Graddio via Wierdo July 22nd, 2008 at 17:41
Dwi di graddio. Dwi wedi gwisgo'r het wirion a'r clogyn. Dwi wedi tynnu'r llun efo'r disgysgrif ffug. Dwi wedi tynnu miloedd o luniau eraill. Dwi'n raddededig.Ac yn wahanol i be oni'n meddwl pan oeddwn i'n fach, dwi ddim yn berson gwahanol nag yn hen. Dwi yr un hen fi, yr un mor ddiog, yr un mor wirion, yr un mor bróc.Sydd ddim yn sypreis o gwbwl rili, gan mai dim ond lot o bres am ddim byd oeddo.Ar un llaw, mi oeddo'n ddwrnod neis - diwrnod allan efo'r teulu, lluniau neis i gofio'r diwrnod, a pryd bwyd hyfryd (ac anferth!) i orffen popeth!Ond ar y llaw arall? Mi oeddo'n ddrud iawn, yn ddiwrnod anhygoel o hir (cychwyn am chwarter i saith), ac i gyd er mwyn sefyll ar ben llwyfan am chydig o eiliadau yn nodio ar rhyw ddyn neu gilydd.Ond dyna ni, mae o drosodd rwan, ac er mod i wedi blino'n...
Dwi wedi ystyried sawl gwaith symud y blog yma i wordpress. Dwi ddim yn siwr iawn pam, ond ma'n swnio fatha syniad da. A'r gobaith yn y dyfodol ydi cael un cyfeiriad we sydd yn lincio i wefan lle mana ddewis os mai'r blog yma ta'r un saesneg dechi'n cyraedd.Swish.A mi benderfynnais fod wan yn amser da i wneud hyn, gan fod gin i dros yr haf i'w wneud o, ac yn ogystal a hyn, dwi yn ceisio gwneud y blog yn fwy "anonomous" cyn dod yn athrawes. Chos dwi ddim ffansi cael un o fy nisgyblion yn darllen am fy "drunken escapades" fel petai.Yn anffodus, dydio ddim yn gweithio felna.Tro dwetha i mi drio, mi lwyddish i gyraedd nunlla gan nad oeddwn i yn gallu ffindio nunlla i fy hostio am ddim. Chos dwim yn dallt.Ond troma mi oni'n meddwl mod i wedi'w dallt hi; wedi cael y syniad gora erioed. Gofyn i...
Dwi'n cal graddio! Dwi actiwli wedi llwyddo pasio digon o arholiadau i gael gradd mewn mathemateg. 3ydd ydio, ond dal, mae'n radd!
Mi geshi wybod fore dydd mercher ac i ddathlu mi nath mam brynu champagne a cacen i mi. Weeel, sparkling wine a jaffa cakes, ond ma'r dathlu dal yno dydi?!
Dwi wedi gorffen ym mhrifysgol Aberystwyth am byth. Yfory mi af i nol yr ola o fy mhethau o'r ty yn Aberystwyth ac mi fyddaf wedyn yn byw adra am bethbynnag blwyddyn. Scary stuff!
Hwyl a...
Ers cyrraedd adra ma'na lot o betha wedi dechrau fy ngwylltio gormod. Digon teg gwylltio ond ddim cweit gymaint ag ydwi. Digon teg trafod y gwylltio hyn â phobl erill ond ddim ei drafod eto ac eto ac eto. Felly dyma eu trafod mewn blog a cheisio cael eu gwared o'm mhen: er fy mwyn i a fy nheulu.BysusMae'n ddiogn o boen i orfod dal bys i bobman bethbynnag ond dwin shwr ei fod yn anoddach yng ngharmel. Does dim bysiau ar ddydd Sul nag ar wyliau'r banc fell dim penwythnosau i ffwrdd heb fod yn barod i gerdded 2 filltir adra. Ond dwi i raddau wedi derbyn hyn, jesd abowt.Ond mae'r ffaith fod fy mysiau i gyd yn mynd drw bob man a nunlla yn fy nghorddi i yn llwyr. Dwin gwybod fod rhaid i'r bysiau fynd drwy'r llefydd yma, fel y mae rhaid yddyn nhw fynd trw Carmel, ond tydwi ddim eisiau bod arnyn...
