Ffilm “Welcome to the Sticks” a’r dafodiaith chtimi via Rwdls Nwdls
Shetlandeg via Rwdls Nwdls
Cofnod ddifyr iawn gan Omniglot ar yr iaith/dafodiaith Shaetlan, neu Shetlandeg, ac os yw’n cael ei alw’n iaith neu dafodiath gan drigolion yr ynys. Wyddwn i ddim llawer amdan y sefyllfa ieithyddol yno, ond roeddwn yn siwr y buasai rhyw fath ar amrywiaeth ieithyddol ddiddorol gan ynys mor ddiarffordd a dwi’n siwr i mi weld rhaglen rhyw dro yn dangos yr orsaf radio lleol yno oedd â rhaglenni yn yr iaith/dafodiaith leol.
Wrth gwrs, doedd o ddim cweit mor dda a darllediadau Highland Angus ar yr Outer Hebrides Broadcasting Corporation, y sgets wych ‘na oddi ar y sioe gomedi 80au Naked Video oedd yn send-up o orsafoedd darlledu lleol.
Dwi’n cael y teimlad weithia taw dyna sut ma pobol yn gweld Radio Ceredigion, ond dwi’n credu ei fod yn...... Huffordiant Iaeth Duedreath Cyff via Rwdls Nwdls
Roedd yr hysbyseb isod gan gwmni Deudraeth Cyf yn y Cambrian News wsnos yma’n hysbysebu eu cynllun hyfforddiant TG.
Biti bod nhw ddim yn cynnig hyfforddiant Cymraeg i’w staff yn lle…...
Gwyddeleg: 1.66 miliwn o siaradwyr? via Rwdls Nwdls
llun gan bernatff
Mae Gaelport yn adrodd heddiw fod cyfrifiad Iwerddon 2006 yn nodi fod yno 1.6 miliwn o bobol yn Iwerddon dros 3 oed yn siarad yr iaith. Mae hyn fyny o 1.57 miliwn yn 2002.
Diddorol hefyd yw fod bron i 7% yn fwy o ferchaid yn siarad Gwyddeleg nac o ddynion. Mae hyn hefyd yn digwydd gyda’r Gymraeg, ond efallai ddim i’r fath raddau, o be dwi’n cofio o’r gynhadledd ddiweddar gan BYI.
Ond yn ddadlennol, a dwi ddim isio pisio ar jips y Gwyddelod, mae tabl 30 yn dangos datganiadau pobol o’u defnydd o’r Wyddeleg.
Allan o 1,656,790 o bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Gwyddeleg, dim ond 53,471 ohonynt (ac sydd y tu allan i’r system addysg) sydd yn siarad yr iaith yn ddyddiol. Mae hyn yn codi i 97,089 ar gyfer pobol... Dysgwch Fanaweg (Ynsee Gaelg) via Rwdls Nwdls
Trwy wefan wych Learn Manx.
Rhagor
[via, gwd...... Cernyweg - Symud Ymlaen via Rwdls Nwdls
Mae’r iaith Gernyweg, neu eu siaradwyr ddyliwn i ddweud wedi’i chael hi’n annodd o’u cymharu â ni siaradwyr Cymraeg. Mae’n nhw wedi bod at y dibyn, fel mynd at ochr y Discworld a syllu lawr i’r gofod (a phen Great A’Tuin…).
Oherwydd yr hanes cythryblus hyn maent wedi datblygu 4 orgraff wahanol ar gyfer yr iaith ar adegau gwahanol gan beri cryn ddryswch, trafodaeth ac hyd yn oed atgasedd rhwng arddelwyr y gwahanol rai. Ond mae hyn wedi cael sgil effeithiau andwyol ar yr ymgais i atgyfnerthu’r iaith - heb un orgraff sefydlog, mae pethau syml fel datblygu gwasg yn yr iaith ac hyd yn oed yn waeth - adnoddau dysgu’r iaith i blant ac oedolion! Hyd heddiw mae datblygiad yr iaith wedi cael ei effeithio’n andwyol gan hyn.
