Wel, nachi'r haf wedi dechra go iawn. Mi gyrhaeddish i adra ddoe wedi blino'n lan ac yn drewi dipyn go lew. Gwychder yr haf wedi cychwyn o'r diwedd.Dydd gwenerCael lifft lawr i Aberystwyth a wedyn parti pwnsh yn nhy newydd fy mrawd yno. Ma pynsh yn lethal. A minna yn downio gymaint a phosib gan modi'n trio arbed arian a doedd y pynsh ddim yn fy meddwi bethbynnag. Hynny yw tan i mi adael y ty i fynd i gig texas radio band yn yr Angel. Dau beint o siedr yn fana ac wedyn dwi jesd abowt yn cofio mod i wedi mynd adra i'ng ngwely ar ol gwario dim ond £10 (£5 o hwnw ar fynd i mewn i'r gig!).Dydd SadwrnBrecwast yn varsity er mwyn trio sobri ein designated driver. Yno trafod y planiau. Y plan gwreiddiol oedd cael tacsi i Llanrwst ac aros yn ty rhywun yn fana. Ond doedden ni methu cael tacsi....
Dyma ddymunodd mam f'annwylyd i'w gefneither bore ma. Dim joc fel ma bobl yn gneud weithia: dweud y peth anghywir yn fwriadol, ond cangymeriad hollol onest.Pasg hapus oedd hi'n feddwl wrth sgwrs. Mi geshi diwrnod plentynaidd iawn heddiw gan ddechrau gyda chwilio am wyau pasg bacho gwmpas llawr gwaelod y ty.Brecwast cyntaf yn y ty heddiw; croissants, french stick a jam. Gorjys. Yr unig broblem oedd fod y trydan dal ddim yn gweithio ac felly doeddwn i methu rhoi fy nghroissant yn y microwave - croissant cynnes yw fy hoff mrecwast yn y byd i gyd yn grwn.Wedyn ymlaen i explorio'r dref ac i chwilio am y farchnad. Ac wrth sgwrs wedyn mi oedd rhaid hmmio a hoooio os dwi'n mynd i brynu hyn neu'r llall cyn setlo am dop llewis hir du a maroon sydd yn edrych fel dillad gwrach.Gan fod hi'n ddydd Sul...
Pyro 2 via Morfablog February 8th, 2008 at 10:07
Wedi gweld y “gêm tywod” Pyro ambyti y lle cwpl o weithiau, ond heb dreulio digon o amser arno i weld yr apêl. Ond newydd ddarllen hen bost ar flog Sheena a rhoi go arall arno. Mae hi’n iawn, unwaith ti’n dod yn arfer (rhyw 5 munud o ffidlan yn fy achos i) mae’n hollol [...]...
So ffar… via Wierdo May 25th, 2007 at 00:51
Dwi di blino'n lan a mai wedi hen basio fy amser gwely ond dwi heb flogio ers dipyn felly dyma flog byr i grynhoi sut ma petha di mynd.Arholiad rhif 1 - Bosib wedi pasio efo'r gwaith cwrs. LOT gwell na'r disgwlArholiad rhif 2 - Ofnadwy. Lwcus o gal marc o gwbwl. Neshi adal yr arholiad yn crio...wel naddo. Neshi adal yr arholiad a wedyn crio. Ah wel, methu neud dim wan.Penblwydd John - Penwythnos hyfryd yn Lerpwl. Doeddwn i wir ddim eisiau gadael.Arholiad rhif 3 - Mi eshi mewn i'r arholiad yn disgwl methu atab cwestiwn. Doeddwn i heb ddallt y darlithoedd trw'r tymor ac mi oedd y darlithwr yn newydd ac yn wael iawn. Ond, er nad ydwi heb basio'r modiwl (os nad dwin lwcus iawn iawn iawn), mi lwyddish i i gal dros 30, syn neis (i fi).Heddiw? Dwi di treulio trw dydd heddiw yn cael diwrnod i'r...
HA! via Wierdo January 21st, 2007 at 14:37

Mi nath chwadan roi linc ar y blog yma i gem. Dwi wedi bod yn chwarae'r gem ers 10 munud ac wedi cael fy amser i lawr i 4.617 eiliad. Wele;Chi ffansi trio nghuro i?Reit sdydio...go!Hwyl a...
Awydd dysgu chydig o Wyddeleg? A hynny drwy’r Gymraeg?
Ewch draw i wefan Lexicelt felly. Gwefan a ddatblygwyd gan Ganolfan Bedwyr a Phrifysgol Dulyn fel teclyn cymorth i ddysgwyr Gwyddeleg a Chymraeg. Mae yno eiriadur Cymraeg/Gwyddele a Gwyddeleg/Cymraeg yn ogystal â llyfryn ymadroddion, gyda chlipiau sain.
Gan yr un criw hefyd y datblygwyd y gemau Ieithgi, sef rhan o stwff Colin a Cumberland y BBC, ond y tro hwn gemau iaith ar gyfer siaradwyr rhugl ydyn nhw. Mae hwn wedi bod o gwmpas am chydig ond doeddwn i rioed wedi dod ar ei draws tan heddiw. Rhywbeth bach da i basio’r amser ar ginio Gwener glawiog.
Mae yno Groeseiriau, Dic Penderyn (Hangman) a Chybolfa (fel y Nonagram oedd y yn Western Mail) ymysg gemau eraill.
Mae ‘na hefyd le i ymarfer a gloywi eich...