Welsh Blogs.com


Etholiadau Lleol IX (Casgliadau+Llundain+Ron Davies) via Blog Rhys Llwyd May 3rd, 2008 at 09:23

image Dyna ni felly, etholiad arall drosodd, dyma grynhoi rhai o'r prif argraffiadau. GwyneddPlaid Cymru yn colli Gwynedd gyda unigolion blaenllaw fel Dafydd Iwan a Richard Parry Huws yn colli eu seddau oedd newyddion yr etholiad i mi. Er mod i'n credu fod Plaid Cymru yn haeddu ysgytwad dydw i ddim yn hollol gyfforddus gyda buddugoliaeth Llais Gwyendd oherwydd nad ydw i'n credu mewn single issue politics. Er enghriafft pwy yw arweinydd grwp Llais Gwynedd ar y cyngor nawr? Pwy fydd a'r mandad i arwain y trafodaethau am glymbleidio? Ydy Llais Gwynedd eu hunain yn gwybod yr ateb i hyn heb son am ni'r etholwyr yma yng Ngwynedd - y cwestiwn tymor hir fydd yn hofran uwch ben Gwynedd fydd hyn - a aeth y brotest rhy bell?Newyddion arwyddocaol arall yng Ngwynedd oedd bod Plaid Cymru wedi ennill tir mewn...

Etholiadau Lleol IV (Dafydd Iwan yn colli) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:53

image Maen swyddogol nawr fod Dafydd Iwan wedi colli ei sedd i Llais Gwynedd. Ond newyddion da i Blaid Cymru fod Dyfrig Jones (Golygydd Barn a blogiwr) wedi cipio Gerlan (ardal Rachub) i'r Blaid oddi ar Llafur. Sylwebwyr yn dechrau tybio fod hi'n arwyddocaol fod y Blaid yn colli yn y wlad ond yn cryfhau yn y...

Etholiadau Lleol - I (Ceredigion) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:35

image Mae'r canlyniadau yn dechrau dod trwyddo bore ma a'r si mawr ar hyn o bryd yw fod Dafydd Iwan a Richard Pari Huws wedi colli eu seddau i Llais Gwynedd! Mi fydd hyn yn ergyd sylweddol i Blaid Cymru. Ond dwi am sylwebu am Geredigion yn gyntaf gan fod gyda ni set o ganlyniadau llawn. Esgusodwch yr arddull ysgrifennu ychydig bach mwy tafodiaethol na'r arfer, mae hyn er mwyn postio yn sydyn!CeredigionAnnibynol: 11Dem-Rhydd: 10Plaid Cymru: 19Llafur: 1Arall: 1Maen ergyd sylweddol i'r Blaid fod Penri James wedi colli ei sedd ar y cyngor - hyn ddim yn argoeli'n dda o gwbl i'w ymgyrch i ad ennill sedd San Steffan i'r Blaid yng Ngheredigion. Ond cofiwch wnaeth y Blaid ddim mor wael a hynny ar y cyfan yn y sir achos dim ond 2 sedd i ffwrdd o reoli'r cyngor oeddem ni ac o dynnu'r stops i gyd allan...

Etholiadau Lleol II (Y Garth, Bangor) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:43

Newydd gael newyddion da fod John Wyn Meredith (Plaid) wedi ennill yn Y Garth, Bangor gyda mwyafrif o 40 dros yr ymgeisydd Annibynol (o dras Llafur nid Llais Gwyneddaidd). Roedd John yn un o'r 12 rebel o Grwp y Blaid oedd yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r ysgolion felly hyn yn newyddion da i gefnogwyr Llais Gwynedd.Hon oedd fy ward i ym Mangor oedd a JMJ ynddi, yn anffodus dim ond llond dwrn aeth allan i bleidleisio o JMJ ond diolch byth roedd yn...

BBC Wales dal i drin Cymru fel rhanbarth yn hytrach na cenedl via Blog Rhys Llwyd December 14th, 2007 at 05:20

Mae wedi fy nharo i droeon sut y mae BBC Wales yn trin Cymru fel rhanbarth o Brydain yn hytrach na fel cenedl. Cymharwch Wales Today gyda'r 6 o' clock news o Lundain – nid yw Wales Today, ein rhaglen newyddion genedlaethol, yn trin Cymru fel cenedl ond yn hytrach mae jest fel rhaglen newyddion unrhyw ranbarth arall yn Lloegr. O bell ffordd y brif stori newyddion yng Nghymru heddiw oedd bod 600 wedi troi allan i brotestio yn erbyn cynlluniau cyngor Gwynedd i gau ysgolion – 600! Does dim 600 wedi troi allan ar y strydoedd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ddim yn fy oes i beth bynnag. Cymharwch lleoliad y stori ar wefan BBC Cymru a BBC Wales. Maen brif stori gan BBC Cymru chwarae teg ond sylwch ar ei leoliad gan BBC Wales. British Broadcasting Corporation yn wir! Beth sydd tu ôl i'r...

..to create the holiday home by the sea you have always sought via Smiling under Buses May 15th, 2007 at 17:48

Neil took a photo of flats being advertised in an estate agents window in West Kirby.They were for £250,000, and not actually on the Wirral in north west England itself (as you'd expect), but 98 miles away in Pwllheli, north Wales.Here's how they're described on the website:A visit to 'Tywod Arian' will be enough to convince you ; not only will you discover apartments of distinction and quality, you'll find surroundings which will irresistibly invite you to create the holiday home by the sea you have always sought.Now, you'll always have properties in any area that are going to be more expensive than others, which inevitably means that only certain people will be able to afford them, but it seems this development was built solely for the second home market. I think it's quite sad. How...