Welsh Blogs.com


Hunger via Blog Dogfael November 1st, 2008 at 20:31

image Newydd ddarllen cofnod blog hynod ddiddorol gan blogMenai ar David Davies, Hunger a Rod Richards. Fe glywais i y stori fore ddoe ar newyddion BBC Radio Cymru fod David Davies AS yn beirniadu’r ffaith fod ffilm Steve McQueen am streic newyn Bobby Sands, Hunger, wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Fe wnes i synnu at y ffaith fod y BBC yn rhoi sylw i sylwadau cwbl ffuantus ac amlwg ceisio-sylw David Davies yn y lle cyntaf. Wedi darllen beth sydd gan blogMenai i’w ddweud dwi’n teimlo’n fwy crac byth am hynny. Dwi ddim am gicio’r BBC tra eu bod nhw ar lawr ond dwi’n credu y dylai sylwadau gan David Davies gan eu trin gydag ychydig o ofal ac ysbryd mwy beirniadol nag y maen nhw. Mae’r sylw mae e wedi’i gael i’w fudiad dau-ddyn...

Rhwng An Daingean ac Hawai’i via Morfablog July 10th, 2008 at 16:15

Wythnos diwetha, ar ein gwyliau yn An Daingean, cwrddon ni â Clyde Sakamoto a’i wraig Gerrianne yn nhafarn An Droichead Beag, a chawson ni sgwrs diddorol iawn am ieithoedd Cymru, Iwerddon ac Hawai’i, ymysg pethau eraill. (Fel cwrw - diolch i Clyde, ffeindiais i dafarn arall ar bwys y dre sy’n wneud eu cwrw eu [...]...

Cytundeb Lisboa via Blog Dogfael May 31st, 2008 at 23:01

image Wn i ddim faint o ddiddordeb sydd gan ddarllenwyr Blog Dogfael yng Nghytundeb Lisboa, ond mae trigolion unig wladwriaeth Ewrop – Iwerddon – sy’n cynnal refferendwm ar y cytundeb yn trafod y mater yn frwd. Er mwyn helpu’r dinasyddion i drafod yn fwy gwybodus mae’r darlledwr cyhoeddus RTE yn cynnig fersiwn llafar o Gytundeb Lisboa ar ffurf ffeil MP3 y gellir ei lawrlwytho. Beth am gael tro arni a thrafod y cytundeb ar ôl ei ‘ddarllen’? Bydd hyn yn siŵr o ennyn edmygedd dy gyfeillion a’th gydnabod. Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan...

Bloody Sunday a Phechod Cyfundrefnol Prydeindod via Blog Rhys Llwyd April 9th, 2008 at 01:47

image Echnos bues i yn gwylio'r ffilm Bloody Sunday (2002) sydd â James Nesbitt yn actio'r Cenedlaetholwr Gwyddelig Protestannaidd (ie, diddorol iawn) Ivan Cooper. Ivan wrth gwrs oedd yn trefnu ac arwain yr orymdaith heddychlon ddi-drais a drodd erbyn diwedd y dydd yn un o'r erchyllterau mwyaf o law gwladwriaeth so-called “gwaraidd” o fewn cof. Roedd y ffilm yn wirioneddol wych ac maen rhaid i mi gydnabod na chyffyrddodd yr un ffilm a mi cymaint ag y gwnaeth hon, roeddwn ni yn fy nagrau. Yr hyn oedd yn taro dyn fwy na dim oedd ffolineb a dallineb llwyr yr awdurdodau Prydeinig ar y diwrnod. Yr hyn oedd yn frawychus oedd mae dim ond cenhedlaeth yn ôl digwyddodd hyn, roedd y barbariaeth yr oedd y milwyr yn ei ddangos fel rhywbeth cyntefig allan o'r croesgadau – maen frawychus i feddwl y...

Beth nesaf? Pwy a ŵyr? via Blog Dogfael March 4th, 2008 at 20:02

image Newydd ddarllen ar wefan newyddion BBC fod y Parchg Ddr Ian Paisley i roi’r gorau i’w swydd fel prif weinidog gogledd Iwerddon fis Mai. Roedd hynny’n ddigon o sioc ynddo’i hun gan fy mod i yn un o blant y 1960au roedd Ian Paisley yn debyg i Wal Berlin - rhywbeth na fyddai byth yn dymchwel. Dwi’n ei gofio o hyd ar raglenni newyddion ddechrau’r 1970au yn uchel ei gloch. Ond wedyn fe aeth y sioc yn fwy pan ddarllenais i’r deyrnged hon i’r Dr Paisley gan un o wleidyddion mwyaf amlwg Iwerddon, The historic decision he took to go into government with Sinn Fein has changed the face of Irish politics forever. I think that he will be fondly remembered by the people of Ireland - north and south - for the very courageous leadership that he showed. Pwy...

