Welsh Blogs.com


weithiau via Wierdo October 22nd, 2008 at 21:07

Rwy'n poeni weithia mai'r label mwya poblogaidd ar fy mlog yw "meddwi". Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl mod i'n alcaholic. Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl fod rhaid i mi yfed alcahol er mwyn cael hwyl. Rwy'n poeni nad yw pobl yn dallt mod i'n sgwennu am yr amser rwy'n meddwi yn aml gan mai dyna'r amser rwyn cael y straeon gorau i'w dweud.Rwy'n poeni weithiau fod y label "gwaith" yn dal i fyny efo "meddwi". Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl mod i'n work-aholic. Mae hynny yn bell o fod yn wir. Rwy'n poeni hefyd fod llawer o'r blogiau "gwaith" yn trafod y ffaith nad ydwi'n gweithio. Rwy'n gweithio'n galed iawn, oni bai am yr amser pan dwi ddim.Rwy'n poeni weithiau mod i'n blogio ddwywaith mor aml am "fi" nag ydwi am y "teulu". Rwy'n pryderu fod bobl yn fy ngweld yn hunanol. Rwy'n poeni fod y...

Ochenaid. via castell tywod October 17th, 2008 at 09:52

Dw i ddim yn hapus iawn y dyddiau yma gyda'r gwaith--mae'n ymddangos bod neb eisiau fy nhalu am unrhywbeth. Mae hi'n anodd ddod o hyd i waith creadigol yn y dre 'ma. Mae'r economi'n ddiflas hefyd. Dw i'n gobeithio bod Obama yn ennill yr etholiad ond dw i'n ofni bod pobl yn yr UDA yn rhy rhagfarnllyd--yn gyfrinachol efallai--iddo fe ennill. Hoffwn i fynd rhywle arall ond dyw fy ngwr ddim eisiau gadael ei swydd dda. O wel. Rhywbryd...

Gwawr a Machlud via Wierdo October 13th, 2008 at 19:44

Tydwi ddim yn berson bora. No, sir-ee, mornin ain't my thing. A fel rhan o fy nghwrs, ma'n rhaid fi godi am 6:00am a cychwyn o'r ty am 7:10.Tydio ddim mor ddrwg ag oeddwn i'n disgwyl, mae'n rhaid mi fod yn gwbwl onest: dim ots faint dwi'n mwynhau cwyno am y boreua cynnar ag am orfod mynd i'r gwely yn gynnar, mi ydwi dal yn fyw ac yn mwynhau!Yn ychwanegol i hyn, pan rwy'n trafeilio yn foreuol, rwy'n cael gweld y mynyddoedd a'r cymylau ar dân wrth i'r haul wawrio dros y mynyddoedd. Mae'n wych bob bora ac yn codi'ng nghalon pan fo'r cwsg dal yn fy llygaid a fy nhraed yn llusgo (yn drosiadol wrth sgwrs - mi fysa traed yn drwm tra'n dreifio yn....drychinebus!).A phan rwy'n cyrraedd adra, mae'r awyr yn gynnes ac mae'r belen yna o dan dwi prin yn ei weld yn ystod y dydd yn cael ei lyncu mewn...

Yp-det via Wierdo September 18th, 2008 at 15:27

Ymddiheuraf am y diffyg blogio. Mi ydwi dal yn fyw, neu mi oeddwn i y tro dwetha i mi edrych yn y drych. Mi ydwi hefyd dal i sgwennu'r blog madrid sdeddfod ac eis crims mewn rhannau. Dosna'm lot i fynd.Ond yn y cyfamser? Dyma fy mywyd:Tan mis Hydref, dwi ym mhrifysgol Bangor yn astudio i fod yn athrawes. Tydi hyn ddim mor ddrwg a'r disgwyl. Er fod gennyf i lot fawr iawn o waith i neud (gwirionedd), mae gin i ddigon (ish) o amser rhydd i wneud gwaith. Fel pnawn ma. Ond dwin blogio yn lle...O fis Hydref ymlaen mi fyddaf mewn ysgol. Mae'r ysgolion dwi'n mynd ill dau dros awr i ffwrdd felly bwriadaf dreulio fy amser wedi blino'n lan ac yn gweithio!Gyda'r nos rwy'n rhannu fy amser rhwng f'annwylyd, fy rhieni, fy ngwaith a fy mlog. Ddim yn deg iawn, ond rwy'n rhannu'r amser. Pan efo 'nghariad...