Geshi hunllef echnos.Wel, a bod yn onesd doedd o ddim wir yn hunllef. Wneshi ddim deffro yn crio na deffro llawn ofn. Mi neshi ddeffro yn casau pawb a phopeth.Roedd codi yn gangymeriad, mi ath popeth yn waeth wedyn.Oedd yn golygu mod i'n cerdded ogwmpas ddoe fel petai storm yn hongian uwch fy mhen. Mi oedd y ty yn fler, mi oedd darlithoedd yn waeth nag arfer a ma pres yn boen yng nghefn fy meddwl srwy'r amser.Treuliais lot o amser yn fy llofft yn cuddiad ac yn gwylio sothach ar y teledu. Mi oedd Neibys a Home & Away yn helpu!Mi ystyriais ddod yma i flogio ddoe ond penderfynnais peidio gan fy mod yn teimlo mor flin efo pawb a phopeth. Dwi';n falch mod i heb hefyd, mi fyswn i wedi dweud rhywbeth drwg.Chi byth yn teimlo mor flin, does na dim all neb ei neud i helpu? A chi'n gwybod ei fod...
Trenflogio via Wierdo February 16th, 2008 at 14:35
Yn aml iawn pan dwi ar drenau (neu amryw o sefyllfaoedd cyhoeddys eraill) dwi'n creu rhyw fath o fyd ffantasi i fi fy hun.Mae'r byd yma bron union yr un peth bob tro.Mae'n dechrau gyda bachgen. Mae'n rhaid iddo fo fod yn fy ngwynebu neu dio'm yn gweithio. Ma'n llygid ni'n cwrdd am hanner eiliad a dyna fi off yn syth i fyd ffantasi ffilmiau. Dau berson ar dren yn cwrdd ac yn disgyn mewn cariad. Fflyrtio, penegliniau'n taro, llygaid yn cwrdd.A mi wn yn iawn fod gin i gariad a mod i ar y ffordd i'w weld o felly mae disgyn mewn cariad ar y ffordd yno yn anghyfleus iawn ond does gan fy ffantasi ddim byd i'w wneud efo bod yn hapus efo John neu beidio. Y rheswm dwi'n cal y ffantasis hyn ydi achos mod i'n darllen gormod ac yn gwylio gormod o deledu. A dwi'n methu dechra perthynas. maethu'r dod i...
Dwi wedi blino'n lan. Ma gin i 2 ddarn o waith dwisho'i wneud heno ond allai ddim meddwl am wnaeud run ohonyn nw.Mi eshi chwara rygbi pnawn ma, ac er bo fi di mwynhau lot fawr iawn, mae o wedi cymryd fy holl egni. Allai ddim meddwl am ddadansoddi'r ANOVA a'r tests gwaanol heb son am feddwl am abstract algebra (ma maths yn hwyl!). Dwisho cyrlio fyny yn y gwely a cysgu.Dwi dal angen swper a bath.Y plan yr eiliad yma yw i roi swper yn y popty tra'n gwneud un darn o waith. Wedyn, tua hanner ffordd trwy'r coginio mae angen ychwanegu caws. Wedi gwneud hyn, cael bath am ryw hanner awr, cyn bwyta yn fy ngwely o flaen never mind the buzzcocks. Deffro chydig cynt bore fory i orffen y gwaith.Wneith ddim ddigwydd fel hyn, ond dyna'r oll dwisho'i wneud!Hwyl a...
