
Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath?
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this...

Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal.
Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai...

Roedd ‘na restr ddiddorol yn y Guardian heddiw o’r 20 aelod seneddol fuasai’n cadw eu seddau petai tuedd oddi wrth Lafur tebyg i’r un a gafwyd yn Glaschu an Ear yn digwydd yn gyson trwy’r Deyrnas Gyfunol. Da gweld bod Llafur yn cadw rhai o’n fferfrynnau yng Nghymru!
Edward O’Hara - Knowsley
John Cummings - Easington
Peter Kilfoyle - Lerpwl Walton
Jeff Ennis - Dwyrain Barnsley
David Blunkett - Sheffield Brightside a Hillsborough
Joe Benton - Bootle
Chris Bryant - Rhondda
Don Touhig - Islwyn
Ian McCartney - Makerfield
Tom Clarke - Coatbridge, Chryston a Bellshill
Ann Clwyd - Cwm Cynon
Dennis Skinner - Bolsover
Chris Mullin - Houghton a De Sunderland
Yvette Cooper - Normanton, Pontefract a Castleford
Dai Havard - Merthyr Tudful a Rhymni
Hywel...
Bore da yn wir. Roeddwn i’n disgwyl i’r canlyniad yn Nwyrain Glasgow fod yn agos, ond mae’n rhaid i mi ddweud prin y disgwyliais i’r SNP guro, a sioc ar y diawl ges i o ddarllen Ceefax (neu Teletext, os dachi’n gomon) bore ‘ma a gweld. Mae’n gwneud i rywun feddwl pa mor ddiddorol y byddai isetholiad mewn rhywle fel Llanelli neu Gastell-nedd ar y funud, dydi?Ond yn anffodus dydi hi ddim yn ddiwedd ar Gordon Brown, ac mi egluraf pam. Y gwir amdani ydi os aiff Gordon Brown, drwy orfodaeth (y sefyllfa fwyaf tebyg) neu’n wirfoddol (annhebygol iawn), bydd yn rhaid i Lafur ddewis arweinydd, a thrwy hynny, Prif Weinidog newydd.Roedd hi’n ddadleuol i Brown gymryd yr awenau heb alw etholiad. Ond byddai cael trydydd arweinydd ar y wlad, a hynny eto heb etholiad, yn peri dicter mawr...

Dwi newydd wrando ar Nicola Sturgeon, dirprwy arweinydd yr SNP a dirprwy brif weinidog yr Alban, yn siarad ar BBC Radio Scotland. Roedd hi’n gweld y frwydr yn yr isetholiad yn Glaschu fel un rhwng dwy lywodraeth – San Steffan a Holyrood – a’r canlyniad yn cadarnhau polisïau yr SNP mewn llywodraeth. Pwysleisiodd pa mor fawr oedd y duedd tuag tuag atynt hwy ac oddi wrth Lafur. Roedd hi’n amlwg ei bod hi wrth ei bodd. Roedd ei boddhad i’w glywed yn ei llais ym mhob un o’i hatebion. Mae llawer mwy o gollwyr nag enillwyr mewn gwleidyddiaeth, a dwi fel llawer wedi hen ddysgu beth yw hi i golli, ond mae ennill yn gwneud i rywun deimlo’n dda ac mae medru rhannu mewn llwyddiant yn gwneud i rywun deimlo’n dda hefyd.
Note: There is a rating embedded...