Ond... Cynhadledd Ymchwil Bwrdd yr Iaith Gymraeg via Rwdls Nwdls
Fe fues i yng nghynhadledd ymchwil Bwrdd Yr Iaith Gymraeg wythnos diwethaf. Mae BYI newydd gyhoeddi rhai o’r papurau, adroddiadau a chyflwyniadau ar eu gwefan. Dyma nhw:
Ymgynghoriad: Cynllun Ymchwil Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Detholiad o ystadegau’r Gymraeg (Cyflwyniad PowerPoint a roddwyd yng nghynhadledd y Bwrdd)
Trosglwyddo Iaith Mewn Teuluoedd Dwyieithog yng Nghymru (Adroddiad Llawn)
Trosglwyddo Iaith Mewn Teuluoedd Dwyieithog (Cyflwyniad PowerPoint a roddwyd yng nghynhadledd y Bwrdd)
Grwpiau Ffocws i Ystyried y Defnydd o’r Gymraeg yn y Sector Preifat (Adroddiad Llawn)
Grwpiau ffocws i ystyried y defnydd o’r Gymraeg yn y Sector Preifat. (Cyflwyniad PowerPoint a roddwyd yng nghynhadledd y Bwrdd)
Rhwydweithiau Cymdeithasol a Defnydd Iaith Pobl Ifanc...
Pigion Language Log via Rwdls Nwdls
Have Your Say (ar bwnc dwl) via Rwdls Nwdls
Ydi arwyddion ffyrdd yn drysu pobol ormod?
Y ffacin gneuen yna eto. Jiiaiiisys H Craist.
Ar ôl holi am “Gymraeg neu Saenseg gyntaf mewn gorsafoedd trên” a’r clasur “ydi’r Gymraeg yn cael ei or-hybu?”
Cwestiynau dwl, wedi eu sgiwio’n negatif, sy’n perthyn i ddadl a enillwyd 20 mlynedd nôl ac sy’n rhoi cyfleoedd perffaith, nid am ddadl dda, ond am chydig o waldio’r Gymraeg gan anwybodusion.
Dowch mlaen BBC. Faswn i’n disgwyl dadl chydig yn fwy datblygedig na hynna gan gorfforaeth ddarlledu sy’n honni i fod yr orau yn y byd…neu faswn i?
Ma’i weld yn reit ffasiynol dyddia ma i roi waldiad go dda i’r elite hynny sy’n mynnu siarasd eu iaith farw a’i hwrjo ar bawb arall gan gymryd y...
Darlledu’r Ieithoedd Celtaidd via Rwdls Nwdls
Tra da ni’n dadlau am geisio newid . Mae’r Alban yn dal i orfod dadlau bod gwerth mewn sianel Aeleg, yng ngwyneb ymatebion chwyrn a chas. Mae’r elfen wrth-Aeleg yn yr Alban yn ymylu ar fod yn beryglus, gyda phobl yn galw am gael gwared o’r iaith gyda iaith afiach hiliol yn ymddangos yn rheolaidd.
£18m-a-year Gaelic broadcasting plan under scrutiny [The......
Cylchgrawn Transcript Review via Rwdls Nwdls
Iaith Rhechi via Rwdls Nwdls
Furthermore, farts are an occasion for self-examination, for questioning the extent of our freedom and the nature of self-mastery.
Bravo!...
500fed Fideo Sianel Amgen Cymru! via Rwdls Nwdls
Mae Sianel Amgen Cymru yn dal i fynd o nerth i nerth ar YouTube, a dwi’n siwr y gellir deud rwan taw hwn yw y prif le i wylio fideos Cymraeg ar y we.
Mae ‘na lot o sdwff da wedi cyrraedd yno’n ddiweddar, yn arbennig y fids cerdoriaeth. Un peth sydd ddim yno rhyw lawer yn y Gymraeg o’i gymharu â gweddill DyDiwb ydi blogiau fideo personol. Un theori gen i ydi os ma gynnoch chi ego digon mawr i’w fwydo yna fe wnewch chi drio cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib a fideo blogio yn Saesneg. Neu efallai ein bod ni gyd jest yn rhy shei…
Ond mae Uned5 wedi cychwyn darlledu blogiau fideo personol gan gynnwys yr isod gan Mari Lovgreen sef y 500fed fideo. Efallai ei fod yn addas gan ei fod yn dangos sut mae YouTube rwan yn cael ei ddefnyddio gan bob math o... Björk - Datgan Annibyniaeth (Rhan 3!) via Rwdls Nwdls
Mewn gig yn ddiweddar yn Bilbao mae’n debyg i’r dorf fynd yn reit flin wrth i Björk ddweud gracias, gracias wrthynt drwy’r amsar. Mae’n amlwg iddi synhwyro fod rhwbath o’i le, achos gafodd hi air efo rhywun ar ochr y llwyfan a dweudeskerrik asko ar ddiwedd y gig cyn chwarae Declare Independence.
