Welsh Blogs.com


Diwrnod y Glec fawr via daflog September 7th, 2008 at 17:02

Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud). Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni arbennig drwy’r dydd ar Radio 4. A dyma fideo bach difyr i esbonio’r holl beth mewn 5 munud....

Newyddion o Fawrth via e-clectig June 21st, 2008 at 16:07

Newyddion diweddaraf oddi wrth y glaniwr Ffenics. Mae'r ddelwedd hon o dalpau sy'n diflannu wedi argyhoeddi gwyddonwyr NASA eu bod yn edrych ar iâ dŵr yn agos i arwyneb Mawrth. Mae 'na fersiwn ehangach o'r gymhariaeth wedi ei hanimeiddio (y llun uchod) Tom Pike, o Goleg Ymerodrol Llundain, ar y 'moment eureka'. A dyma animeiddiad o'r olygfa tua'r gogledd oddi ar safle Ffenics....

Bywyd ar Fawrth? via e-clectig May 27th, 2008 at 13:20

Anatomeg Japaneaidd via e-clectig May 5th, 2008 at 02:48

Cafodd sgroliau anatomeg Kaibo Zonshinzu eu creu ym 1819 gan Yasukazu Minagaki (1784-1825), ffisigwr o ardal...

Theori Quantum via Blog Rhys Llwyd March 8th, 2008 at 10:45

image Dwi wedi dechrau darllen Quantum Theory Cannot Hurt You: a guide to the Universe (Faber, 2007) gan Marcus Chown, awdur gwyddoniaeth-poblogaidd ac ymgynghorydd y cylchgrawn New Scientist ar gosmoleg. Nid ydw i'n wyddonydd o bell ffordd fodd bynnag ers i mi gael rhyw fan sgyrsiau gyda cyfaill i mi sy'n Gristion, Owain Roberts (neu 'Owain Morfa' i rai), rai blynyddoedd yn ol yn Aberystwyth mae wedi plannu rhyw chwylfrydedd ynai tu ol i theoriau ffiseg yn enwedig rhai a adnabyddir fel theoriau quantum a theoriau perthynol Einstein. Er mai fel ffrind o Gristion dwi'n adnabod Owain yn gyntaf; mae ef, yn wahanol i mi, yn wyddonydd ac yn rhan o dim ymchwil Semiconductors yn adran Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Owain wedi ceisio esbonio i mi droeon beth yn union mae e'n gwneud ond maen...

Am beth wyt ti wedi newid dy feddwl? via Morfablog January 2nd, 2008 at 14:27

Mae Biocurious (am enw gwych i flog gwyddonol) wedi dewis rhai o’r atebion i gwestiwn blynyddol The Edge. Na, nid yr un yn y het sy’n chwarae’r gitar yn U2. The Edge Annual Question — 2008 When thinking changes your mind, that’s philosophy. When God changes your mind, that’s faith. When facts change your mind, that’s science. WHAT HAVE YOU [...]...

Cyndad y morfil? via e-clectig December 21st, 2007 at 07:23

Ai cyndad y morfil ydy'r anifail...

Cymryd sedd via e-clectig December 16th, 2007 at 20:25

Rhan o brosiect graddio Jelte van Geest pan oedd o yn Academi Dylunio...

Ail-lenwi i-Pod efo nionen via e-clectig November 24th, 2007 at 12:51

Sut i ail-lenwi i-Pod efo nionen.Diolch i...

Darganfod Ymir via e-clectig September 25th, 2007 at 18:20

Dyma fideo am ddarganfyddiad Ymir (neu 'Gliese...

XO-1b via e-clectig September 24th, 2007 at 14:02

Mae XO-1b yn blaned sy'n cylchio'r seren XO-1, 600 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser Caer Arianrhod.Mae XO-1b yn Iau poeth, gyda'i dwyster isel yn dangos ei bod yn gawr nwy, gydag awyrgylch wedi ei gyfansoddi gan hydrogen a heliwm.Mae'r blaned yn cymryd 4 diwrnod i gylchio ei seren. Mae'r seren yn debyg iawn i'n haul ni, a'r blaned yn debyg iawn i'n Iau ni o ran ei maint, ei chrynswth a'i...

