Mae rhai o'm ffrindiau yn Sbaen yn hoff iawn o'r fersiynau clasuron pop Sbaen a'r byd mae Operacion Mutante yn eu gwneud....
Nadie via e-clectig June 3rd, 2008 at 02:23
Dyma un o fy ffrindiau dawnus o Zaragoza, Martin Navarro, brawd y flogwraig (a bardd) Marta Navarro, gwraig y blogwr Chesus Yuste, ffrind arall, sydd yn ddysgwr Gwyddeleg ac yn aelod Senedd Aragon ar gyfer Chunta Aragonesista, chwaer-blaid Plaid Cymru yn Aragon.Treuliodd rhieni Martin a Marta flynyddoedd maith yn y carchar am fod yn anarchwyr ac am fod yn anffyddwyr yn ystod cyfnod Franco. Mae mam y ddau yn dal yn fyw, a dw'i erioed wedi cwrdd â henwraig mor finiog-ei-meddwl â hi!Mae gwefan Martin, sy'n cuddio dan yr enw 'Nadie' (Neb) yn wych! Dw'i'n...
Ar fore Dydd Mercher cyrhaeddodd 66 o fewnfudwyr anghyfreithlon o Sahara Isel ar Ynys Teneriff yn yr Ynysoedd...
Fersiwn gwreiddiol y gân ar y rhaglen 'Buenafuente'Dechreuodd fel jôc ar y rhaglen ddychanol Buenafuente, hynny yw ethol y "Chiki Chiki" -cân y cerddorwr Radolfo Chikilicuatre ( o chiquilicuatro, enw sy'n golygu "runt" yn Saesneg)- fel cân swyddogol Sbaen ar gyfer yr Eurovision. Ond daeth y jôc yn realiti. Pam? Wel yn amlwg mae'r Sbaenwyr eisiau cymryd y pis allan o gystadleuaeth flinedig sy'n llawn haeddu'r fath driniaeth. Pob lwc...
¿Por qué no te callas?Ddoe dathlodd Juan Carlos I de Borbón ei ben blwydd yn 70 oed. Cafodd ei ddatgan yn Frenin Sbaen ar y 22ain o fis Tachwedd, 1978 yn sgil marwolaeth Francisco Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel Brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar y 6ed o fis Rhagfyr 1978.Ganed fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias, mae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain. Yr Eidal (5 Ionawr 1938) yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol,...
Ymddengys fod cerddoriaeth yr Eidalwr Franco Battiato yn boblogaidd iawn ymhlith merched...
Mae'r llun yma o dywysog Felipe a'i wraig wedi cael ei wahardd yn Sbaen. Yn amlwg nid yw rhyddid barn a mynegiant yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys dychanu teulu brenhinol...
Wrth wylio'r ffilm cult o Sbaen Airbag, ces i fy synnu o glywed Gorky's Zygotic Mynci yn canu Kevin Ayers ar y trac sain. Dw'i wedi gwylio'r ffilm o'r blaen, yn wir, un o fy hoff ffilmiau ydy, ond 'nes i ddim sylwi ar y Gymraeg yn y cefndir tro...
Diolch i sylwad gan Ceri Wyn ar fy mlog Sbaeneg, mae gen i gopi o fy hoff gomedi Sbaeneg, sef Airbag, wedi ei islwytho oddi ar y wefan Sin La Mula.Viridiana sydd...

Fideo o bobl amrywiol yn siarad yr AragonegPan ddysgais siarad Sbaeneg tra yn byw yn Aragón, dysgais hefyd i siarad tafodiaith y fro, canlyniad naturiol o sgwrsio gyda fy nghymdogion. Ond y peth nad oeddwn i'n sylweddoli ar y pryd oedd fy mod yn dysgu charrar, sef "sgwrsio" yn yr Aragoneg. Mae'r fideo uchod yn gasgliad o sgyrsiau yn yr Aragoneg gan drigolion y Pyreneau, ac yn enghraifft gwych o'r math o iaith a ddysgais yno. Dim cweit yr "Aragoneg Safonol" sydd yma -iaith artiffisial a gafodd ei chreu yn ail hanner yr ugeinfed ganrif trwy gymysgu tafodieithoedd gwahanol yr Aragoneg- ond esiampl da o'r math o iaith sy'n cael ei siarad gan fwyafrif siaradwyr cynhenid yr Aragoneg. Mae tua 12,000 o bobl yn siarad yr Aragoneg, sydd wedi goroesi yn y Pyreneau yng Ngogledd Aragón.Lleoliad...
Mae Vaya Semanita yn rhaglen ddychanol o Wlad y Basg. Dyma olygfa lle mae dyn sy'n ceisio ymosod ar fanc yn cwyno am nad yw'r staff yno yn siarad y Fasgeg.Fan hyn mae ymgais y dyn i ymosod ar fanc yn y Fasgeg yn troi'n ddadl ynglŷn â gramadeg yr...