Dwi’n amau’n fawr a fyddai unrhyw dorf yng Nghymru yn disgwyl i artist o dramor wneud yr un math o beth…da ni’n amal yn rhy dawal o lawar pan ma artistiaid sy’n gallu siarad Cymraeg yn annerch torf Gymreig yn Saesneg yn unig....
Bing, Bong, Be? via Rwdls Nwdls
Trafodaeth, ac estyniad ar y drafodaeth, ar ystyron amrywiol y gair bong.
Efallai fod y gair wedi dod yn wreiddiol am fod pib ‘bong’ (dim dŵr, jest pib) yn wreiddiol yn bib llydan. Llydan fel bong, sydd yn fath arbennig o lydan ar piton, dyfais dringo creigiau a ddyfeisiwyd yn Ffrainc.
Dyw’r linc cynnar yna rhwng reu a dringwyr ddim annodd i’w goelio.
Hybli bybli!...
Pobl Seto o Estonia via Rwdls Nwdls
Dyma chydig luniau difyr a disgrifiadau o ddiwylliant y bobl Seto sy’n byw ar ffin Estonia a Rwsia. Mae’n nhw’n siarad eu hiaith eu hunain sy’n agos iawn at yr iaith Võro (rhagor o wybodaeth amdanynt yn y Gymraeg)....
Geiriadur Cernyweg-Cymraeg-Catalaneg via Rwdls Nwdls
Feddylies i rioed fod ffasiwn beth yn bodoli…ond mae o.
Mae’n edrych fel bod gwefan Cymru Catalunya yn dal i fynd a chael ei diweddaru. Mae na lwythi o bethau difyr yno, os gallwch chi eu ffeindio....
Protest - Thomas Cook - Bangor 15.6.07 via Rwdls Nwdls
Comedi Sbam via Rwdls Nwdls
Fydd hi’n ddim collad o moderatio tunnelli o sbam unwaith y bydda i’n ychwanegu’r filter newydd, ond mae na rai sydd yn gneud i fi chwerthin. Jest oherwydd natur random y geiriau. Dyma rai brawddegau:
Outer bouncer cassock rampaged toadying nestlike.
He needed. Look, his. But we had to avoid having to have been snorting wet cunt back.
Mae eu darllen nhw’n atgoffa fi o un o’n hoff clips oddiar YouTube…
Dwi’n meddwl fod rhywun yn trio cracio gwefan Pictiwrs ar hyn o bryd hefyd…paranoid, moi?...
Y Beibl Anal via Rwdls Nwdls
Hoho! Mae’r Rhys Jones ynddof yn giglo (fel mae Language Hat yntau hefyd) wrth ddarllen fod y Beibl wedi cael ei gyfieithu i’r iaith Anal.
Ystyr newydd i seren Bethlem efallai…...
Dyfarnu Saesneg yn “iaith genedlaethol” UDA via Rwdls Nwdls
Yn ôl blog iaith gwych Language Log (sut bo fi heb edrych ar hwn cyn hyn dwi ddim yn gwybod) pledleisiodd Senedd UDA i gymeradwyo newid i fesur diwygio mewnfudo fydd yn gwneud Saeseng yn “iaith genedlaethol” UDA.
Serch hyn, ymddengys na fydd y mesur ei hun yn mynd i bleidlais, felly ni fydd y newid hwn â chyfle i droi yn ddeddf. Mae’n debyg ei fod yn ymgais i gysuro’r garfan sy’n gweld datblygiad amlieithrwydd yn UDA fel bygythiad.