HD 149026 b via e-clectig September 23rd, 2007 at 11:11

Mae HD 149026 b yn blaned sy'n cylchio'r seren HD 149026 b, rhyw 275 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser Ercwlff.Mae mesuriadau ei radiws a'i chrynswth yn awgrymu bod ganddi galon blanedol fawr iawn. Mae hi'n cymryd llai na 3 diwrnod i gylchio ei seren, gyda phellter o ddim ond 0.42 Unedau Seryddol rhyngddynt. Mae'r blaned yn llai ei maint na Iau (0.36 gwaith crynswth Iau, neu 114 gwaith crynswth y Ddaear).Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 1540 K, yn codi i 2500 K ar yr ochr sy'n wynebu'r Haul. Mae'r tymheredd uchel yma yn awgrymu bod y blaned yn sugno bron y cyfan o'r goleuni sy'n syrthio arni, sy'n gwneud y blaned yn dywyll iawn ei lliw.Mae yna sawl "Sadwrn poeth" sydd wedi cael ei darganfod hyd yma, ond mae ganddwn nhw i gyd radii sydd yn gymharol i radiws Iau, tra nad...

2M1207b via e-clectig September 22nd, 2007 at 14:54

Uchod: Y seren 2M1207 (gwyn) a'r blaned 2M1207b (coch)Mae 2M1207b yn blaned sy'n cylchio'r corrach brown 2M1207, rhyw 173 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser y Saethydd. Mae hi ymhlith y planedau cyntaf i gael eu gweld yn uniongyrchol trwy amlygiad is-goch.Mae'r blaned yn gawr nwy poeth, pum gwaith i wyth gwaith yn fwy na Iau, ac yn cylchio'r seren o bellter sydd ddwywaith yn fwy na'r pellter rhwng Neifion a'r Haul.Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 976 C, tymheredd uchel sy'n cael ei achosi gan grychiad disgyrchiol. Mae hi'n cymryd 1700 o flynyddoedd i gylchio ei seren, ac er bod ganddi olion dŵr yn ei hawyrgylch, ni ddisgwylir bywyd arni nac ar unrhyw loerennau...

Gliese 436 b via e-clectig September 21st, 2007 at 02:52

Mae Gliese 436 b yn blaned tua maint Neifion sy'n cylchio'r corrach coch Gliese 436 yng nghytser y Llew, rhyw 30 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd.Mae hi'n cymryd dau ddiwrnod a 15.5 awr i gylchio'r seren. Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 439 C, mwy na'r disgwyl, sy'n awgrymu bod ei chylchdroad echreiddig yn achosi proses o lanw a thrai yn ei thymheredd....

Epsilon Eridani b via e-clectig September 20th, 2007 at 04:02

Mae Epsilon Eridani b yn blaned sy'n cylchio'r seren Epsilon Eridani (neu 'Al-Sadirah') yng nghytser Eridanws.Mae Al-Sadirah yn perthyn i'r un dosbarth o sêr fel yr Haul, er ei bod yn seren oren sydd ychydig yn fwy. Mae hi 10.5 o flynyddoedd goleuni i ffwrddd, sydd yn neud y blaned y mwyaf agos at y Ddaear o ran pellter.Mae ei chrynswth 1.5 gwaith yn fwy na Iau. Mae hi'n cymryd dros 2000 o ddyddiau i gylchio Al-Sadirah, ac mae gwyddonwyr yn gobeithio y bydd hi'n cyrraedd pwynt ym mis Rhagfyr pan fydd yn bosib i'w gweld yn fwy manwl.Gellir gweld sut mae'r nefoedd yn edrych oddi ar y blaned ei hun...

Upsilon Andromedae b via e-clectig September 19th, 2007 at 09:45

Mae Upsilon Andromedae b (a elwir hefyd Upsilon Andromedae Ab i'w gwahanu oddi wrth y seren Upsilon Andromedae B) yn blaned sydd yn cylchio'r seren Upsilon Andromedae A - seren yng nghytser Andromeda sydd yn debyg i'n Haul ni - pob 4.62 o ddyddiau. Cafodd ei darganfod ym 1996 ac roedd hi un o'r esiamplau cyntaf o Iau boeth i gael ei darganfod. Upsilon Andromedae b ydy'r fwyaf mewnol o blanedau cysawd Upsilon Andromedae A i gael ei darganfod.Mae'r blaned yn nes at ei seren nag y mae Mercher at yr Haul, gydag echel led-fwyaf o ddim ond 0.0595 o Unedau Seryddol.Mae crynswth y blaned o leiaf 68% yn fwy na Iau. Ond ni wyddys ei radiws na chynnwys ei hawyrgylch oherwydd mae hi wedi cael ei darganfod trwy fodd anuniongyrchol. Serch hynny mae'r Telesgop Spitzer wedi mesuro tymheredd y blaned, a...

