Welsh Blogs.com


Iaith y Sais via Morfablog November 11th, 2008 at 19:27

Pennill Dychan, gan Philippa, o’r Talwrn y llynedd. “Cyfraith Gwlad” Dewch i Loegr ond cyn y daith Bydd rhaid mynd ati i ddysgu’r iaith. Dewch i Gymru, dewch â’ ch llais, ‘Does ond rhaid medru iaith y......

Prawfddarllenwch, Os Gwelch yn Dda via Morfablog November 3rd, 2008 at 10:13

Da iawn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Faint o’r rhain sydd o gwmpas y wlad hyd yn hyn? Gan fod tipyn o sylw wedi rhoi i’r ffars yn Abertawe, dw i am bostio mwy o enghreifftiau fan hyn, gyda bach o gydestun yn Saesneg. Dim ond stwff newydd, dw i ddim am fynd trwy archif Scymraeg, ni phoener. More [...]...

Stopia! via Morfablog November 1st, 2008 at 23:09

Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr? P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr [...]...

Croeso yn ôl i’r iaith Gymraeg via castell tywod October 28th, 2008 at 21:47

Mae fy ffrind i, Brenda, wedi dod yn ôl o Gymru, a cyn bo hir bydd cyfle i ni ymarfer dros y ffôn unwaith eto. Bydd hynny'n dda, achos dw i ddim wedi bod yn ymarfer llawer, er mod i wedi gwrando ar nifer o raglenni Pigion o'r BBC. Dw i'n bwriadu blogio yn fwy aml hefyd, ond ar hyn o bryd dw i'n rhoi fy holl egni blogio i mewn i'r blog Cybils, lle dw i'n olygydd eleni. Fy swydd i ydy postio adolygiadau llyfrau wedi'i ysgrifennu gan y blogwyr sy'n beirniadu'r gwobrau. Hefyd dw i'n postio pethau eraill fel cyfweliadau a cysylltiadau. Mae hi'n ddiddorol iawn, ond mae hi'n cymryd digon o amser. Dw i ddim yn astudio Sbaeneg y tro 'ma--fwynheuais i mo'r dosbarth, a doedd yn llyfr ddim yn dda iawn. Felly, gobeithio y bydd digon o amser i fynd yn ôl i'r...

Dial y cyfieithydd via Morfablog October 28th, 2008 at 10:29

Mae hyn yn mynd rownd mewnflychau ebost Cymru ar hyn o bryd, ac mae Hedd wedi postio fe ar y maes, lle welais i fe y bore ’ma. Jyst yn fendigedig: Pan welais i fe gyntaf, ro’n i’n amau taw job Photoshop oedd hi, neu cynyrch un o’r safleoedd ’na sy’n ffugio arwyddion, ond dw i’n [...]...

Dysgwyr - cymhathu neu “ffito mewn”? via Morfablog October 26th, 2008 at 15:06

Missives on Outlander Japanese. Cofnod mewn ffurf deialog ar y blog Néojaponisme ynglŷn â’r dewisiadau ieithyddol ar gael i “ddieithrin” yn Siapan sy wedi dysgu’r iaith. Mae llawer iawn o bwyntiau i gnoi cil drostynt, yn y ddeialog ei hun, yn y drafodaeth wedyn, a draw ar flog Languagehat, lle ffeindiais i’r peth yn y [...]...

Pe tasai Jon Stewart yn siarad Cymraeg via Morfablog October 26th, 2008 at 11:42

Jyst rhag ofn bod rhywun yn darllen hyn sy ddim yn dilyn blog Chris Cope, mae ei gofnod fideo diwetha ’na yn wych: Arth sy’n Dawnsio: Parablu. Dyma’r fideo ar YouTube, rhag ofn dy fod di am adael sylw fan ‘na. Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, [...]...

Geiriau drwg? via Morfablog October 25th, 2008 at 13:57

“Bad Language”: cofnod, a thrafodaeth, diddorol tu hwnt ar Language Log am newidiadau mewn iaith, ac ystyr y geiriau “language” a “bad”. Mae’r cofnod yn ymateb i rywbeth ar Languagehat, sydd ei hunain yn dilyn o gofnod blaenorol ar y Log. Ro’n i am gymharu’r sgwrs yna a’r un ar maes-e ynglŷn â’r ffordd mae defyndd [...]...

Wlpan Agent #3505 via Morfablog October 19th, 2008 at 15:17

Trwy dolenni Nwdls ar delicious.com ffeindiais i gofnod diddorol ar flog Cymreig dw i heb ei weld o’r blaen: How I Learned to Stop Worrying and Love the Heniaith. Fel sy’n digwydd ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, dw i wedi bod yn meddwl am fy mhrofiadau personol o ddod at yr iaith, ond mae’n hawdd [...]...

