Welsh Blogs.com


J.E. Daniel a’r diffyg sylw iddo yn llyfr Richard Wyn Jones via Blog Rhys Llwyd December 3rd, 2007 at 09:09

Un beirniadaeth sydd gennyf o lyfr newydd Richard Wyn Jones ydy'r diffyg sylw i J.E. Daniel, sylwer fod fy meirniadaeth yn un reit bitw ac fy mod i ar y cyfan wedi fy mopio a'r gyfrol. Gan mod i wedi gwneud traethawd yn ddiweddar ar syniadaeth Daniel a bod Richard Wyn Jones ddim yn cyflwyno rhyw lawer am y gŵr dyma rannau rhai sylwadau amdano.Ymunodd Daniel â'r Blaid Genedlaethol yn 1928 a daeth i chwarae rhan flaenllaw yn ei gweithgareddau o'r dechrau un - erbyn 1930 ef oedd is-Lywydd y Blaid. Er mai diwinydd oedd Daniel o ran ei waith beunyddiol nid oedd i'w genedlaetholdeb, ar y dechrau beth bynnag, rin arbennig Gristnogol fel y noda D. Densil Morgan:"Os oedd ei ddwy weledigaeth, y diwinyddol a'r wleidyddol, weithiau'n gorgyffwrdd, roeddynt yn amlach na heb yn rhedeg ar wahân. Yn...

Tawelwch ar y blog a mwy o bosters via Blog Rhys Llwyd October 15th, 2007 at 23:47

image Dy chi'n gwybod fod e wedi dod i rhywbeth pan fo'ch teulu yn dibynnu ar eich blog i wybod eich bod chi'n iawn. Fe ges i neges destun gan Mam wythnos diwethaf yn dweud rhywbeth fel hyn: "Rhys, wyt ti'n iawn? Mae'r blog wedi bod yn daweld ers sbel." Wel, gan mod i yn trio troi papur yn cymharu safbwyntiau JE Daniel a Miall Edwards rownd mewn wythnos fydd yna ddim trafod unrhywbeth dwys nac o werth ar y blog wythnos yma chwaith ond fe dria i sôn am rywbeth o werth wythnos nesa - crynhoad o'r papur o bosib i rheini ohonoch chi (y rhai prin) fydd a diddordeb.Yn y cyfamser dau ddarn arall o fy mhortffolio dylunio dwi wedi gweithio arnyn nhw dros yr wythnos...