
Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn i’n gwybod fod y rhaglen ar y gweill ers tipyn gan fod yr actores oedd yn portreadau Jennie Eirian yn y rhaglen, Rhian Morgan, wedi dweud wrtha i ei bod hi’n mynd i wneud y gwaith pan ddaeth hi i fyny i Aberystwyth i fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol i wneud darllen cefndir amdani. Ni chefais fy siomi gan berfformiad Rhian Morgan; er nad oedd yn ceisio ei dynwared yn union dwi’n credu ei bod wedi llwyddo i gyfleu y person oedd Jennie Eirian Davies. Fe...