Rheswm arall fyth dros gadw’r Gymraeg yn fyw via Blog yr Hogyn o Rachub October 1st, 2008 at 14:38

Saesneg: the Stinkhorn [mushroom]Cymraeg: y Pidyn Drewllyd♫ A'n heniaith mwyn ......

Sbonc y glennydd via Blog yr Hogyn o Rachub September 29th, 2008 at 11:08

Gwyddoch yn iawn mae un o’m dileits ydi enwau anfeiliaid yn Gymraeg, a dyna ydi enw ar anifail: sbonc y glennydd. Wyddoch chi beth ydyw, pan fyddwch yn chwilota drwy wymon (dwi ddim yn ymgymryd â hyn yn aml, gyda llaw) y creaduriaid bach chweinllyd hynny sy’n llechu yno. Wel, sbonc y glennydd ydi honno. Hoffwn fod yn sbonc y glennydd yn anad dim, yn wymonllyd fodlon ar y byd.Rhyfedd ydi gweld hefyd un neu ddau o amrywiaethau. Fel y gwyddoch morgi ydi siarc, ond catfish ydi morflaidd. A chath fôr ydi ray. Sut ddaru hynny ddigwydd ni wn, ond bydd pethau felly wastad yn fy niddori hyd fy ngwely...

Dirywiad safon yr iaith via Blog yr Hogyn o Rachub September 17th, 2008 at 09:48

Efallai fy mod i’n swnio’n rêl cyfieithydd bach trist, ond mae safon iaith yn bwysig i mi, ac mae bratiaith yn troi fy stumog. Wn i ddim p’un a wnaethoch wylio Taro 9 neithiwr, a drafododd ddirywiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol, ond dydi hi fawr o syndod, er ei fod yn benbleth ac yn gwneud fawr o synnwyr.Fy “nghenhedlaeth” i (nid dyma’r gair cywir ac mi egluraf pam nes ymlaen) ydi un o’r rhai olaf, mi gredaf, fydd â Chymraeg cref, naturiol. Yn 23 oed, mae gen i a llawer iawn o’m cyfeillion, yng Nghaerdydd o bob rhan o’r wlad neu’r rhai yn Nyffryn Ogwen, grap ar ymadroddion ac idiomau, ac rydym yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd.Dwi ddim yn honni o gwbl fod i ni Gymraeg perffaith di-wall, mae hynny’n gwbl anghywir. Ond eto mae hynny’n rhywbeth sy’n gyffredinol...

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng y Cymry a’r Saeson via Blog yr Hogyn o Rachub September 3rd, 2008 at 10:35

Un o enghreifftiau Geiriadur Prifysgol Cymru o’r defnydd o’r gair Sais:Sais, Sais y gâch ei bais,Y Cymro glân y gâch allan. (1660)Wn i ddim amdanoch chi, ond credaf y ceir gwirionedd ym...

Geiriau cyffredin via daflog August 29th, 2008 at 12:03

Yn ôl tudalen ar wefan Croeso Cymru: About 65% of Snowdonians speak Welsh. So it helps to know a few common words, like ‘arddunol’ (beautiful), ‘syfrdanol’ (stunning), and ‘hyfryd’ (lovely) Hy? Bues i’n byw yng Nghwynedd am 9 mlynedd.. chlywais i erioed y gair. Mae’n air da i farddoniaeth falle ond ydi e’n air cyffredin? Prydferth yw’r gair mae pobl yn ddefnyddio ar......

Gwglo’r Gymraeg: Fideos via e-clectig June 17th, 2008 at 05:49

Nes i gwglo am fideos Cymraeg. Dyma'r prif ganlyniadau a ges i. cymraeg video Caneuon Cymraeg Video Channel | Veoh Video Network (fideos Bandit) 'Rhannwch eich Cymraeg Video' canu cyfoes cymraeg Video Cyfoes??? Mefeedia Video Tag: cymraeg Cymraeg - Sanjeev Bhaskar. Cyfweliad gydag is-deitlau Cymraeg. Dysgu Cymraeg - AOL Video Rhannwch eich Cymraeg on Technorati Cymraeg - Stanter...

