Cymorth via Wierdo October 16th, 2008 at 18:49
Mae hi'n amser unwaith eto, i feddwl am wisg calan gaeaf. Mi ydwi wrth fy modd a chalan gaeaf, ac o wisgo fyny, ac o feddwi. Ac er mod wedi gadael Aberystwyth , mi fyddaf yno am galan gaeaf unwaith eto eleni mewn gwisg anhygoel o wych a sgeri. Ond, chi'n gweld, dwi angen help. Drwy hyd a lledrith y wê, mae gin i ffydd y fydd yna syniadau anhygoel a gwych ar y blog ma erbyn calan gaeaf. Felly plis plis plis, gai help?! Mi fuasai unrhyw syniadau yn cael eu gwerthfawrogi!Mae'n rhaid i chi ddallt mod i ddim yn gwisgo fyny calan gaeaf i edrych yn dda. Dwi'n anghytuno'n llwyr gyda'r syniad o enethod yn edrych yn secsi mewn gwisgoedd halawïn. Mewn calanau gaeaf wedi bod, rwyf wedi bod yn dracula (eshi am all out commitment drwy jelio fy ngwallt yn ôl, ond mewn gwirionedd, doedd o ddim mor...
Dwi'n blogio lot amlach ar fy mlog saesneg yn ddiweddar a dwi'n ymddiheuro am hynny. Mae'n warthus gan mai hwn yw fy mlog cynta bob amser.Dwi wedi gorffen fy arholiadau!!! Wooo! Mi fydd rhaid i mi aileistedd yn yr haf, ond tan hynny (neu tan Orffennaf y 6ed pan gai wybod fy nghanlyniadau) dwi'n hapus braf mewn byd o feddwi a ffrindiau! I ddathlu diwedd yr arholiadau mi eshi i Abreraeron (ddim ar ben fy hun, mi oedd na 3 byd yn mynd!) a meddwi. Diwrnod gwael i fynd i Aberaeron rili gan ei fod hin tresho bwrw glaw, ond di hyna'm yn gneud gwahaniaeth mewn pyb nadi!Bethbynnag, cafwyd ddiwrnod gwych o yfed a meddwi gyda criw gwahanol gan nad oedd neb o ty ni wedi dod gyda mi. A ma hyna wasdad yn beth neis.Y rheswm nad oedd neb arall wedi dod gyda mi? Wel nos fawrth mi oedd crôl dre. Crôl...
Pun intended.Wel wir, dyna i chi olygfa. Ma hi'n wythnos RAG umca (casglu arian at achosion da) ac felly dwi wedi bod allan bob nos ers cyraedd nol. Prysur! Ond mi oedd neithiwr yn wahanol. Neithiwr, mi oedd y crol ffiaidd yn cael ei gynnal. Y syniad yw fod pawb yn mynd i siopau achosion da ac yn prynu dillad horibl. Ond na, mi oedd rhaid i ni fynd yn bellach. Mi oedd rhaid i ni fynd allan fel condoms. Ia, condoms. Lyfli de. Edrych chydig bach fel poteli plastic plant bosib? Triwch chi wisgo fyny yn well!! Ah, hwyl. Mi gawsom ambell goment clefar fel y teitl. "dim sach dim sosej, no glove no love, dim condom dim caru, dim johnnie dim john" (yr ola yn sbeshal i mi ;) ) . Pan oni ar y ffon gyda John geshi ambell un o'm ffrindiau yn dweud "phone sex"! Sa well i mi beidio son am y cról yma...