Ar ben fy hun via daflog August 29th, 2008 at 12:14

Dwi ar ben fy hun yn y swyddfa, tra fod pawb yn y dafarn (wel mae rhaid i rywun ateb y ffôn, dyna fe esgus). Dwi’n chwarae cerddoriaeth FrankMusik yn uchel. Perffaith! (ac ydi mae’r blog yma yn dipyn o twityr......

Prysurdeb via Wierdo July 8th, 2008 at 08:00

Wel, dyma fi unwaith eto, heb geiniog i'm enw a dim ond gwario i edrych ymlaen ato! Mewn gwirionedd, mae'r diffyg gwaith yn beth da ar y foment, gan fy mod mor an hygoel o brysur!Wythnos yma, dwi'n helpu dad efo'i lechi - ma'r amser o'r flwyddyn wedi cyrraedd ble mae o wedi cael ordor gin CADW a mana filoedd o lechi i'w oilio. Mae oilio llechi yn swydd ddiflas iawn iawn ac yn un o fy nghas bethau. Dwi'n cal coasters, yn eu rwbio mewn carped sydd yn damp efo linseed oil, rwbio'r llechi eto mewn carped sych, sdicio ffelt ar y cefn, rwbio'r ochrau yn y 2 garped a wedyn eu sychu gyda clwt sych. Eto ac eto ac eto.Ond dyna ni, dwi wedi dod adra o dy f'annwylyd am hanner awr wedi saith yn y bore i oilio llechi bore ma er mwyn gallu cael rhyw fath o hwyl bore ma.Wicend ma, ma angen dathlu...

Rhwydwaith treftadaeth via daflog March 18th, 2008 at 17:17

Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i’w wneud yn yr ardal a llefydd i aros. Rôl fach oedd gen i yn yr holl beth - rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a’u cysylltu i’r we. Gan mai y cynghorau lleol sy’n darparu’r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae’r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo....

Prodyctifity via Wierdo February 5th, 2008 at 16:15

Dwi'n cael dyddiau prodyctif iawn ac mae'n cychwyn fy nychryn.Hwn yw'r ail, ie yr AIL ddiwrnod i mi beidio eistedd o flaen y teledu am oriau ac oriau pan fod gin i rywbeth pwysicach i'w wneud.Ddoe, mi godais, mynd i ddarlithoedd, gwylio neibys a chael cinio, mynd i siopa, mynd am jog, coginio myshrwm stroganoff i swper cyn cael bath a gwylio ffilm.Heddiw, darlithoedd, cinio a wedyn llyfrgell i wneud gwaith. Ar ol y ddarlith sydd gin i mewn ychydig, dwin bwriadu mynd adra, mynd i siopa am betha gneud crempog a wedyn creu pryd hyfryd a pwdin gyda crempogau. Gwychder.Problemau a hyn:Dwi wedi bod yn y llyfrgell ers dros awr a hanner yn ymchwilio i mewn i ieithoedd wedi'w dyfeisio. Esperanto, Klingon, middle earth, sign language a.y.y.b. - GRET.Allaim darganfod hanner digon o lyfrau i wneud...

Ail Gyfle via Wierdo January 22nd, 2008 at 20:00

Dwi di cael ail gyfle i raddau helaeth. Di'r cyfle yma ddim cystal a'r cynta ond ma'n gyfle er gwaethaf hynny. Tydwi ddim yn un am wneud y mwyaf o'r cyfle cyntaf heb son am yr ail un.Aileistedd arholiadau, dyma dwi'n son amdano.Mi gai fethu 60 credyd o fy nghwrs a dal cael gradd. Dim un da, ond gradd er hynny. Dwi wedi methu 50 credyd llynedd ac felly dim ond un arall gai fethu. Ond, mae'r brifysgol, chwarae teg iddyn nhw yn rhoi ail gyfle i mi drwy adael i mi aileistedd y'r rhai arholiadau hynny a fethish i a pasio y tro cynta. Ond nid am farc da, o na, jesd i gal pass. Hynny yw, does dim ots pa farc gai, os dio dros 40, 40 fydd fy marc. Sydd ddim llawer o help i'r radd ond yn helpu rhag ofn fod yr arholiadau eleni yn mynd lawr y toilet. Eto.Y theori ydi wrth sgwrs mod i wedi dysgu fy...