BalconyTV via e-clectig October 17th, 2007 at 01:00

Mae BalconyTV yn weddarllediad beunyddiol o gerddoriaeth fyw sy'n darlledu o falcon llety Pauline Freeman, Tom Millett and Stephen O' Regan yng nghanol Dulyn. Cafodd ei lansio ar y 7fed o fis Mehefin 2006, ac ers hynny mae hi wedi ffilmio bandiau, dawnswyr, gwrthdystwyr, digrifwyr, pypedau, efelychwyr ac artistiaid eraill o bob math dan haul.Mae BalconyTV wedi cael rhai o fandiau newydd mwyaf dawnus Iwerddon i ymddangos ar y rhaglen, yn eu plith Leanne Harte, The Revolts, Ham Sandwich, Adela Meally, The Flaws, The Happy Gang ac Alan Alda.Yn ogystal â hynny, mae BalconyTV hefyd wedi cael artistiaid mwy sefydlog fel gwesteion, gan gynnwys Paul Brady, Eleanor McEvoy, Charlie McGettigan, Shay Healy, RoySeven, The Future Kings of Spain, Luan Parle a Declan O' Rourke.Mae BalconyTV wedi derbyn...

Rhywbeth ar gyfer y Sul via e-clectig October 14th, 2007 at 06:43

Fy ffrind gorau yn Iwerddon, Colin Scallan, yn canu ar balcony tv yn...

Dwyieithrwydd ar “Word of Mouth” heno via Morfablog September 10th, 2007 at 11:38

Bydd y rhaglen Radio 4 Word of Mouth heno yn edrych ar ystyr “cymdeithas ddwyiaithog” gan edrych ar y sefyllfa yng Nghymru, Iwerddon a Chanada. 11.00 yr hwyr, ail-ddarlledu fory am 4.00, ar gael o’r we wedi hynny, siwr o fod. Diolch......

Byd Bach via e-clectig September 3rd, 2007 at 10:45

Ces i syndod wrth ddarllen blog Annie yn ddiweddar.Roedd hi'n siarad am ei nai Otto yng Ngalway, mab i'w frawd Fergus (yn y llun). Wel, fel mae'n digwydd, roedd Fergus yn ffrind imi pan o'n i yn byw yn Iwerddon, ac roeddwn i yn byw yno yng Ngalway pan gafodd Otto ei eni. Daeth Fergus i dafarn Munroes yn y bore ar ôl i'w fab gael ei eni a bu inni (hynny yw, Fergus, fi a sawl ffrind arall) ddathlu'r achlysur yn y ffordd draddodiadol: sigar a diod.Doniol hefyd ydy gweld lluniau Fergus ar gyfrif Flickr Annie. Pryd hynny roedd o'n fath o 'Seicobili' gyda dillad du tyn a gwallt byr blond parocseid. Rwan mae'n hipi gwalltog.Byd...

Pleidlais sengl drosglwyddadwy via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 00:18

image Mae heddiw wedi bod yn etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Etholiadau’r weriniaeth yw un o uchafbwyntiau yr anorac sustemau pleidleisio, oherwydd maen nhw’n defnyddio y peth agosaf at sustem berffaith o gyfranoldeb, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy (single transferrable vote, neu STC) a hynny mewn etholaethau aml-aelod. Cyhoeddodd yr Electoral Reform Society (ERS) lyfryn yn 1973 gan Frank S Britton, How to conduct an election by the single transferrable vote. Mae’n wych o beth fod y ERS wedi gosod copi o’r llyfryn ar eu gwefan ac mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Felly os ydych chi am gynnal etholiad yn dilyn egwyddor y bleidlais sengl drosglwyddadwy yr unig beth sydd yn rhaid ichi ei wneud yw darllen y llyfryn hwn. Oherwydd yr...

Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 12:16

Mae’r sibrydion cyntaf wedi dechrau dianc o’r neuaddau cyfrif ac fe fydd Blog Dogfael yn cynnig newyddion RTÉ a’r Irish Independent fel gwasanaeth ar y golofn dde hyd nes bydd yr holl ganlyniadau wedi’u cyhoeddi. I’r sawl sydd â diddordeb mae’n bosib gwylio rhaglen etholiadol RTÉ yn fyw ar eu gwefan a hefyd ffrwd fyw o wahanol ganolfannau cyfrif ar draws y wladwriaeth. Rhanna hwn...