Ond beth sydd yn ddiddorol, ac yn drist, i mi ydi gweld fod 30 o’r 50 talaith gyda deddf sy’n rhoi Saesneg fel eu hunig iaith swyddogol. Yn arwyddocaol, mae bron yr holl daleithiau lle mae niferoedd uchel o Americanwyr Brodorol* yn parhau i fyw a siarad eu hiaith yn gynwysiedig yn y 30 hwn. Prawf eto os oes ei...
Sboted: Siarc yn y môr yn Aber! via Rwdls Nwdls
[clici, clici i’w chwyddo]
Gyda llaw, dwi di llwyddo i ddileu’r miloedd o sylwadau sbam oedd yma, ac felly mae’r sylwadau nôl yn agored. Blog Nwdls - bac ffrom ddy ded. Er, pwy sy’n ei ddarllen bellach dwn im.
Un linc bach i chi cyn mynd - Matthew Paris yn cwyno am ddwyieithrwydd yng ngorsaf drenau Casnewydd a’i fod wedi methu ei gyswllt am fod gormod o ‘clutter’. Ac ateb perffaith yn ôl gan Huw Waters ar flog Dogfael…
Ateb digon hawdd i hwn dwi’n meddwl: peidio defnyddio’r Saesneg.
Da ‘wan, Huw.... A Propos Chickenshit via Rwdls Nwdls
Language Log: Cachu Iâr
Manylu ieithyddol o’r radd flaenaf. Gweler hefyd chicken chicken chicken chiken chicken....
Yr Her Fawr Gymraeg via Rwdls Nwdls
Mae’r ail gyfres o the Big Welsh Challenge ar fin cychwyn gyda 10 sleb newydd. Rhaglen ddiddanol oedd hon yn wreiddiol gyda phwyslais ar hwyl, ond erbyn y gyfres hon mae’r BBC wedi creu gwefan i gyd-fynd â’r gyfres i helpu pobol ddysgu Cymraeg.
Mae’r wefan newydd yn swish iawn gyda defnydd helaeth o fideos a flash i hwyluso’r dysgu. Cyn belled nad ydach chi’n blino ar Glyn, dwi’n siwr y bydd yn adnodd defnyddiol i ddechreuwyr, ac mae bwriad i ddatblygu modiwlau pellach i’r wefan mewn amser hefyd.
Gallwch wylio’r rhaglen gyntaf draw fama....
Dros 3,000 yn gorymdeithio dros y Wyddeleg via Rwdls Nwdls
Mae Eurolang yn adrodd fod dros 3,000 o bobol wedi mynychu’r orymdaith dros yr iaith Wyddeleg ym Melffast ddydd Sadwrn. A llawer o’r rheiny’n bobol ifanc.
Hynod o braf gweld hyn y math hwn o gefnogaeth ym Melffast, Rennes, Ocsitania, Gwlad y Basg a Chatalwnia…sy’n gneud i rywun feddwl, lle mae’r mudiadau iaith Cymraeg wedi mynd o’u lle?...
Puntogal - dotGal i Galisia via Rwdls Nwdls
Mae Puntogal yn ceisio cael parth .gal ar gyfer yr iaith Alisieg. Gallwch arwyddo’r ddeiseb......
Dau ddyfyniad da via Rwdls Nwdls
“Between the strong and the weak, freedom oppresses and law liberates.”
Jean-Baptiste-Henri Dominique Lacordaire
A language is a dialect with an army and a navy
Max Weinreich...
Barddoniaeth y Byd via Rwdls Nwdls
Ar wefan lyrikline gallwch ddarllen (gyda chyfieithiadau) a gwrando ar farddoniaeth mewn 40 o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg.
Syniad neis. Gwefan hawdd i’w llywio hefyd....
Protest Deddf Iaith: Aberystwyth - Ble mae’r Gymraeg? via Rwdls Nwdls
Ardderchog. Mi o’n i wedi bwriadu llythyru atynt pan gawswn gyfle, ond ymddengys fod eraill wedi adweithio ynghynt.
Bydd Protest yn arwain at Barc Manwerthu newydd Aberystwyth sydd a’u holl arwyddion (allanol o leia) yn uniaith Saesneg yn cychwyn tu allan i Siop y Pethe am 12.30pm ary 14eg Hydref. Welai chi yno?...