Adduned via Wierdo January 22nd, 2008 at 21:30

Mae'n rhaid fod yr aroliad yma yn arbennig o ddiflas, neu fod 3 arholiad a 4 i fynd yn dechra' dweud arnai. Bethbynnag yw'r rheswm hwn yw'r trydydd blog i mi sgwennu yn y ddwyawr dwetha.Mi wn fy mod ambell ddiwrnod yn hwyr, ond blwyddyn newydd dda i chi gyd. Doedd gin i ddim adduned blwyddyn newyd per ce felly tydwi heb ei dorri. Er gwaethaf hynny mi oedd gin i'r hanner syniad o rai, yn union fel pob blwyddyn arall.Yr un amlycaf o'r rhain oedd i sdydio mwy a bod yn gyffredinnol well gogyfer a gwaith coleg. Mi ddiflnnodd hwnnw o 'mhen ychydig eiliadau wedi iddo gyraedd.Un arall oedd bod yn well efo pres. Di hwnnw ddim am ddigwydd chwaith. Me likey spendy money.Mae bod yn drefnus a thaclus yn uchelgais sydd gin i erioed. Pan oeddwn i'n fach ac yn creu gemau newydd i mi fy hun neu i mi a'm...

Gwaith via Wierdo January 23rd, 2008 at 22:00

Ma gin i gymaint o waith i neud. Dwim yn i ddallt o a dwi di blino'n lan. Gan mod i wedi blino, ma meddwl am waith yn anoddach fyth ac oherwydd fod y gwaith yn anodd a mod i di blino, dwisho crio, sydd yn ei dro yn gneud hin anodd gweithio gan nad ydwin gallu gweld be dwin neud.Yng nghefn fy meddwl drw'r amser ma'r ffaith mod i'n agos at fethu graddio yn gyfan gwbwl felly man RHAID i mi basio hwn. Man RHAID i mi.A dwim yn teimlo y gallai siarad efo neb arall, dim John na neb, achos yn y pen draw be allith neb neud? Bod yn ysgwydd i grio arno? Fy mai i ydi hyn i gyd yn y pen draw felly be neith bod yn wirion ac yn fabi mawr ei gyflawni?Dosa ddim un siawns yn y byd allai basio fory ond dwi ddim am roi i fyny gan fod RHAID i mi basio. Mae'n RHAID i mi.Be wnai os nai fethu? Dod yn ol flwyddyn...

Dw i’n dysgu…Sbaeneg?! via castell tywod January 27th, 2008 at 07:34

Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly... O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!! Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod...

Gwaith / Work via glas January 21st, 2008 at 19:53

Mae gen i fwy o waith nac erioed eleni. Dwi wedi arfer gyda un traethawd yr wythnos - dim mwy, dim llai, rhythm arferol. Tymor yma - traethawd yr wythnos, ymarferion paragraffau bychain o ffynonellau (gobbets), darllen ar gyfer dosbarthiadau Historical Argument and Practice a dau draethawd hir i'w gwneud drwy'r cwbl.Ac fel sydd wedi digwydd yn ddibynadwy drwy fodolaeth y blog hwn, dwi'n blogio pan dwi fwyaf prysur am mai bryd hynny mae gen i rhywbeth i'w ddweud! Pan mae gen i amser i ysgrifennu, does gen i ddim byd i'w ddweud! Beth bynnag, yn ôl at y gwaith.Mae fy nhraethawd i'r wythnos hon yn wahanol i bob un arall dwi wedi eu cael ers dod i Gaer-grawnt. Traethawd yn cymharu A Room of One's Own a Three Guineas sydd gen i ac er nad nofelau yw'r ddwy ysgrif, maen nhw'n dra gwahanol i'r...

