Welsh Blogs.com


Taith i Glasgow 2006-07-15 (1) via Blog Dogfael July 22nd, 2006 at 21:00

image Dwi wedi bod ‘nôl yn Aberystwyth ers dydd Mercher, ond dwi’n ofni nad ydw wedi bod â’r amser na’r egni i ddechrau adrodd hanes fy nhaith i Glasgow. Ond o’r diwedd dwi wedi cael rhyw awr neu ddwy yn rhydd ac wedi’u gosod o’r neilltu ar gyfer y gwaith. Roedd DJP wedi awgrymu y dylen i adael Aberystwyth yn gynnar fore Sadwrn er mwyn cael cymaint o amser â phosib yn Glasgow. Byddai hynny’n golygu gadael am 5.16am a chyrraedd Glasgow erbyn 1.10pm, sef taith o agos i wyth awr. Er hyfryted nifer o atyniadau’r ddinas, doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi’n werth yr aberth o godi mor gynnar fore Sadwrn. Yn ogystal bu’r diwrnod cynt yn un trwm iawn yn emosiynol, ac mae’n rhaid imi gyfaddef taw aros yn y gwely oedd y demtasiwn...