Welsh Blogs.com


Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (8) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 11:05

image Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd gul i lawr yno trwy bentref bach Silstwn. Ni chawsom ein siomi, er ein bod yn mwynhau’r olygfa yng nghysgod hen bwerdy Aberddawan. Wrth inni grwydro yno roedd y cymylau’n tywyllu a’r glaw yn dechrau pigo. Ond cyn troi yn ôl am Gaerdydd dyma fynd ymlaen i brif ddinas y Fro, sef y Bont-faen i weld y gofeb sydd yno i Iolo Morganwg. Petai’r tywydd wedi bod yn sych byddwn i’n bendant wedi mynnu fod y cyfeillion yn dod heibio i Egwys y Grog...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3) via Blog Dogfael August 6th, 2008 at 08:03

image Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin. Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (1) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:20

image Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu bod nhw’n “Gymry go iawn”. Ond dwi’n ofni taw ar y radio y gwnes i wrando arno’n pregethu, yn gywir fel yr ydw i ers blynyddoedd, yn y car ar y ffordd i grwydro ychydig ar fro’r eisteddfod. Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi mynd ychydig tu hwnt i’r fro honno heddiw wrth inni droi ein golygon tuag at Fro Morgannwg a rhai o’r llefydd oedd yn gysylltiedig gydag Iolo Morganwg ei hun. DML oedd wedi sôn i ddechrau am ei ddymuniad i ymweld â Threfflemin,...

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (2) via Blog Dogfael August 5th, 2008 at 18:29

image Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld peth o waith llaw Iolo ei hun a oedd wrth ei alwedigaeth yn saer maen. Pentref bychan tawel yw Llan-fair sy’n dwyn enw yr eglwys gyda’i thŵr trawiadol yn ei ganol. Prin nad oedd neb yn symud yno wrth inni groesi’r parc ger yr eglwys. Roedd y drws yng nghlo, ond wrth inni grwydro o gwmpas y fynwent dyma wraig yn sylwi arnom ni ac yn gofyn a oeddwn i am weld y tu fewn. Atebodd y pedwar ohonom fel côr llefaru ein bod am wneud. Ac felly fe aeth hi yn ôl i’r tŷ i...