Etholiadau Iwerddon unwaith eto via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 23:16

image Dwi’n credu fod ‘na rhywbeth sy’n sylfaenol waraidd am ddull Iwerddon o bleidleisio, ond mae hynny’n wir am eu dull o gyfri’r pleidleisiau hefyd. Nid rhywbeth sy’n digwydd liw nos fel gweithred gywilyddus o ffiaidd i’w cuddio rhag llygaid pobol boleit yw cyfri’r pleidleisiau yno, ond dathliad o ddemocratiaeth, cymuned a chenedligrwydd. Caiff democratiaeth ei dathlu wrth i deledu a radio ddarlledu’r canlyniadau’n gyson trwy’r dydd a’r nos; caiff cymuned ei dathlu wrth i sylwebyddion ac ymgeiswyr fel ei gilydd ddangos cystal y maent yn adnabod ei gilydd a’u hetholaethau, pwy sy’n dod o ble ac felly mewn sefyllfa i godi pleidleisiau plaid arall oherwydd y cysylltiad daearyddol. Ond yn fwy ‘na dim...

Gorffen cyfri yn etholiadau Iwerddon via Blog Dogfael May 27th, 2007 at 15:26

Daeth y cyfri i ben yn hwyr neithiwr yn etholiadau Iwerddon. Ar ddiwedd y broses roedd hi’n amlwg fod prif blaid y llywodraeth, Fianna Fáil, wedi gwneud yn dda iawn, ac wedi ennill i’r graddau y mae’n bosib ichi ennill mewn sustem gyfrannol (er eu bod wedi colli seddau). Fe wnaeth y brif wrthblaid, Fine Gael, adfer ei sefyllfa o’r trychineb a brofwyd yn yr etholiad diwethaf. Cadwodd Llafur eu seddau hefyd, ond heb wneud dim cynnydd. Yr rhai wnaeth ddioddef oedd y pleidiau llai – yn eu plith plaid fechan y Progressive Democrats, aelodau o’r glymblaid lywodraethol a gollodd 6 o’i 8 aelod. Cadwodd y Blaid Werdd at 6 aelod, ond fe gollodd Sinn Féin aelodau i’w gadael ar 4 aelod, a hynny ar ôl disgwyl gwell perfformiad o gofio’u llwyddiant...

Dad-Drefedigaethu’r Meddwl via Blog Rhys Llwyd June 8th, 2007 at 12:33

image Dwi wedi cael tridiau o ddad-drefedigaethu'r meddwl – antidôt cwbl anghenrhaid ag ystyried y seremonïau cyfoglyd a ddigwyddodd yng Nghymru wythnos yma. Nos Fawrth roedd Ngũgĩ wa Thiong'o yn siarad yn adran y Gymraeg Bangor, maen awdur,bardd a beirniad llenyddol ôl-drefedigaethol. Menna oedd a'r diddordeb (theori ôl-drefedigaethol yw ei 'thing' hi) ond fe es i am dro hefyd i wrando ac roeddwn ni'n falch iawn mod i wedi mynd i wrando.Ganwyd a magwyd Ngũgĩ yn Kenya ac fe'i fedyddwyd a'r enw 'James Ngũgĩ'. Graddodiodd a BA Saesneg yn Uganda ac yna fe aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds, Lloegr, lle cyhoeddodd ei nofelau Saesneg cyntaf. Fodd bynnag syrthiodd mewn i argyfwng hunaniaeth ac fe sylwodd o'r newydd ei fod wedi bod yn wrthrych ac offeryn is-raddol mewn trefn...

Gorffen cyfri yn etholiadau Iwerddon via Blog Dogfael May 27th, 2007 at 15:26

Daeth y cyfri i ben yn hwyr neithiwr yn etholiadau Iwerddon. Ar ddiwedd y broses roedd hi’n amlwg fod prif blaid y llywodraeth, Fianna Fáil, wedi gwneud yn dda iawn, ac wedi ennill i’r graddau y mae’n bosib ichi ennill mewn sustem gyfrannol (er eu bod wedi colli seddau). Fe wnaeth y brif wrthblaid, Fine Gael, adfer ei sefyllfa o’r trychineb a brofwyd yn yr etholiad diwethaf. Cadwodd Llafur eu seddau hefyd, ond heb wneud dim cynnydd. Yr rhai wnaeth ddioddef oedd y pleidiau llai – yn eu plith plaid fechan y Progressive Democrats, aelodau o’r glymblaid lywodraethol a gollodd 6 o’i 8 aelod. Cadwodd y Blaid Werdd at 6 aelod, ond fe gollodd Sinn Féin aelodau i’w gadael ar 4 aelod, a hynny ar ôl disgwyl gwell perfformiad o gofio’u llwyddiant...

