Welsh Blogs.com


Dydd Calan cartrefol yn Anderlecht, 2007-01-01 via Blog Dogfael January 7th, 2007 at 09:38

Dim ond tro bach mas heddiw rownd canol Anderlecht. Ac fe wnaeth un peth fy nharo i wrth imi wylio baner Anderlecht yn chwifio wrth y gofeb ryfel; petai Merched y Wawr yn penderfynu symud eu pencadlys o Aberystwyth yna Anderlecht fyddai’r lle perffaith iddyn nhw ddewis gan fod Anderlecht a’r mudiad yn rhannu’r un lliwiau – glas golau a melyn. Mae unrhyw un sydd wedi bod yng Nghanolfan Merched y Wawr yn gyfarwydd iawn â’r lliwiau hynny, a dyna baratoad da ar gyfer Anderlecht....

Gwahoddiad, 2006-12-28 via Blog Dogfael January 2nd, 2007 at 15:02

image Heno fe gefais i wahoddiad i ymweld â fy landlordiaid. Maen nhw’n gwpwl diddorol ac fe ddysgais ychydig yn fwy amdanyn nhw wrth sgwrsio tros lasiad o gwrw abaty. Cafodd Mme Dieu ei geni yn y Congo lle’r oedd ei thad yn swyddog cyfreithiol. Bu’r teulu yn mudo rhwng Gwlad Belg a fan ‘ny hyd nes yr enillodd y Congo ei hannibyniaeth yn 1960. Wedyn bu’n astudio ym mhrifysgol Leuven pan roedd y protestiadau iaith ar eu hanterth ac un o’r pethau yr oedd hi’n gyfrifol am ei wneud oedd didoli llyfrau llyfrgell y brifysgol pan sefydlwyd prifysgol Ffrangeg Louvain-le-Neuve. Aed trwy casgliad cyffredinol y llyfrgell bryd hynny gan rannu’r llyfrau rhwng y ddwy brifysgol. Hanes difyr iawn. Yr oeddwn wedi dysgu tipyn am M. Dieu yn gynt, ond fe gefais...

(no title) via Blog Dogfael December 20th, 2006 at 07:00

...

Gwibdaith i Lerpwl a Bangor 2006-08-22 (3) via Blog Dogfael November 16th, 2006 at 09:23

image “Ferry ‘cross the Mersey” O’r Pier Head mae’r llong fferi enwog yn hwylio i Ben-bedw, neu i Seacombe i fod yn fanwl gywir. A dyna oedd bwriad RO a minnau nesaf. Yr oeddem ar gychwyn ar antur ein bywydau, pererindod seciwlar i fan geni John Saunders Lewis. Ond i gyrraedd y fangre honno roedd yn rhaid croesi’r afon ac felly fe’n cludwyd ni rhan o’r ffordd i’n ‘mecca’  ar y fferi a hynny i gyfeiliant disgwyliedig Gerry and the Pacemakers . Ond roedd y broses o gael ar y fferi yn llawer mwy cymhleth a hir na’r daith. Yn y lle cyntaf yr oedd y lanfa arferol yn cael ei hailadeiladu ac fe gawsom ein gyrru ar hyd llwybr oedd yn ymddangos yn filltiroedd o hyd nes cyrraedd y lanfa dros dro. Diolch byth fod y tywydd yn braf...

Mwy o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod via Blog Dogfael August 2nd, 2006 at 21:25

Gwrandewch ar flog llafar Dogfael neu lawrlwythwch y ffeil mp3 i’ch i-Pod neu chwaraewr ffeiliau mp3. Ffeil......