John Mason gyda Bashar Ahmad MSP a Mohammed Ashgar AC. Oddi ar flog SNP for Glasgow East.
Fe es i’r gwely yn weddol hwyr wrth fy arfer i – roedd hi wedi troi 11.00pm – os oeddwn yn mynd i godi am 6.00am fel dwi’n arfer ei wneud. Roeddwn i wedi bod wrthi’n cyfieithu ar y pryd am ryw ddwy awr a chwarter mewn cyfarfod grŵp cynghorwyr sir Plaid Cymru yn Aberaeron ac wedi cael gwledd ddigonol o wleidyddiaeth (leol) i’m cadw yn hapus am wythnos neu ddwy. Felly doeddwn ddim yn bwriadu aros ar fy nhraed i glywed canlyniad isetholiad Dwyrain Glaschu (Glasgow East). Pan oeddwn i’n iau byddwn wastad yn aros ar fy nhraed i glywed beth oedd y canlyniadau er bod hynny’n yn mynd yn erbyn profiad fy mhleidlais gyntaf erioed – refferendwm 1979 – sef bod angen...
Ella dach chi'n gwybod bydd y Cynhadledd Cenedlaethol Plaid Gweriniaethol yn cael ei chynnal yn St. Paul rhwn Mis medi Cyntaf i bedwaredd Medi.Oes na grwp yn Minneapolis yn cael cystadleuaeth fideo er mwyn rhoi pobl pwy sy ddim yn cael cyfle bod yn cynrychiolydd i'r gynhadledd cyfle i ofyn cwestiynau i pobl sy'n cynrychiolydd. Mae'r fideos yn cael eu arddangos ar You Tube.Os dach chi isio gofyn cwestiwn i cynrychiolydd, ewch chi i The...
Ella dach chi'n gwybod bydd y Cynhadledd Cenedlaethol Gweriniaethol yn cael ei chynnal yn St. Paul rhwn Mis medi Cyntaf i bedwaredd Medi.Oes na grwp yn Minneapolis yn cael cystadleuaeth fideo er mwyn rhoi pobl pwy sy ddim yn cael cyfle bod yn cynrychiolydd i'r gynhadledd cyfle i ofyn cwestiynau i pobl sy'n cynrychiolydd. Mae'r fideos yn cael eu arddangos ar You Tube.Os dach chi isio gofyn cwestiwn i cynrychiolydd, ewch chi i The...

Ydy ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas fel Gweinidog Treftadaeth yn rhoi ystyr newydd i’r frawddeg “Cwrs y Byd”? Gwaeth o lawer na Chwrs y Pharo!
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...
Mae 'Datguddiad Mawr' y fampirod wedi cymhlethu argyfwng cyfansoddiadol Ewrop. Dim yn deall am be' dw'i'n sôn? Gweler y...
Anodd iawn yw cyflwyno John McCain fel person diddorol. Ond mae rhai wedi ceisio eu gorau glas i wneud hynny ar YouTube....

Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â chynghorydd sir Plaid Cymru. Yn ail roedd yn fuddugoliaeth nodedig mewn ward lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn gryf iawn yn y gorffennol. Wrth gwrs roedd popeth wedi mynd yn eu herbyn y tro hwn – yn cynghorydd blaenorol wedi dewis ymddiswyddo oherwydd trosedd ryw, maer Aberystwyth yn ymddiswyddo oherwydd na chafodd ei dewis yn ymgeisydd, a’r ymgeisydd a ddewiswyd yn gweithio yn Llundain am bedwar diwrnod yr wythnos. Ar ben hyn i gyd roedd...

Dyma’r papur pleidleisio ar gyfer yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol a enillwyd gan Aled Davies o Blaid Cymru, 10 Gorffennaf 2008. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio’r gwreiddiol i bleidleisio! Ond dwi’n falch imi wneud copi fel swfenîr o’r digwyddiad hanesyddol hwn yng ngwleidyddiaeth Aberystwyth. Bellach Plaid Cymru sy’n dal tair o’r chwe sedd yn ardal Aberystwyth a Phenparcau, y Dem Rhyddiaid â dwy, ac un aelod annibynnol. Cyn etholiad Mai 2008 dim ond un aelod cyngor sir oedd gan Blaid Cymru yma.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth
Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm yn gweithio dros Aled Davies yn isetholiad cyngor sir ward Rheidol. A dwi newydd glywed fod yr holl waith a wnaeth Aled a’i gefnogwyr wedi dwyn ffrwyth. Mae Plaid Cymru wedi cipio sedd cyngor sir Rheidol oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y sedd yn arfer bod yn un cwbl ddiogel i’r Dem Rhyddiaid, ond ddim bellach.
Dyma’r canlyniad.
Aled Davies PLAID CYMRU 271
Alec Dauncey LIB DEM 252
Carol Ann Kolczak ANNIBYNNOL 98
Richard Boudier LLAFUR 36
Luke Evetts TORI...
Roeddwn wedi bwriadu ysgrifennu am hyn, ond dim cyn i mi ddarllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd. Rŵan, dwi ddim isio ysgrifennu’n hirfaith am y ddogfen hon; o’i darllen prin y mae’n ei haeddu, ond mae rhai pwyntiau yr hoffwn eu nodi o ystyried y ”Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg”. Yn hytrach, hoffwn gynnig ambell i sylw ar ambell i ran o’r ddogfen.Yn bur ryfedd, cyn mynd ymlaen at y Gymraeg ei hun, mae’r ddogfen yn ystyried syniadau megis tai ecogyfeillgar. Wn i ddim pwy feddyliodd am gynnwys y syniad (canmoladwy, wrth gwrs) hwn yn y ddogfen, ond does â wnelo dim ag ennill pleidleisiau’r Fro – dydi o ddim yn berthnasol yn y ddogfen, ac yn y cyd-destun hwn mae’n od i’w gynnwys, a dweud y lleiaf.“Rhaid i’r blaid Lafur arddel a phwysleisio’r cyfan y...
Golygfa o'r gyfres The Thick of...

Dyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y byddai’r chwip Torïaidd wedi’i dynnu oddi arno yn y Cynulliad Cenedlaethol hefyd. Y rheswm dros ddweud hynny yw’r ffordd y mae’r blaid Geidwadol wedi mynd i’r afael ag achos James McGrath, yr ymgynghorydd arbennig i Boris Johnson, maer Llundain. Dyma sut mae’r newyddiadurwr Marc Wadsworth yn adrodd yr hanes yn y Guardian ar-lein.
When I put to McGrath that an influential black columnist for the Voice newspaper suggested that...

Dwi ddim yn un sy’n darllen y papurau Sul fel arfer heblaw am yr atodiadau teithio a busnes. Ond roedd ‘na un stori fawr yn yr Observer heddiw wnaeth dynnu fy sylw, sef awgrym fod y Blaid Lafur Brydeinig, New Labour, ar y ffordd i dre-din. O dan y pennawd Labour heads for financial collapse mae golygydd gwleidyddol y papur, Gaby Hinsliff, yn adrodd am broblemau’r blaid sydd â dyledion o £24m. Awgrymir taw un o’r rhesymau y penderfynodd y blaid i beidio â sefyll yn yr isetholiad yn erbyn David Davis oedd nad oedd ganddi’r £70,000 wrth law i dalu am yr ymgyrch. Nawr dwi’n siŵr ei bod hi’n demtasiwn i elynion gwleidyddol gymryd pleser yn hyn, ond mae’r risg i ddemocratiaeth yn fawr iawn os yw ei sefyllfa ariannol mor argyfyngus. Er...
Mae'r fideo yma wedi cael ei wahardd yn Zimbabwe...
Fel y gellwch weld yn y llun uchod, mae'n ymddangos bod 'na o leiaf un Cofi ar dîm...
Yn ôl Jon Worth, mae amser Barroso yn ei rôl fel Arlywydd y Comisiwn ar ben:
the time must now be up for Barroso. While he might have found favour in London he’s presided over the Commission throughout what can only be described as an awful few years for the EU and to re-appoint him would be absurd and unacceptable. Equally Member States should avoid sending failed national politicians to make...

Mae bod yn gynghorydd tref yn medru newid persbectif dyn ar fywyd. Os oeddwn i’n arfer bod yn un oedd yn cerdded o gwmpas yn edrych lan dwi’n ofni bod fy llygaid wedi eu troi tuag at i lawr yn aml iawn bellach. Does gen i fel cynghorydd dim rheolaeth o gwbwl dros yr haul, y cymylau, a’r ffurfafen, ond mae’r pafin yn fater arall yn gyfan gwbl. Nawr dwi’n gweld yr holl sothach y mae pobol ac anifeiliaid yn eu taflu neu’n ei adael o gwmpas - dom ci, olion bwyd cyflym, sachau duon wedi eu gosod allan yn rhy gynnar. Dim rhyfedd bod rhai gwleidyddion yn mynd i eithafion i anghofio am hyn i gyd!
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Mae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn ei erbyn yn fy meddwl i - dyna yw fy manc innau ac mae meddwl bod fy arian wedi bod yn mynd i’w dalu ef yn uniongyrchol yn broblem arall. Wrth gwrs, fel aelod cynulliad, mae fy arian yn parhau i’w dalu i wneud ei waith!
Pan glywais i am ei ffopa ar raglen Dau o’r Bae ar Radio Cymru mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ymroi i schadenfreude – pleser dymunol iawn ond rhywbeth i’w gadw’n gyfrinachol ar y cyfan dwi’n teimlo. Mae gweld Tori yn cael ei haeddiant wastad yn bleserus, ond yn fwy...

Cafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer.
Yn eironig ddigon y dirpwy-faer, aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn y gadair ar gyfer y drafodaeth ar y sefyllfa. Roedd gan bob un ohonom gopi o lythyr y cyn-faer yn ein llaw wrth inni wrando ar y ddadl fer iawn ar y sefyllfa. Mynegodd y cynghorydd a oedd wedi cynnig ei henw yn y cyfarfod diwethaf o’r cyngor ei siom gyda’r hyn oedd wedi digwydd a’n bod ni erbyn hyn yn chwilio am ei holynydd. Condemnio y modd yr oedd...

Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer is-etholiad cyngor sir ward Rheidol, Aberystwyth. A dyma’r ymgeiswyr.
Aled Davies Plaid Cymru
Richard Boudier Llafur
Alec Dauncey Democratiaid Rhyddfrydol
Luke Evetts Ceidwadwyr
Carol Ann Kolczak Annibynnol
Yn yr etholiad diwethaf (Mai 2008) dyma oedd y canlyniad.
Eric Griffths Democratiaid Rhyddfrydol 490
Sue Jones-Davies Plaid Cymru 197
Jason Luke Edwards Ceidwadwyr 38
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Fe wnaeth Blog Aber Dar dynnu sylw at fy nisgrifiad o weithred David Davis fel “gwastraff arian” yn ei sylw ar fy nghofnod “Beth mae David Davis yn ei wneud”, ac fe holodd gwestiwn digon teg “Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grŵp arall mi wyt ti’n cefnogi) yn cynnal Protest yn Aberystwyth neu lle bynnag?”
Rhaid imi ddweud na fuaswn i am atal neb rhag protestio a hynny mewn unrhyw ddull di-drais sydd ar gael iddynt wneud hynny. Ond dwi’n methu gweld llawer iawn o debygrwydd rhwng protest gan fudiad fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ag un gan lefarydd yr wrthblaid ar faterion cartref. Yn bennaf am fod y gwleidydd wedi dewis y ffordd wleidyddol o weithredu yn hytrach na ffordd protest – mae ef wedi ymrwymo ei hun i yn llwyr...

Mae’n rhaid ei bod hi’n dymor ar gyfer ymddiswyddiadau gwleidyddol, o leiaf yn Aberystwyth a Haltemprice a Howden. Efallai taw fasiwn yw hyn, ond mae’n rhyfedd sut mae ymddiswyddo yn medru digwydd am bob math o wahanol resymau. Dwi’n ofni nad ydw i’n gweld llawer o bwynt i’r hyn mae David Davies yn ei wneud. Ar y wyneb mae’n ymddangos yn benderfyniad egwyddorol gan ddyn o argyhoeddiad. Ond beth fydd e’n llwyddo i’w wneud yn y diwedd?
Ffotgraff gan Steve Spunter. Rhennir o dan drwydded Creative Commons.
Mae David Davies yn mynd i ail-ennill y sedd, ac mae e’n mynd i ail-ennill yn hawdd – yn arbennig gan fod y Lib Demiaid wedi penderfynu’n barod i beidio â rhoi ymgeisydd yn ei erbyn. Does dim llawer o stori yn hynny mewn...

Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y dref. Dechreuodd y cwbwl gydag ymddiswyddiad Eric Griffiths fel cynghorydd sir ward Rheidol oherwydd iddo gael ei arestio a derbyn rhybudd am drosedd rhyw gyda phlentyn o dan oed cysynio. Yn dilyn ei ymddiswyddiad fe bennwyd isetholiad ar gyfer 10 Gorffennaf ac felly fe aeth y pleidiau gwleidyddol ati i ddewis eu hymgeisyddion.
Plaid Cymru oedd y cyntaf; nos Iau diwethaf fe ddewison nhw y cynghorydd tref Aled Davies fel eu hymgeisydd...