Welsh Blogs.com


Hardeep mewn diwylliant Cymraeg…. via Clecs Cilgwri August 12th, 2008 at 07:46

Mi glywais i adolygiad o raglen BBC2 am yr Eisteddfod ddoe tra, wrando ar sioe Sian Thomas, felly mi es i ati neithiwr i'w lawrlwytho o i-player. Dwi'n hoff iawn o'r Albanwr 'Sikhaidd' Hardeep Singh, mae ganddo fo ardull sych, hamddenol, a gallu i gymryd i 'mickey' o bethau mewn ffordd tyner, heb bod yn or-greulon megis sawl digrifwr. Mi wnath o argraff drawiadol ar y 'Maes' mewn ei dwrban lliw 'pafilion', wrth iddo fo grwydro caeau Pontcanna yn siarad gyda eisteddfodwyr, wrth ei foff yn ymarfer cyfarchion newydd ei dysgu gan Nia Parry. Mi wnath o ymdrech parchus i ynganu'r geiriau'n iawn, wrth siarad gyda amrywiaeth eang o bobl. Cryfder y sioe efallai (ar wahan i bresenoldeb Hardeep ei hun), oedd y nifer mawr o wynebau rhwngwladol gafodd Hardeep y cyfle i siarad gyda nhw, gan cynnwys...