Wedi bod yn brysur gyda llawer o bethau--cwpwl o gyngherddau, digon o waith, mwy o ddrama gyda ffrindiau, ayyb. Ro'n i'n bwriadu postio mwy am y Cwrs Cymraeg, ond dw i ddim mewn tymer heddiw (ond mae rhaid i fi ddweud diolch i bawb a adawodd sylwadau diddorol yn sôn am gyrsiau Cymraeg). Dw i newydd orffen ysgrifennu post hir dros ben ar fy mlog Saesneg gyda meme ffilmiau. Hefyd, dw i wedi diweddaru fy ngwefan gyda mwy o enghreifftiau o waith cynllunio. Diddorol iawn...siwr o fod...ie.
Ta beth, dyma un peth newydd - dechreuais i ddosbarth "tai chi." (Tsieineeg oedd hynny, nid Cymraeg! Does dim "tai" gyda "chi", oes e??) Dw i'n cymryd y dosbarth gyda Rob a ffrind arall i ni, Jay. Dw i ddim yn siwr eto os bydda i'n dal ati. Byddaf yn mynd i'r dosbarth am fis efallai a wedyn yn penderfynu os...
Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.)
Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos....
Mae popeth yn brysur fel arfer. Dim amser i flogio. A pan dw i'n ymlacio dw i'n bant drwy'r dydd hefyd, mae'n ymddangos--dydd Sul fe aethon ni gyda cwpwl o ffrindiau i rafftio i lawr yr afon Americanaidd yn Sacramento (rhyw awr a hanner i ffwrdd). Dim white water rafting oedd hi, jyst arnofio i lawr yr afon mewn rafft gyda llawer o gwrw. Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o dwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dwr ar lan yr afon. Yfais i tipyn gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym.
Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os mae hynny'n gwneud synnwyr. Mae e'n ffansio ffrind arall ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n priodi a ffrind ohono fe. Mae Mike yn priodi hefyd, ond mae e a'i wraig yn meddwl o'i hunain fel swingers. Y problem yw,...
Dw i ddim wedi blogio ers talwm, ond wrth gwrs, mae pethau'n brysur dros y gwyliau fel arfer. Mae ffrindiau sy'n byw yn Hawaii (lwcus!) wedi dod i ymweld â ni a'i teulu nhw, felly dyn ni wedi bod yn mynd yma ac acw gyda nhw yn ymweld â ffrindiau eraill ac ati. Fe aethon ni i weld yr eira yn y mynyddoedd yn Pinecrest (rhyw 2 awr i ffwrdd) oherwydd mae bachgen bach 3 oed gyda nhw sy erioed wedi chwarae yn yr eira. (Does dim llawer o eira yn Hawaii sef ar gopa Mauna Kea.)
Hefyd aethon ni gyda nhw i wylio gêm pêl-droed Americanaidd rhwng y 49ers a'r Tampa Bay Buccaneers. Dim yn gyffrous iawn i fi ond joiais i'r black-and-tans. Noson Nadolig fe aethon ni i barti yn nhy ffrind i ni, ac ar ddydd Nadolig aethon ni i weld teulu Rob.
Dderbynoch chi unrhywbeth arbennig o...
Tua adeg yma’r flwyddyn dwi’n gwneud fideo nadolig i ddarllenwyr ffyddlon y blog. Eleni cawn olwg fach ar beryglon teledu byw.
Nadolig Llawen!...
Dwi newydd greu tudalen ar gyfer gwe-gamera sy’n edrych allan ar ganolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r olwyn fawr yn rhan o atyniadau Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd fydd yn agor fory. Mae’r llun yn adnewyddu bob munud yn otomatig, ond mi fydd yr olygfa yn well ar ôl 7 o’r gloch pan fydd goleuadau’r swyddfa yn mynd allan.
Gwyliwch......

Duw, does dim amser i flogio bellach. Dw i wedi bod yn gweithio unwaith eto ar brosiect freelance yn gwneud ymchwil cwricwlwm ar gyfer Riverside School for the Arts. Hefyd dw i wedi bod yn helpu gyda gwobrau llyfrau i bobl ifanc, yn trefnu categori nofelau graffig a hefyd ar banel enwebu yng nghategori SF/Ffantasi. Llawer o waith ydy hi, ond dw i'n cael sawl llyfrau yn rhad ac am ddim. Gwych! :)
Dyma ffoto ohono i yn y Ren Faire. (Rhaid i ti fod yn "cyswllt" ar Flickr i weld y weddill.) Roedd "reptile petting zoo" yno a dw i'n hoffi ymlusgiaid. Hefyd, roedd Molly, merch ffrindiau, eisiau mynd i weld yr ymlusgiaid ond doedd hi ddim eisiau mynd i mewn ar ei phen ei hunan. Felly es i i mewn gyda hi. Roedd y neidr yma yn fy hoffi fi, dw i'n credu. Neu yn meddwl fy mod i'n goeden. Un neu'r...
Ydych chi erioed wedi meddwl am be mae’r pobl busnes na’n gwneud yn eu ciniawau (neu brecwastau) ‘rhwydweithio’?
Mae aelodau clwb ‘Working Lunch Wales’ wedi bod yn dysgu gwneud ychydig o hud a lledrith. Wele un o’r triciau sy’n cael ei berfformio gan ddau dyn busnes - tra bod un yn eistedd yn yr awyr gyda dim ond un goes ar y llawr, mae’r llall yn balansio ar ei gefn! Mae llun y pâr dawnus ar y dudalen yma (sgroliwch i lawr)....
Mae pawb yn caru Chris…...
The Shining, ffilm i’r holl deulu gan feistr y comedi rhamantus, Stanley Kubrick....
Mae hyn yn sili iawn, ac mae’n dod o Popbitch felly bydd llawer ohonoch chi wedi’i weld, ond beth am Wobrau Logos Phalig Beta?...
Gêm fach fflach - dim ond 4 lefel i'w datrys, diolch byth.
Tynna fy cordyn, bêbi - un ofnadwy. Cyrhaiddais i lefel 8 cyn rhoi'r gorau.
Ond fy ffefryn heddi yw... Sushi Samari. Hai!
Wedi wneud cymaint o waith papur heddi, oedd angen rhywbeth fel hyn....
Falle bydd hyn yn feature cyson ar yr hen Forfablog.
MP3: Kick Me Out - Artic Monkeys vs team9
Blog: Bachgen o'r Enw Siwsan - blog Poj!
Gêm: Pac-Man ar yr iPod
Syniadau: Beth yw "llif" a sut wyt ti'n ei ffeindio?
Flickr: Gweld dy holl grwpiau gyda'i gilydd.
Hwyl: 101 o gemau ar-lein am...
Wedi bod yn chwarae gyda Democracy, teclyn teledu-ar-y-rhyngrwyd, yr wythnos 'ma, sy'n ffordd (arall) wych o wastraffu amser pan dw i fod i wneud pethau eraill. Dw i ddim yn siwr os yw hyn yn well nag iTunes, sydd erbyn hyn yn cynnig podlediadau fideo hefyd - prif mantais falle...