Di-wifr, o ddifri via daflog September 18th, 2007 at 21:48

Mae’r garfan ‘hetiau tin-ffoil’ wrthi eto yn lledu ofn ynglŷn a technoleg di-wifr. Does dim tystoliaeth fod unrhyw niwed yn deillio o’r dechnoleg ond rhaid meddwl am y plantos! Mae ymbelydredd electromagnetic llawer mwy pwerus wedi ei ddar-lledu o fastiau radio, teledu, lloerennau ac ati ers degawdau a does dim galw am wahardd rheiny, na unrhyw dystoliaeth eu bod yn effeithio ar iechyd unrhyw un. Mae un cyn-athrawes yn dweud y dylai lleoli’r bocs di-wifr mor bell i ffwrdd a phosib o’r plant ac i droi’r pŵer i’w isafswm. Fe ddylai hi fynd yn ôl i’r ysgol efallai i gael gwers Ffiseg ac i ddysgu ychydig am Electroneg. Y pella oddi wrth y cyfrifiaduron mae’r mast, y mwya pwerus sydd rhaid iddo fod i drosglwyddio’r signal yn...

Gliese 581 d via e-clectig September 18th, 2007 at 05:53

Chwaer Ymir ydy'r blaned hon. Fel ei chwaer, mae Gliese 581 d yn blaned ddaearol fawr, neu suoer-earth, ac mae hi'n chwaer fawr, gyda chrynswth sydd 7.7 gwaith yn fwy na'r Ddaear (nid ydy Ymir ond pum gwaith yn fwy).Tra mae lleoliad Ymir ar ochr cynnes ardal drigiadwy y seren Gliese 581, mae lleoliad y blaned Gliese 581 d ar gyrion ochr oer yr ardal yma, rhyw 0.25 o Unedau Seryddol oddi wrth y corrach coch, ac mae hi'n cymryd 84.4 o ddyddiau i gylchio'r seren fach. Serch ei lleoliad credir bod yna bosibilrwydd y gallai bywyd fodoli arni os ydy cyflwr atmosfferig y blaned yn creu effaith tŷ gwydr, sydd yn debygol iawn yn ôl modelau damcanol.Mae hi braidd yn eironig i Gliese 581 c gael y llysenw Ymir - enw cawr iâ o fytholeg y Llychlyn - yn lle Gliese 581 d, ond cafodd Ymir ei darganfod...

Ymir via e-clectig September 17th, 2007 at 03:19

Ymir ydy llysenw'r blaned Gliese 581 c, y blaned ddaearol gyntaf i gael ei darganfod mewn ardal drigiadwy, lle gallai bywyd fodoli. Mae'r blaned yn 20.4 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd, yng nghytser y Fantol, lle mae hi'n cylchio corrach coch o'r enw Gliese 581. Ymir ydy'r blaned allheulol leiaf i gael ei darganfod hyd yma. Serch hynny, mae hi'n "super-earth", a chanddi grynswth sydd pum gwaith yn fwy na'r Ddaear. Mae ganddi radiws sydd rhyw 50% yn fwy na radiws ein planed ni. Amcangyfrifir bod grym ei disgyrchiant o leia 1.25 gwaith yn fwy na disgyrchiant y Ddaear.Mae Ymir yn cymryd 13 diwrnod i gylchio ei seren, gyda phellter o ddim ond 0.07 Unedau Seryddol rhwng y blaned a'r corrach coch. Serch hynny mae hi'n cylchio o fewn ardal drigiadwy Gliese 581, seren sydd yn llai nag ein Haul ni....

Beleroffon via e-clectig September 16th, 2007 at 12:08

Beleroffon ydy llysenw'r blaned 51 Pegasi b, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn cylchio seren debyg i'n Haul ni. Mae'r blaned yn Iau poeth. Mae hi'n cylchio'r seren 51 Pegasus yng nghytser PegaswsMae Beleroffon yn cymryd pedwar diwrnod i gylchio 51 Pegasus, ac mae cylchdro'r blaned yn lot agosach at ei seren nag agosatrwydd Mercher at ein Haul ni. Amcangyfrifir tymheredd y blaned i fod tua 1000 C, eto mae ganddi hanner y crynswth sydd gan Iau (150 gwaith yn fwy na'r Ddaear). Wrth iddi gael ei darganfod, y cred oedd fod y fath agosatrwydd at seren gan blaned o'i maint yn afreolaidd, ond erbyn hyn mae sawl "Iau poeth" wedi cael ei ddarganfod ar draws ein galaeth.Mae radiws y blaned yn fwy na radiws Iau, serch ei chrynswth llai. Mae hynny oherwydd y tymheredd uchel sy'n achosi'r...

