Welsh Blogs.com


temtasiwn yr afal… via Clecs Cilgwri September 28th, 2008 at 00:27

Wnes i bigo draw i Lerpwl ddoe efo'r bwriad o ddisodli fy hen i-pod mini (sydd bellach heb y gallu cadw siarj yn ei batri am fwy nag awr) gyda un o'r i-pod nano's newydd. O'n i'n penderfynol o gael un du, ond yn John Lewis du oedd yr unig lliw nad oedd ganddynt, felly pigiais i rownd y gornel i'r siop 'Apple'. Does dim byd o'i le, meddyliais, cael chwarae sydyn gyda'r holl teganau o fy nghwmpas cyn ofyn i un o'r pobl Apple am un o'r Nano's du. Ond oedd! mi gwympais i mewn cariad gyda teclyn sgleiniog llyfn, o'r enw 'i-pod touch' a felly gwariais i ychydig mwy na'r cant punt o'n i'n bwriadu ei gwario. Wedi dweud hynny, mae'r gwahaniaieth yn y dwy teclyn yn sylweddol, ac yn sicr gwerth y chwe deg punt sydd rhyngddynt ar ran pris. Mae'r touch yn debyg i i-phone (ond heb y ffon), ac ar...