fuck all else makes Mari a grumpy guts. Dwi wir ddim yn trio copîo Chris yma drw son am sut dwi ddim yn adolygu. Mi oni wedi bwriadu blogio hyn neithiwr ond mi nai esbonio nes ymlaen pam wnesh i ddim.Dyma sut oeddwn i ddim yn sdydio. Tynnu llunia moody du a gwyn o fy hun. Ond i fod yn deg, mi sdydiais i lot ddoe. Dechra tua 3 a gorffen am hanner nos (DYNA pam neshim blogio neithiwr!). 24 ochr A4 (narrow ruled wrth sgwrs) o sgwennu. Gan ystyried mai sdiwdant mathemateg ydwi, mi oedd o'n ddipyn o sioc i'r system.Neshi ddim byd ond eistedd yma trw pnawn. Ac erbyn y diwedd oni'n decrha torri lawr. Onisho crio a gwylltio run pryd, isho cysgu ond methu. Ond odd rhaid fi orffen erbyn heddiw. Dwin cal dechra et heddiw! Woo.Och, maisho gras i ddechra eto, ond a minna wedi gwneud mor wael yn...
Ypdêt #3 via Wierdo March 6th, 2007 at 00:17
Ai gif yp. Dwi di bod wrthi ers...dros 3 awr rwan. Mana dal dipyn go lew o lanasd ar y llawr, a dwin meddwl fodo well sut oddo cyn i mi ddechra, ond ffycit. Dwi di blino. Nai orffen fory (gobeithio)Nos dawchHwyl a...
Pam ddiawl dwin neud hyn? Dwi'n eistedd mewn llanast llwyr. Mi benderfynnish i symud fy llofft o gwmpas ac rwan dwi tua hanner ffordd.Os dwi'n cario mlaen, BOSIB weithith pop dim ac edrych yn dda.BOSIB neith popeth edrych yn waethBOSIB neith o'm gweithio a fydd o'n wast llwyr ar egniOs dwi ddim yn cario mlaen chai fyth wybod....ond dwi'n neud LOT o lanasd...HelpHwyl a...
Ypdêt via Wierdo March 5th, 2007 at 23:04
Dwi wedi llwyddo symud y petha mwya; y wardrôb a'r gwely. Mi fuodd rhaid i mi gael help efo'r gwely! Ond rwan dwi di gwneud darganfyddiad.Ma walia'r llofft ma'n gam.Wedi symud y wardrôb, ma'r gwaelod mor agos i'r wal a sydd bosib. Ond mana andros o gap yn y top. Unai ma'r wal neu'r llawr yn gam. Di hyn ddim yn fy mhoeni llawer; faint o bobl sydd am edrych lawr cefn fy wardrôb?Mae'r bedside table yn ffitio rhwng y wal a'r gwely (jysd). Ond os dwi'n trio'i roi o yn y gornel lle ma fod, wneith o ddim. Sydd mbach yn niwsans. Dwi'n gobeithio wrth sgwennu'r blog ma, gai rhyw nerth od o rywle sydd yn mynd i alluogi i mi newid siap y gwely/bedside table/sdafell. Byw mewn gobaith.Ar ôl fi ffindio ll i roi bob dim dwi angen tacluso'r manion sydd bobman, ma angen hwfro a dysdio a phopeth. Ma hi...
Ypdêt #2 via Wierdo March 5th, 2007 at 23:13

Dio'm am ffitio nadi?Dwi'n cwara efo'r syniad o gadw fo felna; droedfedd oddi ar y llawr...extra storage space?Hwyl a...
