Welsh Blogs.com


Terfynwr 4 - trioleg newydd via e-clectig July 20th, 2008 at 07:14

Terminator Salvation: bydd Christian Bale (a gafodd ei eni yng Nghymru) yn chwarae rôl John Connor, gyda Sam worthington yn chwarae rôl y terfynwr cyfeillgar newydd. Bydd corffluniwr arall o Awstria, Roland Kickinger, yn chwarae rôl prototeip o'r model T-800, sef y model roedd Arnold Scwarzenegger yn ei chwarae. Mae Llywodraethwr Califfornia (sef Arni) wedi rhoi caniatâd i'r ffilm i ddefnyddio...

Beyond the Rave: Ffilmiau Hammer yn dychwelyd via e-clectig July 19th, 2008 at 00:15

Mae Beyond the Rave yn gyfres o 20 episod sy'n nodi dychweliad Ffilmiau Hammer. Cynhyrchwyd y gyfres ar gyfer Hammer gan Pure Gross Films gyda MySpaceTV, o stori wreiddiol gan Tom Grass. Mae'n stori am fampirod wedi ei lleoli yn y sîn rave yn Lloegr. Mae hi wedi bod arlein ers mis Ebrill. Gwyliwch Beyond the Rave ar MySpaceTV. Beyond the Rave - y wefan swyddogol Beyond the Rave ar...

Hogia ar goll via e-clectig July 15th, 2008 at 00:57

Y wefan swyddogol. Onid yw'n rhyfedd nad yw Corey Feldman wedi heneiddio o gwbl ers...

Fampirod yn cymhlethu argyfwng Lisbon via e-clectig July 14th, 2008 at 21:57

Mae 'Datguddiad Mawr' y fampirod wedi cymhlethu argyfwng cyfansoddiadol Ewrop. Dim yn deall am be' dw'i'n sôn? Gweler y...

Newyn y Nos via e-clectig July 11th, 2008 at 02:55

Ie wir, mae bleidd-ddynion yn dwli ar...

Ymgyrch i integreiddio fampirod via e-clectig July 4th, 2008 at 22:02

Mae yna ymgyrch sylweddol ar-lein wedi ei anelu at integreiddio fampirod i'r byd dynol. Er ei fod wrth gwrs yn ymgyrch sy'n hysbysebu cyfres deledu newydd, dylai pawb sydd â diddordeb mewn rhedeg ymgyrchoedd ar-lein - gan gynnwys ymgyrchoedd gwleidyddol - gymryd yr amser i edrych arno. Gelwir y fath ymgyrch yn ymgyrch masnachu firaol sydd hefyd yn Gêm Realiti Amgen. Mae tactegau'r ymgyrch...

Marchog Tragwyddol via e-clectig June 30th, 2008 at 15:16

Pwy ydy Geraint Wyn Davies? A dweud y gwir doeddwn i wedi clywed amdano cyn neithiwr, ond o bosib y fo ydy Cymro enwocaf Canada, ac yn sicr Cymro enwocaf y Vampire genre. Roedd o'n chwarae rôl y ditectif Nick Knight yn y gyfres deledu Forever Knight (1992-1996). Dw'i eto heb weld dim o'r gyfres, ond fe fyddaf yn chwilio amdani...

Diwedd y Daith via e-clectig June 29th, 2008 at 16:39

Trailer Doctor Who 'Journey's...

Nesbitt i ddilyn Tennant? via e-clectig June 28th, 2008 at 19:58

Wel dyna syndod. Mae rôl David Tennant fel y Doctor wedi dod i derfyn disymwth. Llongyfarchiadau i dîm BBC Cymru am guddio hynny tan yr eiliad olaf. Wrth imi sgwennu'r cofnod hwn does dim byd ar y we na hyd yn oed ar Wikipedia i ddangos bod neb yn disgwyl i amser Tennant ddod i ben heddiw. Bydd rhaid i ni aros tan yr wythnos nesaf i ddarganfod pwy fydd y Doctor newydd, ond roedd yna sôn y...

Da iawn Davies, ond gallai fod yn well via e-clectig June 23rd, 2008 at 07:01

Heb os mae ffuglen wyddonol Brydeinig (a Chymreig) wedi cael ei dyrchafu trwy waith y Cymro Russel T Davies, ond pryd bydd cynhyrchiadau yn y genre yn cyrraedd yr un lefel â Battlestar Galactica?...

