Welsh Blogs.com


Sanhedrin via Blog Dogfael April 25th, 2008 at 07:28

Dwi’n falch iawn o gael dweud fod y byd yn ei le o hyd wrth i Gwilym Owen ddweud “Sanhedrin” ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru heddiw eto. Mae’n dda gwybod fod rhai bethau’n gwbl ddibynadwy a sicr amewn byd sy’n newid cymaint. Rhanna hwn...

Sanhedrin via Blog Dogfael April 18th, 2008 at 07:37

Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei fod wedi defnyddio’r gair unwaith eto y bore ‘ma. Efallai ei fod yn gwneud hynny fel rhan o gêm wyrdröedig gyda’i gyfeillion yn y byd darlledu. Ond diolch amdano, oherwydd mae’n debyg taw dim ond Gwilym Owen a’i ffans sy’n gwybod beth yw ystyr y gair erbyn hyn ac yntau yw’r unig un sy’n ei ddefnyddio’n gyson. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhanna hwn...

Recordio rhaglen gyda Aled Jones-Williams via Blog Rhys Llwyd July 2nd, 2007 at 12:23

image Dwi wedi dychwelyd o lypder Pontrhydfendigaid ac wedi mwynhau fy hun mas draw. Roedd e'n ddigwyddiad gwych a gobeithio y tyfith e o nerth i nerth nawr. Ta waeth, ar ôl cyrraedd adref yn syth yn ôl i'r tresi es i oherwydd roeddwn ni'n cymryd rhan mewn rhaglen Radio Cymru p'nawma. Rhaglen a ddaeth i fod yn dilyn yr ohebiaeth rhyngtha i ac Aled Jones-Williams yn Golwg dros yr wythnosau diwethaf. Fformat y rhaglen oedd Gwilym Owen yn cadeirio a hynny o'i stiwdio ym Mangor ac yna Aled Jones-Williams (o'r stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth) yn dod 'wyneb yn wyneb' a chriw Gristnogion ifainc 'diwygiedig' (neu Efengylaidd os y mynnwch).Roeddwn ni braidd yn ofidus cyn dechrau recordio oherwydd roeddwn ni'n gwbl ymwybodol fod safbwynt Aled ar bron a bod popeth yn ymwneud a'r ffydd Gristnogol yn dra...