Facebook yn Gymraeg? via Morfablog May 22nd, 2008 at 16:02

Braf gweld, ar flog Mercator bod Facebook wedi derbyn y galw am fersiwn Gymraeg o’r safle. Mae’r broses gyfieithu yn agored i bawb, ac maen nhw’n defnyddio model diddorol iawn ar gyfer y gwaith. Y cam cyntaf yw i gyfieithu’r 226 o dermau sylfaenol maent yn galw y “glossary” - gwaith sy wedi’i gwblhau eisioes. [...]...

Pigion y Ddysgwraig Ddiog via castell tywod May 10th, 2008 at 04:09

Dw i newydd orffen gwrando ar y rhaglen BBC Pigion am y tro cyntaf a mwynheuais i hi yn fawr iawn. Yn arbennig, hoffais yr oedd amrywiaeth o acennau o ledled Cymru. Ymarfer da i fi--dw i ddim wedi cael cyfle i wrando ar Radio Cymru neu unrhywbeth yn ddiweddar, felly mae'n ychydig o her i fi ddeall. Ond, mae rhaid i fi ddechrau ymarfer fy Nghymraeg, gan mod i ddim mewn dosbarth Sbaeneg ar hyn o bryd. Daw y Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog mewn dwy fis byr. Fel arfer, y tair blynedd diwetha, ro'n i yn y dosbarth uchaf, ond bob blwyddyn dw i'n siwr mod i wedi anghofio popeth a bydd rhaid i fi mynd i lawr i'r lefel nesaf is (next lowest level - ydy hynny'n gywir?). Ond efallai, os dw i'n gwneud yr ymarferion ar-lein ac ati, teimla i'n ddigon cyffyrddus i aros yn lefel...

Dadl Iaith: Pa Ddadl? via e-clectig May 10th, 2008 at 02:01

Am resymau llwythol hanesyddol, ni ddylai fod yn syndod bod yna rai pobl o'r Blaid Lafur sy'n dal i wrthwynebu rhoi statws cyfartal i'r iaith Gymraeg, ond mae'n eitha chwithig serch hynny gweld pobl sydd yn ystyried eu hunain yn 'sosialwyr' yn dadlau na ddylid gwario arian ar y Gymraeg am nad ydy hynny'n economaidd gall. Mae'r fath resymeg yn perthyn i ganol-dde'r spectrwm gwleidyddol, hyd y gwelaf i. Ymddengys nad ydy egwyddorion sosialaidd y bobl 'ma yn mynd mor bell â chynnwys hawliau sylfaenol y 20% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg, am ryw reswm.Pob tro mae pwnc yr iaith yn codi yn y cyfryngau ceir adroddiadau blinedig am ddiffyg 'dadl agored' ar ddefnydd swyddogol y Gymraeg, ond mewn gwirionedd: pa ddadl? Naill ai ti'n credu bod gan siaradwyr Cymraeg yr un hawliau ieithyddol...

Cysylltiad Cyflym via castell tywod March 28th, 2008 at 23:46

Dw i jyst yn rhedeg heibio'r blog gyda cysylltiad o'r cylchlythyr BBC--maen nhw wedi lawnsio safle o'r enw Pigion. Mae Pigion yn postio podlediadau wythnosol gyda uchafbwyntiau Radio Cymru o'r wythnos ddiwetha, wedi'i chyflwyno yn syml ar gyfer ddysgwyr, yn arbennig. Dw i'n edrych ymlaen at gwrando â nhw--pan fydd amser rhydd 'da fi. Ar hyn o bryd dw i'n dal i ddysgu Sbaeneg--a dw i ddim yn gwneud hynny yn dda iawn...

Dim cefnogaeth i cy via daflog March 12th, 2008 at 16:39

image Mae yna gwmni cyfieithu mawr o Leeds sydd wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar am eu bod wedi ennill cytundeb mawr gan fwrdd arholi o Gymru. Dwi’n meddwl mai’r gwaith yw cyfieithu papurau arholiad (o’r Gymraeg i’r saesneg) mewn maes eitha arbennigol er mwyn eu marcio. Dwi ddim yn rhan o’r byd cyfieithu proffesiynol felly does gen i ddim llawer o wybodaeth am y mater, ond mae’n debyg fod y cwmni wedi ennill y cytundeb yn erbyn cwmni o Gymru drwy rhoi’r amcanbris rhataf. Ar ôl ennill y cytundeb roedd rhaid iddyn nhw nawr ffermio’r gwaith allan i gyfieithwyr llawrydd, sy’n arferol ond am bris llai na’r arfer. Beth bynnag, trafod eu gwefan oedd fy mwriad i. Os ydych chi’n ymweld a’r wefan gyda porwr Cymraeg (h.y. un...

