
Roedd ‘na restr ddiddorol yn y Guardian heddiw o’r 20 aelod seneddol fuasai’n cadw eu seddau petai tuedd oddi wrth Lafur tebyg i’r un a gafwyd yn Glaschu an Ear yn digwydd yn gyson trwy’r Deyrnas Gyfunol. Da gweld bod Llafur yn cadw rhai o’n fferfrynnau yng Nghymru!
Edward O’Hara - Knowsley
John Cummings - Easington
Peter Kilfoyle - Lerpwl Walton
Jeff Ennis - Dwyrain Barnsley
David Blunkett - Sheffield Brightside a Hillsborough
Joe Benton - Bootle
Chris Bryant - Rhondda
Don Touhig - Islwyn
Ian McCartney - Makerfield
Tom Clarke - Coatbridge, Chryston a Bellshill
Ann Clwyd - Cwm Cynon
Dennis Skinner - Bolsover
Chris Mullin - Houghton a De Sunderland
Yvette Cooper - Normanton, Pontefract a Castleford
Dai Havard - Merthyr Tudful a Rhymni
Hywel...

Dwi newydd wrando ar Nicola Sturgeon, dirprwy arweinydd yr SNP a dirprwy brif weinidog yr Alban, yn siarad ar BBC Radio Scotland. Roedd hi’n gweld y frwydr yn yr isetholiad yn Glaschu fel un rhwng dwy lywodraeth – San Steffan a Holyrood – a’r canlyniad yn cadarnhau polisïau yr SNP mewn llywodraeth. Pwysleisiodd pa mor fawr oedd y duedd tuag tuag atynt hwy ac oddi wrth Lafur. Roedd hi’n amlwg ei bod hi wrth ei bodd. Roedd ei boddhad i’w glywed yn ei llais ym mhob un o’i hatebion. Mae llawer mwy o gollwyr nag enillwyr mewn gwleidyddiaeth, a dwi fel llawer wedi hen ddysgu beth yw hi i golli, ond mae ennill yn gwneud i rywun deimlo’n dda ac mae medru rhannu mewn llwyddiant yn gwneud i rywun deimlo’n dda hefyd.
Note: There is a rating embedded...

John Mason gyda Bashar Ahmad MSP a Mohammed Ashgar AC. Oddi ar flog SNP for Glasgow East.
Fe es i’r gwely yn weddol hwyr wrth fy arfer i – roedd hi wedi troi 11.00pm – os oeddwn yn mynd i godi am 6.00am fel dwi’n arfer ei wneud. Roeddwn i wedi bod wrthi’n cyfieithu ar y pryd am ryw ddwy awr a chwarter mewn cyfarfod grŵp cynghorwyr sir Plaid Cymru yn Aberaeron ac wedi cael gwledd ddigonol o wleidyddiaeth (leol) i’m cadw yn hapus am wythnos neu ddwy. Felly doeddwn ddim yn bwriadu aros ar fy nhraed i glywed canlyniad isetholiad Dwyrain Glaschu (Glasgow East). Pan oeddwn i’n iau byddwn wastad yn aros ar fy nhraed i glywed beth oedd y canlyniadau er bod hynny’n yn mynd yn erbyn profiad fy mhleidlais gyntaf erioed – refferendwm 1979 – sef bod angen...