Taith i Glasgow 2006-07-16 (1) via Blog Dogfael July 23rd, 2006 at 22:58

image Roedd bore dydd Sul yn wers am beryglon enwadaeth. Dwi’n teimlo’n cywilydd wrth adrodd yr hanes nawr, ond fel eglwyswr da, roeddwn i wedi bwriadu mynd i wasanaeth yn Eglwys Esgobol yr Alban y bore ‘ny. Ond nid oes cymaint â hynny o eglwysi esgobol yn Glasgow. Felly, cyn mynd roeddwn wedi edrych ar wefan Esgobaeth Unedig Glasgow a Galloway ac wedi gweld taw Eglwys St. Silas, Woodlands oedd yr ‘agosaf’. Roeddwn i wedi cymryd map gyda fi i ddangos y ffordd i’r lle. Felly bant â fi ar fy nhaith gan fynd heibio i nifer o eglwysi eraill (Eglwys yr Alban, Eglwys Rydd yr Alban, Bedyddwyr) roeddwn i’n bedant fy mod yn mynd i ddod o hyd i eglwys esgobol. Ond aflwyddiannus fu’r ymdrech - wedi cerdded am ryw ugain munud roedd hi’n ymddangos...

Taith i Glasgow 2006-07-16 (2) via Blog Dogfael July 23rd, 2006 at 23:02

image Efallai na wnes i gyrraedd o fewn i ddrysau Tŷ Dduw y bore ‘ny, ond fe fues i’n agos iawn i Deml Mamon, neu’r Buchanan Galleries, fel mae’n cael ei galw yn Glasgow. Wedi troi yn ôl o fy siwrnai seithug i Eglwys S. Silas, dyma neidio ar y trên yng ngorsaf Charing Cross a chyrraedd gorsaf Queen Street o fewn dim o amser a chrwydro’n hamddenol tuag at y Galleries gyda’u degau o siopau cadwyn tebyg i bob canolfan siopa arall ym Mhrydain. Ni sylwais ar unrhyw siop oedd yn wahanol yno. Ond doeddwn i ddim yn bwriadu aros yn hir ‘ta beth oherwydd yr oeddwn i wedi penderfynu na fuaswn yn mynd i New Lanark nac i weld Senedd yr Alban wedi’r cyfan. Wrth gyrraedd y gwesty nos Sadwrn fe ddarllenais fod oriel ac amgueddfa Kelvingrove wedi ail-agor...

Dal i fod yn Glasgow via Blog Dogfael July 18th, 2006 at 13:00

Mae’n chwilboeth yma yn Glasgow, ond mae’r rhagolygon ar deledu Prydeinig yn dangos fod Llundain a Chaerdydd yn llawer poethach. Dwi’n ddiolchgar felly taw fan’yn ydw i! Byddaf yn dechrau ar fy nhaith adref ‘fory ac gobeithiaf gael y cyfle i adrodd peth o hanes Glasgow erbyn fore Iau. Mae gen i gymaint i’w adrodd, er dwi ddim wedi gwneud cymaint o bethau cyffrous â hynny....

Bant i Glasgow via Blog Dogfael July 15th, 2006 at 08:30

Dwi mynd i Glasgow heddiw gyda’r gwaith. Dwi’n gobeithio cael taith dda ar Trenau Arriva Cymru a chyrraedd Glasgow cyn iddi nosi heno. Bydd Glasgow yn llawn, oherwydd mae cynhadledd yr European Renal Association yn cael ei chynnal yno. Bydd hyn yn golygu rhyw 4,000-6,000 o ymwelwyr yn fwy na’r arfer! Dwi’n edrych ‘mlaen i weld y cwmni fydd yno i siarad gyda nhw....

Llyfr y flwyddyn 2006 via Blog Dogfael July 12th, 2006 at 22:56

image Dwi ddim yn gwybod sut mae’n bosib penderfynu rhwng llyfr o feirniadaeth lenyddol ar yr oesoedd canol diweddar, nofel am fywyd merch yng ngymoedd y de, a bywgraffiad gwleidyddol. Mae’n swnio’n debyg i feirniadu’r Best of breed yn sioe gŵn Crufts rhwng St Bernard, Chow a Shih tzu. Rhywbeth dibwynt yw ceisio gwneud hynny ‘ta beth. Mae’r weithred yn ddi-werth heblaw i’r enillydd sy’n derbyn gwobr o £10,000. Ond bydd y canlyniad yr un mor ddi-sylw ymhen y flwyddyn â’r ffaith fy mod i wedi ennill y wobr gyntaf mewn sioe fabis yn Neuadd y Farchnad, Crymych tua 1962. Yr hyn oedd yn ychwanegu sbeis i’r gystadleuaeth eleni oedd bod BBC Cymru wedi dewis Cylch Darllen y Cŵps i gynnig sylwebaeth ar y llyfrau Saesneg yn y...