Ma fy nghariad newydd ofyn i mi am fy "hot-list". h.y. pa "celebrities" dwin meddwl sydd yn hot-stuff. Hyd yn hyn, ma gin i David Tennant. A fo, yn amlwg. Ond rwan dwi'n sdyc. Ma'n hollol gwbwl wirion. Dwi'n gwybod nad ydwi'n sylwi ar bobl lot ond man rhaid mod i'n gallu meddwl am fwy na jesd David Tennant? Och. Ym....Reit. Gadewch i mi fod yn methodical. Pa ffilmiau dwi'n hoffi?Marx Brothers: hehe. na. Neb yn hot stuff yn fana. Er mi oedd zeppo yn reit olygus! Ond ddim rili i miSliding Doors. John hannah. Ia. Oce. Rhif Dau i'r rhestr! Braidd yn hen, ond ddim mor hen a Zeppo!!!Truman Show: Neb yn fana.Lord of the rings: meh. Aragorn amwni...ond eto, mehDwi byth yn gallu cofio ffilms. Neshi edrych trw IMDB a bob dim ac oni methu meddwl! Cerddoriaeth? Seth Lakeman. Naish. And look....a...
Dwin meddwl mod i wedi cyrraedd fy llawn botensial. Ddim yn y petha' da dalltwch, ond waeth i mi farw ddim.Reit, dyna fi wedi dechra'r blog mewn ffordd neis a phositif, gai gario mlaen.Dwi wedi bodyn fwy "crazy" yn ddiweddar. Dwi'n reit fodlon cyfaddef mod i'n ditzy ac yn rhyfedd weithiau. Dwi'n siarad gyda fy hun yn aml, ac yn amlach fyth gyda "innanimate objects", dwi'n obsesive cumpulsive am rai pethau (ffyrc, cwpannau, switchis golau....) ond dydwi ddim yn cael fy adnabod fel person "crazy" (wel, ddim gen bawb ;) ) Ond y dyddia dwetha ma, dwi wedi bod mewn mwd gwirion iawn. Mae fel petai fod fy holl agweddau gwirion wedi gwaethygu. Dwi wedi bod yn siarad gyda fy hun ar bob cyfle bosib, wedi bod yn siarad a phopeth bosib. Enghraifft yw pan eshi neud brechdan menyn i'n hun dros y...
Mi ddoish i i'r llofft i neud gwaith. Dwi yma ers dipyn go lew o amser rwan.Ar ol llwyddiant (HA!) yr arholiada, mi benderfynish i 3 peth.Mi oeddwn i am fynd i fwy o ddarlithoedd. Dwi'n hynnod ddiog ac wedi gaddo hyn i'm hun bob tymor. Dal yn aros i lwyddo.Mi oeddwn i am gopiio i fyny pan oni'n methu darlithoedd. Mi ddarganfyddish i fod hyn yn broblem yn yr arholiada troma; trio sdydio rwbath a darganfod fod gin i ddim i'w sdydio.Cadw fy nodiada yn daclus a threfnus. Man anodd sdydio os dechim yn dallt sgwennu eich hunain ac os dechin treulio hanner yr amser sdydio yn rhoi popeth mewn trefnGwneud gwaith. Denin cael ar y mwya 2 aseiniad yr wthos a manw mor debyg i gwestiynna arholiada, man wirion peidio. Ond dwi byth yn.Dwi di methu dau ddarlith heddiw. Sydd ddim yn ddechra da o gwbwl i...
Blogio Nôs via Wierdo January 19th, 2007 at 01:11
Ma hi wedi un yn y bore. Dwi'n gwneud beth dwi'n ei wneud yn aml yn ddiweddar. Dwi yn fy ngwely yn gwylio Dr who (tra ar y laptop, yn amlwg). Dwi di gwylio "Girl in the fireplace" oleia 2 os nad 3 gwaith wthos yma (oleia un yn feddw). Och, dwin caru Dr who.Ond os nad ydi hyn yn ddigon geeky, dwi hefyd yn aelod o grŵp ar facebook o'r enw "I wish I were your derivative so I could lie tangent to your curves". Yn darllen lot o betha clefar felna. "Your mamma is easier than differentiating e^x" neu "there are 10 tyoes of people in the world; those who understand binary and those with friends" (dwin falch o ddweud nad ydwi'n dallt binary. Mi ydwi'n dallt sut ma barcodes yn gweithio...) Hmmm. Mana fwy. "Nerds do it rarely", "If I could rearrange the periodic table, I would put "I" on top of...