Dathlu deg via daflog October 29th, 2007 at 16:37

Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers......

Parlo Gallese via castell tywod October 26th, 2007 at 23:55

image Duw, does dim amser i flogio bellach. Dw i wedi bod yn gweithio unwaith eto ar brosiect freelance yn gwneud ymchwil cwricwlwm ar gyfer Riverside School for the Arts. Hefyd dw i wedi bod yn helpu gyda gwobrau llyfrau i bobl ifanc, yn trefnu categori nofelau graffig a hefyd ar banel enwebu yng nghategori SF/Ffantasi. Llawer o waith ydy hi, ond dw i'n cael sawl llyfrau yn rhad ac am ddim. Gwych! :) Dyma ffoto ohono i yn y Ren Faire. (Rhaid i ti fod yn "cyswllt" ar Flickr i weld y weddill.) Roedd "reptile petting zoo" yno a dw i'n hoffi ymlusgiaid. Hefyd, roedd Molly, merch ffrindiau, eisiau mynd i weld yr ymlusgiaid ond doedd hi ddim eisiau mynd i mewn ar ei phen ei hunan. Felly es i i mewn gyda hi. Roedd y neidr yma yn fy hoffi fi, dw i'n credu. Neu yn meddwl fy mod i'n goeden. Un neu'r...

mysh o ddarlithoedd a meddwi via Wierdo October 11th, 2007 at 10:30

Mae'r dyddia'n hedfan heibio a dwi wedi bod yn ol yn y brifysgol ers ddigon agos at 3 wythnos. A hwn yw fy mlog cynta ers dod yn ol. Mi wn nad oes esgus am hyn ac ymddiheuraf. Mae'r dyddiau erbyn rwan yn cymysgu'n un mwsh mawr o ddarlithoedd a meddwi.Ond, i fod yn deg dwi wedi bod ym mhob darlith oni bai am un. Sydd yn wych i mi. A'r unig reswm fethish i'r un ddarlith yna oedd achos mod i'n hynnod hynnod hyng-ofyr. A dwi di cal y nodiada i gopiio i fyny felly pw i unrhywun feiddia edrych yn flin arnai am ei fethu!Wedi dweud hyn i gyd, mi fysa'n anodd i mi fethu lot o'n narlithoedd. Dydd off ddydd llun, diwrnod llawn ddydd mawrth, dydd off dydd mercher, bora llawn ddydd iau a mond 2awr dydd gwener. Unwaith dwi fyny yn fy narlithoedd, mi ai i bob un. Codi allan o'r gwely sydd yn...

Cysylltiadau, a.y.y.b. via castell tywod September 11th, 2007 at 02:18

...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi. Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd...

Beth Wnes I Heddiw? via castell tywod August 25th, 2007 at 00:39

Ymm...Dim byd yn ddiddorol iawn, â dweud y gwir. Codais i am chwarter i naw yn y bore, a ches i goffi a tost am frecwast. Darllenais i ychydig (wel, mwy nag ychydig) a chwaraeais i gyda'r gath fach ffôl nes i'r curo ar ochr y ty^ fynd yn rhy swnllyd. (Roedd y gweithwyr yma am wyth o'r gloch yn y bore.) Wedyn, es i i'r gampfa am bron awr a hanner, i rhedeg ar y felin draed, defnyddio'r peiriannau, a nofio tipyn bach. Ar ôl dychwelyd adre, ces i "soft tacos" i ginio, cymerais i gawod bach neis, a wedyn gweithiais i ar boster ar gyfer tymor newydd y Prospect Theater Project, lle dw i'n dylunydd graffig. Pig Farm gan Greg Kotis, awdur Urinetown, yw'r ddrama gyntaf. Myn uffern i, dw i'n meddwl bod y gweithwyr yn ceisio distriwyo'r ty^, nid adeiladu rhan newydd. Dw i newydd...

