Dw i newydd orffen gwrando ar y rhaglen BBC Pigion am y tro cyntaf a mwynheuais i hi yn fawr iawn. Yn arbennig, hoffais yr oedd amrywiaeth o acennau o ledled Cymru. Ymarfer da i fi--dw i ddim wedi cael cyfle i wrando ar Radio Cymru neu unrhywbeth yn ddiweddar, felly mae'n ychydig o her i fi ddeall.
Ond, mae rhaid i fi ddechrau ymarfer fy Nghymraeg, gan mod i ddim mewn dosbarth Sbaeneg ar hyn o bryd. Daw y Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog mewn dwy fis byr. Fel arfer, y tair blynedd diwetha, ro'n i yn y dosbarth uchaf, ond bob blwyddyn dw i'n siwr mod i wedi anghofio popeth a bydd rhaid i fi mynd i lawr i'r lefel nesaf is (next lowest level - ydy hynny'n gywir?). Ond efallai, os dw i'n gwneud yr ymarferion ar-lein ac ati, teimla i'n ddigon cyffyrddus i aros yn lefel...
Dw i jyst yn rhedeg heibio'r blog gyda cysylltiad o'r cylchlythyr BBC--maen nhw wedi lawnsio safle o'r enw Pigion. Mae Pigion yn postio podlediadau wythnosol gyda uchafbwyntiau Radio Cymru o'r wythnos ddiwetha, wedi'i chyflwyno yn syml ar gyfer ddysgwyr, yn arbennig.
Dw i'n edrych ymlaen at gwrando â nhw--pan fydd amser rhydd 'da fi. Ar hyn o bryd dw i'n dal i ddysgu Sbaeneg--a dw i ddim yn gwneud hynny yn dda iawn...

Un rheswm dros fy nhawelwch cymharol ar y blog dros y diwrnodau diwethaf yw fy mod wedi bod yn ail-lunio gwefan Eglwys y Santes Fair. Dwi wedi bod yn arbrofi ers tipyn gyda’r ffordd orau i wneud hynny. Yn y diwedd dwi wedi dilyn llwybr newydd o ddefnyddio’r meddalwedd blogio yr ydw i’n ei ddefnyddio, WordPress, fel rhyw fath o sustem rheoli cynnwys syml ar gyfer cyhoeddi gwefan. Bues i’n gwneud tipyn gyda Joomla!, meddalwedd gwych (ac yn rhad ac am ddim!) ond roedd hwnnw’n rhy gymhleth ac yn rhy fawr ar gyfer yr hyn roeddwn i ei angen. O’r diwedd dwi wedi dod o hyd i rywbeth dwi’n weddol hapus gydag e. Dwi’n gobeithio y bydd yn weddol hawdd cynnal y safle gyda WordPress. Cawn weld. Mae’r gwaith mawr drosodd nawr ac felly yr unig beth...
Dw i'n mwynhau'r dosbarth Sbaeneg. Ond dw i wedi sylwi ar rywbeth. Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg.
Erbyn hyn, dyn ni wedi dysgu geirfa ynglyn â'r dosbarth a'r prifysgol, ac hefyd rhifau. Wrth gwrs, dyw'r geirfa brifysgol ddim mor ddefnyddiol i fi ar hyn o bryd, gan mod i ddim yn fyfyrwraig bellach. (Yo estudio administracion de empresas!) Ond efallai bydd hynny yn ddefnyddiol i'r gwr, os caiff e fyfyrwyr sy'n siarad Sbaeneg.
Beth arall...ym, wedi ffeindio "oriel lluniau" perffaith ar gyfer fy ngwefan bersonol. Wel, mae'n gyffrous i fi ta beth. Dw i wedi bod yn chwilio am oriel da, a dyma oriel arbennig o dda a digon hawdd i...
...a.y.y.b., ar y rhan fwyaf. Ond yn gyntaf, dyma'r cysylltiadau. Heno roedd rhaglen ar BBC Radio 4 "Word of Mouth" yngly^n â "language policy in the bilingual societies of Quebec, Wales and Northern Ireland." Mae'n bosib gwrando ar y rhaglen dros y wê, dw i'n credu. Dw i ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi eto, ond mae'n swnio'n ddiddorol. (Diolch i'r rhestr WELSH-L.) Yn ail--a dw i'n siwr eich bod chi wedi clywed hynny'n barod achos dw i wedi methu postio hynny nes heddiw--mae tair prifysgol yn Nghymru wedi mynd yn annibynnol--Aberystwyth, Bangor, ac Abertawe. Dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod y prifysgolion yn preifat nawr hefyd, neu os ydyn nhw'n cael eu noddi gan y llywodraeth eto. Diolch i fy mam am anfon yr erthygl i fi.
Llongyfarchiadau i Chris, a ennillodd...
Ar Datblogu mae Daniel yn trafod canlyniadau holiadur [PDF] a gynhaliwyd ar stondin CMC yn ystod yr Eisteddfod eleni. Roedd un o'r cwestiynnau'n gofyn os yw pobl yn darllen y tudalennau Cymraeg ar safleodd dwyieithog. Dyma'r ymatebion:66% Pob tro22% Weithiau13% Dibynnu ar y darpariaeth0% Byth(newydd sylwi mae hyn yn adio i 101%!)Ddoe dois ar draws gwefan I'm a Councillor (get me out of here), prosiect i addysgu plant am y broses ddemocrataidd. Byddai Dafydd yn cael ffit. I ddechrau mae'r cyrchu'n sâl, nid yw pob tudalen ar gael yn Gymraeg, ond safon y Gymraeg sy'n ddychrynllyd. Beth sy'n ei wneud yn waeth yw'r gwallau iaith, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol.Mewnlofnodi yng Nghymraeg Diolch am ymweld! Yn anffodus, mae Rwy’n Cynghorydd wedi gorffen...
Dw i jyst eisiau dweud, ar ôl edrych ar y blogiau eraill sy'n cael eu ystyried ar gyfer y Gwobrau Blogiau 2007, dw i ddim yn siwr pam cafodd Castell Tywod ei enwebu--mae'r blogiau eraill i gyd yn a) bendigedig; b) diddorol; c) yn cael eu diweddaru yn gyson; a ch) ddwedais i "diddorol" yn barod? O wel. Dw i'n falch wedi cyrraedd y rownd terfynol ta beth.
Tipyn o wybodaeth ddiddorol (efallai--os dych chi'n cynllunio tudalennau Wê)--darganfyddais i fod lliw "hex" o'r enw "wales"--lliw gwyrdd (cliciwch yma a scroliwch rhan o'r ffordd i lawr--mae'r lliw "wales" yn y trydedd golofn). Dw i ddim yn siwr pwy a enwodd y lliw--neu pam--ond roedd ychydig o syndod i weld...
Mae Take Zero yn anelu i ddysgu elfennau cynhyrchu ffilm drwy gofnodion fideo cyson. Cewch ddysgu am oleuo, sut i gyfansoddi llun yn iawn a dulliau sefydlogi......