‘Distinct signs of Taffyness’ via e-clectig June 23rd, 2008 at 07:05

Dead Ringers yn gwneud sbort ar ben...

Trydydd tymor Torchwood via e-clectig June 23rd, 2008 at 07:40

Bydd Torchwood yn dychwelyd am drydydd tymor, ond dim ond pum episod (yn dilyn un stori) fydd ynddo. Y disgwyl yw bydd Freema Agyeman a James Marsters yn dychwelyd i Gaerdydd. Yn y cyfamser bydd y tîm yn ymddangos yn yr episod nesa' o Doctor...

Yr Hwlcyn Anghredadwy via e-clectig June 16th, 2008 at 04:05

Newydd gweld The Incredible Hulk. Dw'i'n cytuno efo adolygiad Mr Ddu, sef ei bod yn ffilm y gellir ei gwylio, ei bod yn well na'r Hulk, ond nid y ffilm orau o'r genre ydy o bell ffordd. Ar ddiwedd y ffilm mae Robert Downey Jr. yn ymddangos yn ei rôl fel Tony Stark (y Dyn Haearn) a dweud ei fod am greu 'tîm', felly mae ffilm o The Avengers ar ei ffordd yn y dyfodol (yn 2011, yn ôl...

Noddwyr newydd e-clectig via e-clectig June 13th, 2008 at 15:29

Diolch o galon i'r...

Uffernol via e-clectig June 1st, 2008 at 23:26

Hellboy II The Golden...

Mae Gordon yn fyw! via e-clectig May 22nd, 2008 at 01:30

Mae Gordon yn fyw! A na, dw'i ddim yn siarad am y Prif...

Gwrw Hw yn dweud Twdl-ŵ via e-clectig May 21st, 2008 at 09:15

Russel Davies ar lansiad ail gyfres Torchwood eleniMae Mae RT Davies yn gadael Doctor Who. Bydd yn dal wrth y llyw am y bedair episod arbennig a fydd yn cael eu darlledu yn 2009, ond fe fydd Steven Moffat yn arwain pumed tymor y gyfres yn 2010.Does dim dwywaith amdani fod Davies wedi bod yn llwyddiannus yn ei ymdrech i ailwampio'r gyfres, yn ogystal â rhoi Caerdydd ar y map. Ond o ran dawn greadigol, mi fydda' i yn rhoi Torchwood o flaen Doctor Who bob tro. Gwendid y Doctor ydy'r ffaith ei bod fel rhaglen yn gyfyngedig i gynulleidfa deuluol. Nid felly Torchwood, cefnder aeddfed tywyll y gyfres wreiddiol. Gall Torchwood gystadlu â chyfresi tebyg o'r UDA unrhyw ddydd, (fyddwn i yn ei chymharu â chyfresi Joss Whedon, dyn a fydd -mae'n ymddangos- yn gweithio gyda BBC Wales a thîm Doctor...

Domen dolen sci-fi via Morfablog May 16th, 2008 at 09:54

Wedi bod yn darllen mwy o sci-fi gwyddonias yn diweddar. Darllenes i Ender’s Game ar ôl gweld cartwn xkcd amdano; joies i ma’s draw, wedyn sbwyliwyd y mwynhad pan glywais i bod yr awdur yn “homoffôb radicalaidd” o Formon. Rhaid mod i wedi llwyddo anghofio’r blas sur yng ngheg fy meddwl, achos wythnos diwetha ges [...]...

Rhyfel y Clonau via e-clectig May 13th, 2008 at 19:28

Bydd y ffilm The Clone Wars yn cyrraedd y sinema ym mis...

Aliwns yn erbyn Ysglyfaethwr 2 via e-clectig May 8th, 2008 at 03:12

Gellir wylio'r ffilm yn rhad ac am ddim FAN...

Hobbit ar ei ffordd via e-clectig December 20th, 2007 at 05:09

Mae llyfr JRR Tolkien, The Hobbit, i gyrraedd y sinema mewn dwy ran yn 2010 a 2011. Bydd Peter Jackson yn gynhyrchydd gweithredol ond ni wyddys eto pwy fydd y cyfarwyddwr. Diolch i TadMack am y...