Dyma Fi Eto! (Diolch…Diolch) via castell tywod August 22nd, 2007 at 07:49

Wel, nawr, wrth i fi gael fy meirniadu, dw i'n teimlo pwys i bostio. Felly, dyma rhestr bach o bethau a wnes i heddiw, wrth i 'ngwr i fod yn Alaska yn pysgota gyda'i dad: Ail-olygais i bedwar pennod o fy nofel i bobl ifanc (nofel newydd sy ddim yn sôn am Gymru o gwbl--mae'n flin 'da fi) Chwaraeais i gyda'n cath fach, Zelda, am oriau. (Mae hi'n hyper.) Gwastraffais i ormod o amser yn edrych ar bethau heb bwynt ar y wê, fel gwybodaeth Wicipedia am fy ardal i. Sgwennais i gerdyn post at fy chwaer a'i theulu yn Awstralia. Mae'r cerdyn post yn dod o Efrog Newydd. Des i n'ôl o Efrog Newydd tua tri wythnos yn ôl. Colledwr (colledwraig? colledydd?) ydw i. Teipiais i rhyw bethau diflas ar gyfer swydd freelance; roedd rhaid i fi ei wneud cyn cynfarfod y bydda i'n mynychu...

Gwyddoniadur Cymru via daflog July 27th, 2007 at 15:22

Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? (Oeddwn). Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina (Nag oeddwn, diolch am y ffaith hynod o ddiddorol hwn). Mae hyn i gyd a llawer mwy yn y gyfrol Gwyddoniadur Cymru sy’n cael ei gyhoeddi mewn rhai misoedd. Nawr mae’n bosib archebu eich copi o flaen llaw ar wefan......

Ysgol Haf Bangor diwrnod 5 via Blog Dogfael July 2nd, 2007 at 23:17

image Ddydd Llun roedd dydd Gwener yn ymddangos yn bell iawn. Ond hedfanodd yr amser ac fe ddaeth yn ddiwrnod olaf yr Ysgol Haf. Roedd heddiw’n ddiwrnod o ysbrydoli, o’n sicrhau fod newid yn bosib ac o ddweud hanesion am lwyddiant pobol i newid. Cychwynnwyd y diwrnod gan y cadeirydd, Dr Neil Wooding, a ddiolchodd i bawb am fod yn gyson yn mynychu’r sesiynau a’n hannog i feddwl o ddifrif am sut yr oedd hi’n fwriad gennym i weithredu’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn ystod yr wythnos. Y siaradwr cyntaf oedd Richard Gerver, pennaeth Grange Primary School yn Long Eaton, Swydd Derby. Fel pennaeth fe lwyddodd Richard Gerver i newid yr ysgol a’i gwneud yn batrwm ar gyfer ysgolion eraill. Roedd ei waith yn drawiadol iawn er bod gen i lawer o gwestiynau am...

Ysgol Haf Bangor diwrnod 4 via Blog Dogfael June 28th, 2007 at 23:30

image Thema y dydd heddiw oedd Diwylliant Trawsnewid a chadeiriwyd y sesiynau gan un o brif weision sifil Cymru, sef pennaeth yr Adran Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, Steve Marshall. Mae e’n dod yn wreiddiol o Awstralia ac roedd hynny’n amlwg. Ei waith yntau oedd cyflwyno swyddog hyd yn oed pwysicach, sef ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru – pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru, mewn geiriau eraill – sef, Syr Jon Shortridge. Mae e wedi bod yn bennaeth ers Mawrth 1999. Ef oedd yn gyfrifol am y gwaith o trawsnewid y Swyddfa Gymreig yn Gynulliad Cenedlaethol. Ef oedd yn gyfrifol hefyd am ail-gyflunio llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Yn ei gyflwyniad fe ganolbwyntiodd yntau ar y gwaith o sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn drefniadol a’r newid...