God save the prince of Wales! via Blog Dogfael July 5th, 2006 at 14:17

image Dyw rhai pethau ddim yn newid. Mae’r gaeaf yn oer, mae’r haf yn gynnes, ac mae pobol Cymru yn caru y Tywysog a Duges Cernyw. Dim ond sticio teitl brenhinol ar unrhyw un ac fe fydd pobol y dywysogaeth fel gweddill y deyrnas ond yn rhy barod i syrthio o’u blaenau mewn parchedig ofn. Gyda’r holl newidiadau eraill mewn bywyd mae’n dda fod pethau fel hyn yn aros yr un fath. Mae ‘na rai gwerthoedd na ellir mo’u hepgor na’u hanwybyddu. Mae eu ffraethineb a’u harabedd y tu hwnt i’n deall ni feidrolion. Later they [Charles a Camilla] moved on to Rhossili Village Hall where the couple met a series of groups on Gower and were entertained by a harpist. But when he [Charles] unveiled a plaque and examined the spelling of Rhossili he found it...

Beth mae DML yn ei wrando 2006-06-29 via Blog Dogfael June 30th, 2006 at 07:26

image Os yw’r ford yn gyforiog o lyfrau mae’r peiriant CD bron â chyrraedd melt-down. Dyma beth mae DML yn wrando ar hyn o bryd. Cymysgedd ddifyr o gerddoriaeth gyfoes a hiraethus. Joan Baez, Hits/greatest & others. (Vanguard, 1986, 1973) Roberta Flack, The very best of Roberta Flack. (Rhino, 2006) Pet Shop Boys, Fundamental. (Parlophone, 2006) Neil Young, Living with war. (Reprise, 2006) 1967-82: degawdau roc: pigion canueon roc Cymraeg. (Sain, 2004) Pala, Meddwl yn ôl. (Sbrigyn Ymborth, 2006) Peter, Paul and Mary, 10 (Ten) years together: the best of Peter, Paul and Mary. (Warner, 1970, 1999)...

Baner Lloegr mewn trafferth … yn yr Alban via Blog Dogfael June 22nd, 2006 at 23:16

image O dan y pennawd Vandals try to burn England flag mae gwefan newyddion y BBC yn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i faner S. Siôr yn Kirkcudbright, swydd Dumfries and Galloway. Mae’n ymddangos bod baneri nifer o wledydd yn hedfan yn y stryd fawr ond dim ond baner Lloegr a gafodd ei difa. Rhyfedd, on’dife?...

Owain Glyn Dŵr via Blog Dogfael June 15th, 2006 at 00:50

image Heblaw am ei ddelw ar seliau nid oes gan neb unrhyw syniad o sut olwg oedd ar Owain Glyn Dŵr mewn gwirionedd. Ond mae gan ddigon o bobol syniadau am sut olwg ddylai fod wedi bod ar Owain Glyn Dŵr, ac nid yr hyn a ddychmygwyd gan y cerflunydd Simon van de Put yw hynny. Ar y sgwâr yng Nghorwen ar hyn o hryd saif cerflun hynod o’r tywysog fel dyn byr cyffredin sy’n debyg i’w gyd-wladwyr sy’n tyrru i’r dref fechan hon bob wythnos. Ond nid un fel ‘na yw Glyn Dŵr i fod. Yn ôl gwefan newyddion BBC Cymru dyw pobol y dref ddim wedi hoffi’r cerflun ers ei godi yn 1995. Dywedodd un o aelodau’r cyngor cymuned: “Mae cerflun gwell mwy drudfawr, mwy tywysogaidd, yn mynd i ddod yn ei le a gobeithio y bydd yn plesio’r mwyafrif o bobl...