw i eisiau ei ddweud A siarad gyda acen ddigon da ar yr un pryd. Ydy hwn yn broblem cyffredin gyda dysgwyr tybed? Beth bynnag, roedd y dosbarth yn...

Gweithio, gweithio, gweithio… via castell tywod July 1st, 2008 at 20:04

Mae popeth yn brysur fel arfer. Dim amser i flogio. A pan dw i'n ymlacio dw i'n bant drwy'r dydd hefyd, mae'n ymddangos--dydd Sul fe aethon ni gyda cwpwl o ffrindiau i rafftio i lawr yr afon Americanaidd yn Sacramento (rhyw awr a hanner i ffwrdd). Dim white water rafting oedd hi, jyst arnofio i lawr yr afon mewn rafft gyda llawer o gwrw. Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o dwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dwr ar lan yr afon. Yfais i tipyn gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym. Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os mae hynny'n gwneud synnwyr. Mae e'n ffansio ffrind arall ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n priodi a ffrind ohono fe. Mae Mike yn priodi hefyd, ond mae e a'i wraig yn meddwl o'i hunain fel swingers. Y problem yw,...

Wrthi’n adolygu via Arth sy'n Dawnsio May 4th, 2008 at 15:55

Rydw i'n wrthi'n adolygu ar hyn o bryd, felly nid oes gennyf lawer o amser ar gyfer blogio (a ydw i wedi defnyddio "ar gyfer" yn gywir? Rydw i'n cael moment o fethu â chofio sut ysgrifennu'r Gymraeg). Gobeithiaf ysgrifennu cofnod ar ddydd Mercher neu ddydd Iau. Yn y cyfamser, cyfeiriaf chi i'm blog Saesneg, lle gellir gweld fideos o grŵp ska fy ffrind gorau, y Secondhand Ska Kings. Pam fyddech chi eisiau gweld fideos o grŵp na welwch chi fyth yn fyw, ni ŵn. Ond dyna chi. Mae'n rhywbeth i'w...

You win some, you lose some via Arth sy'n Dawnsio February 28th, 2008 at 12:04

Mae Shiona'n mynd. Hen hen ffrind yw Shiona y rydw i'n ei nabod ers fy nyddiau ym Mhortsmouth, mwy na degawd yn ôl. Roeddwn i'n arfer dweud ar y cofnodolyn hwn y byddwn i gadael y briodferch ifanc er mwyn Shiona. Roeddwn i'n dweud hynny pan oedd yna 5,000 milltir rhyngom ni. Nid yw mor gellweirus imi ddweud y peth bellach, gyda minnau'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Yn enwedig oherwydd tuedd rhai pobl credu taw gwir bur yw popeth ysgrifennaf amdanaf fy hunan.Gan ffawd glaniwyd y ddau ohonom ni yng Nghaerdydd yn yr un adeg. Tros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Shiona'n byw ¾ milltir i'r lan y ffordd oddi fy nghartref. Ond mae hi'n mynd yn ôl i'r Alban ar ddydd Gwener. Mae hi wedi cael digon o Gymru.Tra oedd pethau'n mynd yn wael imi'r llynedd roedd hithau'n brwydro dod o hyd ei lle yng...

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg via castell tywod February 18th, 2008 at 04:38

Dw i wedi dechrau unwaith eto gyda'r sgyrsiau dros y ffôn gyda fy ffrind, Brenda, sy'n dysgwraig hefyd a sy'n dod o Gastell-Nedd yn wreiddiol. Bron yn wythnosol, dyn ni'n dewis pwnc o flaen llaw, a mae un ohonon ni'n gofyn cwestiynau a'r llall yn ymateb. Mae'r pynciau yn eitha cyffredinol; er enghraifft, y pwnc ddydd Sadwrn diwetha oedd "ein taith ni nesaf." (Bydd hi'n teithio i Dde California yr wythnos nesaf.) Ar wahân i hynny, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ein dosbarth Sbaeneg y dyddiau yma, â dweud y gwir. Mae'r dosbarth yn mynd ymlaen; perfformiais i'n dda ar y dau brofion cyntaf. Ond does dim digon o amser i astudio. Am ryw rheswm dyn ni'n arbennig o brysur ar hyn o bryd gyda pethau fel gwaith, wrth gwrs, a hefyd ail-gynllunio fy ngwefan bersonol. Heddiw aethon...

Yr imperialydd olaf via Arth sy'n Dawnsio January 28th, 2008 at 23:39

image Yn Llundain oeddwn i tros y penwythnos. Neu dylwn i ddweud "Yn Llundain bûm"? Oherwydd pan soniaf am y penwythnos, rydw i'n sôn am adeg benodol, onid ydw i? Gramadeg Cymraeg: more fun than a kick in crotch, but only just.Beth bynnag, euthum i Lundain er mwyn ymweld â hen ffrind o Minnesota, Jen. Os cofiaf yn iawn, dwedais wrth Fflur fod Jen yn gyn-gariad. Mae hyn yn ymestyniad o'r gwirionedd."I've got a girl in every port," meddwn i.OK, roeddwn i'n gwneud mwy nag ymestyn y gwirionedd. Mae gennyf duedd i wneud hyn pan deimlaf yn is mewn presenoldeb person. Teimlaf fel mae yna angen arnaf gyfiawnhau mi fy hunan rhywsut. Petawn i geisio awgrymu fy mod yn ddeallus, byddai Fflur weld trwy hynny yn syth. Yn ei le, soniaf am the womens I got. Felly dyna oeddwn i'n ceisio big myself up trwy...

Blwyddyn Newydd Dda–2008 Hapus! via castell tywod December 28th, 2007 at 06:15

Dw i ddim wedi blogio ers talwm, ond wrth gwrs, mae pethau'n brysur dros y gwyliau fel arfer. Mae ffrindiau sy'n byw yn Hawaii (lwcus!) wedi dod i ymweld â ni a'i teulu nhw, felly dyn ni wedi bod yn mynd yma ac acw gyda nhw yn ymweld â ffrindiau eraill ac ati. Fe aethon ni i weld yr eira yn y mynyddoedd yn Pinecrest (rhyw 2 awr i ffwrdd) oherwydd mae bachgen bach 3 oed gyda nhw sy erioed wedi chwarae yn yr eira. (Does dim llawer o eira yn Hawaii sef ar gopa Mauna Kea.) Hefyd aethon ni gyda nhw i wylio gêm pêl-droed Americanaidd rhwng y 49ers a'r Tampa Bay Buccaneers. Dim yn gyffrous iawn i fi ond joiais i'r black-and-tans. Noson Nadolig fe aethon ni i barti yn nhy ffrind i ni, ac ar ddydd Nadolig aethon ni i weld teulu Rob. Dderbynoch chi unrhywbeth arbennig o...