Etholiadau Iwerddon unwaith eto via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 23:16

image Dwi’n credu fod ‘na rhywbeth sy’n sylfaenol waraidd am ddull Iwerddon o bleidleisio, ond mae hynny’n wir am eu dull o gyfri’r pleidleisiau hefyd. Nid rhywbeth sy’n digwydd liw nos fel gweithred gywilyddus o ffiaidd i’w cuddio rhag llygaid pobol boleit yw cyfri’r pleidleisiau yno, ond dathliad o ddemocratiaeth, cymuned a chenedligrwydd. Caiff democratiaeth ei dathlu wrth i deledu a radio ddarlledu’r canlyniadau’n gyson trwy’r dydd a’r nos; caiff cymuned ei dathlu wrth i sylwebyddion ac ymgeiswyr fel ei gilydd ddangos cystal y maent yn adnabod ei gilydd a’u hetholaethau, pwy sy’n dod o ble ac felly mewn sefyllfa i godi pleidleisiau plaid arall oherwydd y cysylltiad daearyddol. Ond yn fwy ‘na dim...

Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 12:16

Mae’r sibrydion cyntaf wedi dechrau dianc o’r neuaddau cyfrif ac fe fydd Blog Dogfael yn cynnig newyddion RTÉ a’r Irish Independent fel gwasanaeth ar y golofn dde hyd nes bydd yr holl ganlyniadau wedi’u cyhoeddi. I’r sawl sydd â diddordeb mae’n bosib gwylio rhaglen etholiadol RTÉ yn fyw ar eu gwefan a hefyd ffrwd fyw o wahanol ganolfannau cyfrif ar draws y......

Pleidlais sengl drosglwyddadwy via Blog Dogfael May 25th, 2007 at 00:18

image Mae heddiw wedi bod yn etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Etholiadau’r weriniaeth yw un o uchafbwyntiau yr anorac sustemau pleidleisio, oherwydd maen nhw’n defnyddio y peth agosaf at sustem berffaith o gyfranoldeb, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy (single transferrable vote, neu STC) a hynny mewn etholaethau aml-aelod. Cyhoeddodd yr Electoral Reform Society (ERS) lyfryn yn 1973 gan Frank S Britton, How to conduct an election by the single transferrable vote. Mae’n wych o beth fod y ERS wedi gosod copi o’r llyfryn ar eu gwefan ac mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Felly os ydych chi am gynnal etholiad yn dilyn egwyddor y bleidlais sengl drosglwyddadwy yr unig beth sydd yn rhaid ichi ei wneud yw darllen y llyfryn hwn. Oherwydd yr...

Popeth yn Wyddeleg? via Morfablog January 5th, 2007 at 10:45

Cá Bhfuil Na Gaeilg eoirí? - cyflwyniad yn y Guardian i gyfres teledu bydd yn dechrau ar TG4 nos Sul. Swnio bach yn gyfarwydd? Mae’n debyg y cafodd Ifor ap Glyn llai o ymatebion gwael na gâth y Gwyddel Manchán Magan pan wnaeth e gopio arbrofiad Ifor gan deithio o gwmpas ei wlad gan siarad dim [...]...

Amazon i Iwerddon via Morfablog March 4th, 2006 at 00:07

BBC: Amazon i symud i Iwerddon o Loegr i gymryd mantais o sgiliau ieithyddol gwell y Gwyddelod. The centre will move from Slough to Cork, creating up to 450 jobs there. "Cork offers the ability to provide our customers with multilingual support," said Jim Adkins, director of European customer services for Amazon.com....

Bobby Sands via Morfablog March 4th, 2006 at 00:08

Eleni, bydd hi'n 25 mlynedd ers i Bobby Sands farw. Zmag: Bobby Sands, ymprydio a dysgu Gwyddeleg. Erthygl ddiddorol, ond efallai yn gorddweud tipyn bach yma: He learned the importance of education and, particularly, of learning the Irish language. By using Irish to discuss strategy with his fellow prisoners under the...