Welsh Blogs.com


Pethau’n ddu ar Alun Cairns? via Blog Dogfael June 24th, 2008 at 09:28

image Dyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y byddai’r chwip Torïaidd wedi’i dynnu oddi arno yn y Cynulliad Cenedlaethol hefyd. Y rheswm dros ddweud hynny yw’r ffordd y mae’r blaid Geidwadol wedi mynd i’r afael ag achos James McGrath, yr ymgynghorydd arbennig i Boris Johnson, maer Llundain. Dyma sut mae’r newyddiadurwr Marc Wadsworth yn adrodd yr hanes yn y Guardian ar-lein. When I put to McGrath that an influential black columnist for the Voice newspaper suggested that...

Welsh Not O Hyd via e-clectig June 24th, 2007 at 00:06

Protest yn erbyn Thomas Cook yn Wrecsam.Mae pythefnos wedi mynd heibio ond eto mae Thomas Cook yn dal i ddilyn ei bolisi Welsh Not a gwrthod i'w staff gyfathrebu gyda'i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhalwyd protestiadau yn Wrecsam a Chaerdydd ddoe gan Gymuned a Chymdeithas yr...

Gwarth! via Wierdo February 28th, 2007 at 22:00

Dwi di bod yn aros am jec wthos yma (cheque dwin feddwl), gin gwaith am y shifts neshi ym mis Rhagfyr (mi wn, slo fel...crwban). Oni am ebostio'r "bos" a dweud wrthi fodo heb gyradd, ond mi gesi wbod heddiw fod y chec di cyradd Marco's (takeaway 2 dy i ffwrdd ohona ni) a fod nw di trio casho'r chec!!! Sut yn y byd ma hyn di llwyddo i ddigwydd, dwn i ddim!Yn un peth, ma merch y bos yn myw yn yr un ty a mi felly mi oedd y cyfeiriad yn mynd i fod yn gywir doedd.Yn beth arall, ma "Mari Davies" yn reit wahanol i "Marco". Ma'n eitha cangymeriad i'r postman neud yn y lle cynta, ond nw yn trio casho'r chec! Ma huna'n warth. Ma Marco's wedi mynd lawr yn fy ngolwg i. Manw dal i neud pizza's anhygoel, allaim gwadu hynny, ond ceisio dwyn fy arian prin i?! Grrr.Ma hi'n ddydd gwyl dewi fory. Mana...