Ysgol Haf Bangor diwrnod 3 via Blog Dogfael June 27th, 2007 at 23:08

image Mae’n ddydd Mercher bellach a dyma drydydd diwrnod yr Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ym Mangor. Roeddwn i’n ofni y byddai’r amser yn mynd yn araf, ond mae’n hedfan heibio. Rhaid cyfaddef fod y cyfarfyddiad gydag Emma Reese wedi gwneud byd o wahaniaeth. Dwi wedi addo cyfarfod â hi amser swper heno er mwyn cael sgwrs. Os oedd ddoe yn ddiwrnod o ddamcaniaethu ynglŷn â newid ddoe, yna heddiw roedd pobol yn troi eu sylw at yr agwedd ymarferol, sef sut mae rhywun yn arwain newid ac yn ymateb i newid o fewn i sefydliad, neu’n Datblygu Sefydliadau. Cadeiriwyd y diwrnod yn ddeheuig gan Isobel Garner, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y siaradwr cyntaf oedd Paul Tarplett o’r Office for Public Managment. Canolbwyntiodd ef ar sut mae...

Ysgol Haf Bangor diwrnod 2 via Blog Dogfael June 27th, 2007 at 22:04

image Yng nghysgod cyfarfod ag Emma Reese doedd ‘na ddim a allai ddigwydd yn yr Ysgol Haf a fyddai’n dod yn agos i gystadlu. Ond dyna lle’r oeddwn i’n anghywir a’r hyn sy’n ddiddorol yw taw siaradwr o’r Taleithiau Unedig oedd hwnnw. Ond cyn i mi fynd ymlaen i sôn am hynny buasai’n well gosod yr olygfa ichi. Thema ail ddiwrnod yr ysgol haf oedd Rhoi newid ar waith gan geisio deall beth yw natur newid o fewn i sefydliad a beth yw’r gwahanol swyddogaethau sydd gan y rheolwr neu’r arweinydd yn hynny. Cadeiriwyd y dydd gan Alison Ward, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Teitl y cyflwyniad cyntaf oedd “Rhoi newid ar waith, rhoi damcaniaethau ar waith”. Roedd dau yn cyflwyno sef Mike Green a Esther Cameron, awduron y...

Ysgol Haf Bangor diwrnod 1 via Blog Dogfael June 26th, 2007 at 23:30

image Agorwyd yr Ysgol Haf am 1.30pm brynhawn Llun gan gyfarwyddwr Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, Dr Neil Wooding. Ychydig o Gymraeg sydd i’w glywed yn sesiynau ffurfiol yr Ysgol Haf, ond agorodd Dr Wooding ei sylwadau yn Gymraeg gan bwysleisio bod croeso i unrhyw un gyfrannu mewn Cymraeg neu Saesneg. Yna fe aeth ati i amlinellu y rhaglen a’r amcanion dysgu ar gyfer yr wythnos. Pwysleisiodd ymarferoldeb yr Ysgol Haf gan ddweud bod disgwyl i’r rhai oedd yn bresennol ddefnyddio’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu swyddi o ddydd i ddydd wedi iddynt ddychwelyd i’w gweithleoedd. Wedyn cafwyd un o gyflwyniadau pwysicaf yr Ysgol Haf mewn ffordd o siarad, sef gorolwg o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan Richard Davies, cyfarwyddwr Adran...

Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru via Blog Dogfael June 25th, 2007 at 23:25

image Dwi’n ysgrifennu’r blog heno yn un o neuaddau preswyl Prifysgol Cymru Bangor. Dwi ym Mangor gogyfer ag Ysgol Haf Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae’r gynhadledd yn para o heddiw tan ddydd Gwener ac mae’n dod â phobl at ei gilydd o bob math o sefydliadau – Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Sifil, Iechyd, Heddlu, Llywodraeth Leol, &c. Ac yn eu plith rydw i. Trefnir yr Ysgol Haf gan sefydliad o’r enw Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Dyma ddatganiad sy’n crynholi beth mae’r corff hwnnw yn ceisio ei wneud. Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC) yn gweithio tuag at gefnogi rheolwyr ac arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a helpu i feithrin eu gallu. Mae RhNgCC yn darparu ystod o gyfleoedd sy’n anelu at ddatblygu...