Ochenaid… via castell tywod March 11th, 2008 at 05:46

Does dim byd yn ddiddorol yn digwydd fan' ma, yn anffodus. Dw i'n cwympo'n ôl gyda'r gwaith cartref Sbaeneg--er bod dim byd yn ddiddorol yn digwydd, mae llawer yn digwydd. Pethau bychain, blin, fel gwneud ein trethi (dyn ni'n cael arian yn ôl o'r llwyodraeth ffederal--hwre!--ond mae dyled 9 doler arnon ni i'r dalaith--bww!). Mae'r gwaith yn poeni Rob ar hyn o bryd. Â dweud y gwir, mae fy ngwaith i yn boenus hefyd: derbynais i "lythyr gwrthodiad" oddiwrth asient arall heddiw. Felly mae'n flin 'da fi; dydy hynny ddim yn bost siriol...ond mae angen ymarfer arnaf cyn y cwrs yn yr haf, rhag ofn i fi fynd i lefel...

Mae reis yn neis via daflog February 22nd, 2008 at 12:23

Dyma wefan FreeRice lle allwch chi wella/ehangu/gloywi eich geirfa sisneg a chyfrannu i raglen fwyd y Cenhedloedd Unedig ar yr un pryd. Be sy’ angen arna i yw fersiwn Cymraeg o hwn - gwneud ychydig o ddefnydd o’r holl waith wnaed ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrhaeddais i lefel 45 a 5000 gronyn o......

Dyfal Donc a Dyrr y Garreg via castell tywod February 18th, 2008 at 04:38

Dw i wedi dechrau unwaith eto gyda'r sgyrsiau dros y ffôn gyda fy ffrind, Brenda, sy'n dysgwraig hefyd a sy'n dod o Gastell-Nedd yn wreiddiol. Bron yn wythnosol, dyn ni'n dewis pwnc o flaen llaw, a mae un ohonon ni'n gofyn cwestiynau a'r llall yn ymateb. Mae'r pynciau yn eitha cyffredinol; er enghraifft, y pwnc ddydd Sadwrn diwetha oedd "ein taith ni nesaf." (Bydd hi'n teithio i Dde California yr wythnos nesaf.) Ar wahân i hynny, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ein dosbarth Sbaeneg y dyddiau yma, â dweud y gwir. Mae'r dosbarth yn mynd ymlaen; perfformiais i'n dda ar y dau brofion cyntaf. Ond does dim digon o amser i astudio. Am ryw rheswm dyn ni'n arbennig o brysur ar hyn o bryd gyda pethau fel gwaith, wrth gwrs, a hefyd ail-gynllunio fy ngwefan bersonol. Heddiw aethon...

Sbaeneg yn mynd ymlaen… via castell tywod February 7th, 2008 at 07:38

Dw i'n mwynhau'r dosbarth Sbaeneg. Ond dw i wedi sylwi ar rywbeth. Bob tro dw i ddim yn gwybod gair, dw i'n troi i'r Gymraeg (yn fy mhen, ta beth). Wel, Cymraeg neu'r Ffrangeg. Erbyn hyn, dyn ni wedi dysgu geirfa ynglyn â'r dosbarth a'r prifysgol, ac hefyd rhifau. Wrth gwrs, dyw'r geirfa brifysgol ddim mor ddefnyddiol i fi ar hyn o bryd, gan mod i ddim yn fyfyrwraig bellach. (Yo estudio administracion de empresas!) Ond efallai bydd hynny yn ddefnyddiol i'r gwr, os caiff e fyfyrwyr sy'n siarad Sbaeneg. Beth arall...ym, wedi ffeindio "oriel lluniau" perffaith ar gyfer fy ngwefan bersonol. Wel, mae'n gyffrous i fi ta beth. Dw i wedi bod yn chwilio am oriel da, a dyma oriel arbennig o dda a digon hawdd i...

Dw i’n dysgu…Sbaeneg?! via castell tywod January 27th, 2008 at 07:34

Ie, yn lle astudio Cymraeg fel merch fach dda, dw i'n dysgu Sbaeneg. Dw i'n cymryd dosbarth gyda fy ngwr a chwpwl o ffrindiau. Dw i'n gallu siarad tipyn bach o Sbaeneg yn barod--mae fy llys-dad yn dod o Costa Rica, a mae modryb 'da fi sy'n dod o Mecsico yn wreiddiol. Dw i'n gallu deall yn eitha da, ond dw i ddim yn gallu ateb yn dda iawn, a does dim llawer o eirfa 'da fi o gwbl. Ond mae'n bwysig iawn a defnyddiol iawn gwybod Sbaeneg yn California, felly... O leiaf, yfory bydda i'n sgwrsio yn Gymraeg gyda ffrind i fi, Brenda--dyn ni'n ail-ddechrau ein sgyrsiau ffôn. Dw i i fod i siarad am fy nhaith i'r Eidal ym mis Tachwedd. Pob lwc i fi!! Mewn newyddion eraill, nawr mae hi'n bosib cofrestru ar y Cwrs Cymraeg 2008 - Cwrs y Rhosyn Gwyllt yn Iowa. Ydw i wedi sôn yn ddiweddar, mod...