WASP-2b via e-clectig September 15th, 2007 at 06:42

Mae WASP-2b yn blaned sy'n cylchio'r seren WASP-2, rhyw 500 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser y Forhwch.Mae crynswth y blaned yn awgrymu ei bod yn gawr nwy yn debyg i Iau. Yn wahanol i Iau, ond yn debyg i lawer o blanedau allheulol eraill, mae lleoliad WASP-2b yn agos iawn at ei seren (dim ond 0.0011 o Unedau Seryddol), ac mae hi'n perthyn i ddosbarth o gewri nwy a elwir planedau Ieuol poeth. Mae gan y blaned dymheredd o dros 2200 K.Mae WASP-2b yn cymryd 2.15 o ddyddiau i gylchio ei...

Cysawd Mu Arae via e-clectig September 14th, 2007 at 09:58

Yn y llun uchod mae cysawd Mu Arae yn cael ei gymharu â Chysawd yr Haul, ond mae'r blaned Mu Arae d yn rhy agos at ddelwedd yr haul i gael ei chynnwys ar y map ymaMae Mu Arae (μ Ara / μ Arae) yn seren oren-felyn wedi ei lleoli rgyw 50 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng ghytser Ara. Mae gan y seren ei chysawd planedol ei hun sy'n cynnwys o leia' pedair planed. Amcangyfrifir ei bod ychydig yn fwy na'r Haul ac oherwydd yr wmbredd o haearn credir ei bod yn ddwywaith yn fwy cyfoeth o ran elfennau trwm na'r Haul. Mae radiws y seren 31.5% yn fwy na'r Haul, ei golau 75% yn fwy disglair, ond mae ei thymheredd o ryw 5800 K yn debyg iawn i'n Haul ni.Y PlanedauMu Arae dMae crynswth y blaned yma yn ddeg gwaith yn fwy na'r Ddaear. Mae hi'n cylchio'n agos iawn at y seren, ac yn ei chylchio bob 9.6 o...

Methwsela via e-clectig September 13th, 2007 at 07:50

Mae 'Methwsela' yn llysenw ar gyfer y blaned PSR B1620-26c, sy'n cylchio'r seren PSR B1620-26 , pylseren fili-eiliad wedi ei lleoli o fewn y clwstwr crwn Messier 4 (M4), tua 12,400 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng ghytser y Sgorpion. Dyma'r blaned hynaf yn ein galaeth i gael ei darganfod gan seryddwyr, gydag oedran o ryw 12.7 biliwn o flynyddoedd.Mae Methwsela yn cylchio pâr o sêr dwbl. Mae un ohonynt, y bylseren, yn seren niwtron sy'n chwyrlio mor gyflym fel mae'n gwneud 100 chwyldro o fewn pob eiliad. Mae'r ail seren yn gorrach gwyn.Mae'r pellter rhwng y ddwy seren yn 1 US (Uned Seryddol, rhyw 150 miliwn km), mwy neu lai yr un pellter sydd rhwng y Ddaear a'r Haul, ac maen nhw'n cylchio ei gilydd tuag unwaith bob hanner blwyddyn. Mae'r blaned dros ddwywaith (2.5 i fod yn fanwl) yn...

Osiris via e-clectig September 12th, 2007 at 02:52

Nodwedd newydd dw'i isio ei chyflwyno i'r blog 'ma ydy Planed y Dydd, sef pwt am y planedau newydd sy'n cael eu darganfod tu hwnt i Gysawd yr Haul. Dyma felly Osiris, neu i roi ei henw swyddogol: HD 209458 b.Mae Osiris yn cylchio'r seren HD 209458, 'corrach melyn' - rhyw 150 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yn y cytser Pegasus - sydd ddim yn wahanol iawn o'n Haul ni. Mae radiws cylchdro Osiris yn 7 miliwn km (rhyw 0.047 Unedau Seryddol), dim ond un wythfed ran o radiws cylchdro Mercher. Fel canlyniad mae'n cymryd dim ond 3.5 o'n dyddiau ni i gylchio ei seren, ac amcangyfrir bod tymheredd y blaned yn cyrraedd 1,000 C. O ran ei maint mae hi'n 220 gwaith yn fwy na'r Ddaear, ac yn 35% yn fwy na Iau. Am y rhesymau hyn mae hi'n cael ei chategoreiddio fel cawr nwy.Mae ei hatmosffer yn cynnwys...