Hogan hyd via Wierdo April 19th, 2007 at 10:47

Mi glywish i gan anhygoel o wael ar y radio neithiwr. Mi onin gweiddi ar y radio iddo stopio. Can gan David Mysterious oedd hi a dyma gymaint a dwi'n cofio o'r geiriau (ish);"Manw'n dweud fod na hogan hydYn cymryd drosodd y bydMa hi'n gwisgo ffrog bincManwn deud fod hin byw yn y sincManwn deud fod ganddi chwaerEfo enw tebyg i MairManwn deud fodna hogan hydYn cymryd drosodd y bydDoes neb yn ei gweld blaw fi a steveDoes neb yn ei gweld blaw fi a steve"Gwychder? Na, ddim felly. Dwi'n ymddiheuro os ydi David Mysterious yn darllen y blog yma, neu unrhyw un o'i ffans ond hwna ydi un o'r setiau o odli waetha' dwi di glwad ers gwrando ar She's Electric gan oasis ddwetha. Paid poeni Dave, ma'r gan Oasis na'n waeth na dy un di. Ma Abacus gin Bryn Fon yn gan wael iawn fyd, ond ddim yr odli sy'n fy...

All work and… via Wierdo May 11th, 2007 at 13:05

fuck all else makes Mari a grumpy guts. Dwi wir ddim yn trio copîo Chris yma drw son am sut dwi ddim yn adolygu. Mi oni wedi bwriadu blogio hyn neithiwr ond mi nai esbonio nes ymlaen pam wnesh i ddim.Dyma sut oeddwn i ddim yn sdydio. Tynnu llunia moody du a gwyn o fy hun. Ond i fod yn deg, mi sdydiais i lot ddoe. Dechra tua 3 a gorffen am hanner nos (DYNA pam neshim blogio neithiwr!). 24 ochr A4 (narrow ruled wrth sgwrs) o sgwennu. Gan ystyried mai sdiwdant mathemateg ydwi, mi oedd o'n ddipyn o sioc i'r system.Neshi ddim byd ond eistedd yma trw pnawn. Ac erbyn y diwedd oni'n decrha torri lawr. Onisho crio a gwylltio run pryd, isho cysgu ond methu. Ond odd rhaid fi orffen erbyn heddiw. Dwin cal dechra et heddiw! Woo.Och, maisho gras i ddechra eto, ond a minna wedi gwneud mor wael yn...

Hypocrit via Wierdo May 13th, 2007 at 18:05

Ma'n ticlo fi fel ma gin y 3 o'r hogia arholiad bora fory a manw'n isda lawr stair yn chwara gema ac yn gwylio fideos ar y wê, yn cwyno am sut manw am fethu'r arholiad fory. A dwinna yn fy llofft. Sgin i ddim arholiad tan ddydd Mercher ond eto dwi wedi bod yn sdydio ers dipyn.Pryd ddigwyddodd hyn i mi? Pryd drois i yn berson cyfrifol? A dydio ddim fel mod in neud llawer o ymdrech chwiath. Dwi berffaith hapus yn eistedd yma yn gneud nodiadau. Unwaith dwi di cychwyn hynny yw! Os dwin cymryd hoi ma'n para dipyn; oleia mod i dal ipyn bach fel y fi dwin nabod!!Oce, ers fi gychwyn y blog ma rhyw 4 awr yn ôl dwi heb sdydio bron i ddim. Dyma'r fi dwi'n nabod ac yn caru yn ôl.Ma dad newydd ddeuthai fod gwefan newydd Gren i fyny ar y wê rwan. A ma'r gem arna fo! Ma huna'n golygu fodo siwr o...

Dwynwared #1 via daflog April 19th, 2007 at 13:02

Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan. Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o wefan wnes i weithio arno am flynyddoedd, sef hen wefan y Bwrdd Croeso. Mae nhw wedi newid graffeg y pennawdau gyda union yr un arddull a chadw’r dylunio yr un fath heblaw am y cynnwys a’r lluniau wrth gwrs. Fe ddiflannodd y fersiwn yna o wefan y Bwrdd Croeso (nawr yn Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru) yng nghanol 2002, felly mae’n rhaid fod y dynwarediad Catalanaidd tua 5 mlwydd oed....