Mae ITV Wales yn sefydlu sianel newydd Band llydan o'r enw ITV Local. Mae'n gyfle i sefydliadau a grŵpiau cymunedol Cymreig i arddangos eu ffilmiau byr, fideos ac animeiddiadau i gynulledifa ehangach. Dyma ITV Local Llundain i roi syniad o'r math o gynnwys sydd......
Ewch at wefan Think Sync Films i ddarllen mwy am eu cystadleuaeth ffilm fer, sydd mewn cydweithrediad â fy hoff gynhorwyr ar ffilmiau annibynol,......

Mae Seachd, sef y ffilm nodwedd Aeleg gyntaf (yn ôl y sôn*...), yn cael ei première yn ystod yr Wyl Gyfryngau Celtaidd ddiwedd y......
Wrth ddarllen drwy fforwm Filmshed, sylwais edefyn yn sôn fod yna ffilm am Dylan Thomas ar lein. Rhywun (neu gwmni?) o'r enw Dove Rangla sydd wedi ei gynhyrchu. Yn anffodus dyw'r ffilm ddim yn gweithio gen i, ond mae'r wefan yn honni eu bod wedi cael dros filiwn o hits i'r ffilm. Annodd coelio hynny,......
Mae'r Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd wedi newid eu enw i'r Wyl Gyfryngau Geltaidd. Hen bryd a dweud y gwir, gan fod y gystadleuaeth ar agor i Radio a chyfryngau newydd yn......
Mae gan Asiantaeth Ffilm Cymru nawr wefan ar-lein, yn cynnwys yr holl wybodaeth am eu strategaeth a'u personel. Ewch draw am dro.........
Awydd sgwennu sgript, yna gadael iddi gael ei thorri'n ddeg rhan 5 munud, a'i chynhyrchu gan ddeg cwmni gwahanol le-led Prydain? Ewch am bic i wefan Make Your Mark in Film te, cystadleuaeth i sgwennwyr, lle gewch chi'r cyfle i ennill £3000 am eich sgript, a gweld y syniad yn cael ei gynhyrchu (er fod y broses cynhyrchu tamed bach yn......
O wefan y Rêl Institiwt...
Quote:
Mae Rêl Institiwt yn cloi pedwar tîm mewn adeilad rhywle yn Llangollen, a tydan ni ddim yn gadael iddyn nhw ddod allan tan mae nhw wedi cynhyrchu pedwar ffilm ffantastig! Ac mae'r dasg gymaint yn anoddach oherwydd yn ystod eu cyfnod fel caethweision, rydan ni yn gorfodi gymaint o ddyfeisiadau cyfyng a sydd posib ar y......
Newydd ffeindio cwis ffilm gwych ar Fun With Movies.
Mae'n nhw'n dangos still o'r ffilm, yna rhaid i chi ddyfalu'r teitl a'i osod yn y blwch gyferbyn...hawdd...neu ydi......
Ma gwefan Extreme Films Research eisiau'ch holi chi ynglyn â'ch ymateb i ffilmiau sy'n gwthio ffiniau o ran cynnwys o natur dreisgar a......