Gwyddoniaeth Ffug via e-clectig September 11th, 2007 at 22:44

Rhai ddyddiau yn ôl postiais i am y darganfyddiad fod Cysawd yr Haul yn dod o alaeth arall. Ymddengys fod hynny yn esiampl o sut mae rhai yn defnyddio'r rhyngwe i ledu gwyddoniaeth ffug, o bosib i gyfiawnhau eu hagenda gwleidyddol. Er enghraifft, mae wedi dod yn ffasiynol dros ben ymhlith ceidwadwyr y byd yn ddiweddar i wadu bod y byd yn cynhesu o gwbl. Yn ôl Earthfiles.com - gwefan sy'n disgrifio ei hun fel hyn...a crossroads where experts, eyewitnesses and viewers meet to share the latest updates in earth and astronomical mysteries, in-depth reports that go beyond the 6 o'clock news. Earthfiles reporter and editor, Linda Moulton Howe, is an Emmy Award-winning TV producer, investigative reporter and author who goes directly to the men and women at the forefront of science and...

Y Ddaear, Wedi Ei Gweld O Sadwrn via e-clectig September 10th, 2007 at 11:04

Tynnwyd y llun uchod gan y chwiliedydd Cassini yn 2006. Wrth edrych yn agosach (gweler y llun isod) gellir gweld y Ddaear, sy'n ymddangos fel seren fach.Bydd Sadwrn y 'seren' fwyaf disglair yn esgyn yn y rhan ddwyreiniol o'r nefoedd o ddiwedd mis Chwefror nesaf tan ganol mis Mawrth, nid nepell o'r seren...

Dydan Ni Ddim O Fan Hyn via e-clectig September 9th, 2007 at 02:31

Mae darganfyddiadau diweddar eleni wedi dangos nad ydy Cysawd yr Haul yn aelod naturiol o Gaer Gwydion (y llwybr Llaethog). Ymddengys ein bod yn perthyn i alaeth arall sy'n cael ei bwyta gan y Llwybr Llaethog. Mae hynny yn esbonio pam nad ydym yn cylchio Caer Gwydion fel y dylem, ond mae'n codi sawl cwestiwn arall.Gallai hynny hefyd esbonio pam fod y byd yn cynhesu, cynhesu sydd yn digwydd nid yn unig ar ein planed ni ond ar bob aelod o Gysawd yr Haul.Gelir darllen mwy am fanylion y darganfyddiad YMA, YMA ac ACW.Diolch i Onyx...

Topoleg Picard via e-clectig September 1st, 2007 at 22:05

Erbyn hyn, ac fel mae'r post blaenorol yn ei ddangos, mae mwy a mwy o seryddwyr yn derbyn y theori bod gan y Bydysawd ffurf corn. Daeth y posibilrwydd yma i'r amlwg yn 2003, diolch i waith y chwiliedydd Wilkinson. Gelwir y fath fodel o'r bydysawd 'Topoleg Picard', ar ôl y capten o Star Trek.Yn ôl Topoleg Picard, mae'r Bydysawd yn crymu mewn ffordd ryfedd. Mae un pen yn annherfynol o hir, ond mor gul fel bod ganddo gyfaint terfynol. Ar y pen arall, mae'r Bydysawd yn llydan iawn, ond nid yw'n lledu am byth. Petai rhywun yn hedfan allan o un ochr o'r pen llydan, byddan nhw'n dychwelyd i mewn ar ochr arall y pen hwnnw (gweler y llun uchod).Rhyfedd o...

Twll yn y Bydysawd via e-clectig September 1st, 2007 at 01:27

Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod yna TWLL ENFAWR yn ein bydysawd, bliiwn o flynyddoedd goleuni ei hyd. Ymddengys yn hollol wag o unrhyw fater ac hyd yn oed o unrhyw fater tywyll. Does neb yn gwybod pam ei fod yno, ac mae ei fodolaeth yn achosi penbleth i seryddwyr, gan na ddylai'r fath beth yn bodoli o gwbl yn ôl eu dealltwriaeth o'r...

Dilyn y Sêr via e-clectig August 22nd, 2007 at 09:14

Mae Google wedi lansio fersiwn newydd o Google Earth gydag estyniad o'r enw Sky. Bellach gellwch ymweld â 100 miliwn o sêr a 200 miliwn o alaethau. Dim ond rhaid ichi lawrlwytho'r fersiwn newydd o Google Earth...