Blade Runner: The Final Cut via e-clectig December 13th, 2007 at 17:33

Ddoe nes i brynu a gwylio 'fersiwn olaf' campwaith Ridley Scott, sef y ffilm Blade Runner. Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor hoff ydw i o'r ffilm 'ma, pa mor bwerus ydy. Mae'r ffilm yn 25 oed, ond heb heneiddio o gwbl, a hynny serch datblygiad technoleg ddigidol y diwydiant ffilm. Mae'n dal yn ffilm wyddonias heb ei hail. Yn wir, roedd y ffilm yn bell o flaen ei hamser wrth drin pynciau fel newid hinsawdd, globaleiddio a pheirianneg genetig.Yn y fideo isod gwelir golygfa sydd heb os uchafbwynt gyrfa'r Isalmaenwr Rutger Hauer. Ar ail ddisg y DvD (Blade Runner: The Final Cut) cawn wybod mai Rutger ei hun ydy awdur geiriau olaf y monolog, geiriau sydd bllach ymhlith y rhai enwocaf yn hanes y sinema:I've seen things you people wouldn't believe...attacked ships on fire off the shoulder of...

Allan o hydion via e-clectig December 11th, 2007 at 10:48

Hmmm. Hen bryd imi ail-gydio yn y gwaith o sgwennu fy mlogel, Y Rhithwyr. Dechreuais sgwennu'r blogel ym mis Chwefror 2006, ond dim ond dau "act" (maen nhw'n rhy fyr i haeddu'r enw "pennod") sydd wedi cael eu cynhyrchu eleni.Chwefror 2006: 17 actMawrth 2006: 3 actEbrill 2006: 1 actMedi 2006: 2 actChwefror 2007: 1 actTachwedd 2007: 1 actCawn weld os dw'i'n gallu terfynu'r peth yn...

Pa gymeriad gwyddonias wyt ti? via e-clectig December 9th, 2007 at 23:38

image Obi-Wan Kenobi ydw i yn ôl y cwis 'Pa gymeriad gwyddonias wyt...

Cynllun cyfrwys Hitler wedi ei ddadlennu via e-clectig November 12th, 2007 at 02:21

Roedd arweinydd y Natsiaid yn cynllunio rheoli ein meddyliau o'i soseri hedegog wedi eu lleoli yn ei ddinas guddiedig yn Antarctica.Dw'i wedi ei ddarllen o ar flog Nionod Oli, felly mae'n rhaid iddo fod yn...

Dy Jabba personol dy hun via e-clectig November 7th, 2007 at 20:03

Sut i greu dy Jabba y Hutt maint llawn dy...

Flash Gordon via e-clectig October 9th, 2007 at 01:03

Gyda dychweliad Flash Gordon i'r sgrin fach, onid ydy o'n gwestiwn o amser cyn i rywrai ailgodi Buck Rogers (pliiis naaaa!)?Fel yn y rhan fwyaf o gyfresi teledu gwyddonias, mae'r aliwns ar Flash Gordon yn fodau dynol sydd i gyd yn siarad Saesneg, a gellir mynd i fyd arall heb farw o unrhyw firwsiau anghyfleus.Wrth gwrs dylai straeon gwyddonias gael y rhyddid i alluogi pob math o bethau sydd ar hyn o bryd tu hwnt i gyfyngiadau ein technoleg, ond serch hynny mae'n hen bryd i rywun greu stori wyddonias sydd yn adnabod y tri pheth hyn, sef 1 mae aliwns yn anhebyg iawn o fod yn debyg inni mewn unrhyw ffordd; 2 byddai gan aliwns nid yn unig "ieithoedd" annealladwy, ond hefyd dulliau hollol wahanol o gyfathrebu, ac ar ben hynny meddylfryd hollol wahanol. Os na allwn ni ddeall iaith a meddylfryd...

Arglwydd y Modrwyau - gan George Lucas via e-clectig October 4th, 2007 at 21:47

Beth fyddai wedi digwydd petai George Lucas wedi gwneud y ffilm Arglwydd y...

Y Marchog Tywyll via e-clectig September 8th, 2007 at 09:45

Dyma'r trailer ar gyfer y ffilm Batman: The Dark Knight. Dydan nhw ddim wedi gorffen ffilmio eto, ac mae hynny'n ddigon amlwg o weld y fideo yma!Y 'Joker' newydd, Heath...

Batman Sir Benfro via e-clectig September 2nd, 2007 at 04:12

Beth ydy'r cysylltiad rhwng Batman a Sir Benfro? Wel, er mai Sais ydy'r actor Christian Bale, cafodd ei eni yn Hwlffordd. Bydd y ffilm newydd yn cyrraedd y sinema yn...