Gwella Fy Ngeirfa via castell tywod January 15th, 2008 at 02:15

Diolch i Nic am ddysgu ymadrodd newydd i fi (newydd i fi yn Gymraeg, ta beth) - neidio'r siarc....

Dydd Cyntaf yr Ysgol via castell tywod January 8th, 2008 at 20:43

Er bod rhaid i fi ymarfer fy Ngymraeg eto, heddiw (p'nawn 'ma) bydd Rob a fi'n dechrau dosbarth Sbaeneg yn y coleg lleol. Mae'n ddefnyddiol iawn siarad Sbaeneg yma yn California. Dw i'n gallu ei siarad tipyn bach--mae fy llysdad yn dod o Costa Rica yn wreiddiol--ond chymerais i erioed rhan o ddosbarth ffurfiol. Bydd sawl ffrindiau yn gwneud y dosbarth hefyd, felly gobeithio bydd e'n dipyn o hywl. Dosbarth "hybrid" ydy e--mae rhan o'r dosbarth yn cymryd lle ar-lein. Dw i ddim yn siwr sut yn union caiff y rhan ar-lein ei drefnu, ond dw i'n edrych ymlaen ato...

Spring Onion via Blog yr Hogyn o Rachub January 8th, 2008 at 10:44

Be ffwc ‘di ffradach? Oes y ffasiwn air yn bodoli, neu ai rhywbeth a fathais yn fy meddwod Nadoligaidd ydoedd? Wn i ddim, ond mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl ers talwm, a ‘sgen i ddim mynadd chwilio geiriadur Bruce, a dydi Cysill da i ddim i neb mewn difri calon.Wedi cam-glywed oeddwn i, gan gredu bod rhywun yn galw ‘spring onion’ yn ffradach. Y gair y byddaf yn ei ddefnyddio yw sloj; wn i ddim amdanoch chi. Fodd bynnag, fel y merllys a drafodwyd gynt, mae sawl gair Cymraeg am y ‘spring onion’ hefyd. Dywed Bruce mai sibolsyn, siolen, sgaliwn a shibwnsyn ydyw’r geiriau ar ei chyfer, sydd eto yn fwy na sydd i’r Saesneg (er yn ddibwynt felly).Yn wir, cymaint o hoff yr ydwyf o’r gair sloj fel y byddaf yn eu prynu’r llysieuyn ei hun yn ddyfal, dim ond er mwyn cael dweud...

Angen cymorth ar Ysgol yr Hendre via e-clectig December 15th, 2007 at 21:13

Dydy Ysgol yr Hendre ddim fel y rhan fwyaf o ysgolion dwyieithog, am ddau reswm. Yn gyntaf, lleolwyd yr ysgol yn y Wladfa, ac yn ail Sbaeneg ac nid Saesneg ydy ail iaith yr ysgol.Ysgol Feithrin yr Hendre yw'r ysgol feithrin Gymraeg swyddogol gyntaf i agor yn y Wladfa.Roedd angen £30,000 er mwyn sicrhau adeilad a fyddai hefyd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac fe gafodd y rhan fwyaf o'r arian ei gasglu yng Nghymru.Fel rhan o'r ymdrechion i godi arian cafodd ocsiwn ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri."Dim ond addysg trwy gyfrwng y Sbaeneg sydd wedi bod ers blynyddoedd yn y Wladfa," meddai Fabio Lewis sy'n enedigol o'r Wladfa ac oedd yn un o'r rhai fu'n codi arian yng Nghymru."Fe ges i fy magu yn y Wladfa ac fe ges i fy addysg yn gyfan gwbl yn y Sbaeneg ond nawr...

Yr UE, y Gymraeg a’r Llydaweg via e-clectig December 8th, 2007 at 21:25

Mae Euronews yn cymharu sefyllfaoedd y Gymraeg a'r Llydaweg deng mlynedd ar ôl i'r UE greu siartr i amddiffyn ieithoedd...