
Un o'r pethau dwi'n gweld yn arbennig o ddifyr adeg brwydrau arlywyddol yr UDA yw rôl ffydd, yn arbennig y dadlau rhwng efengylwyr adain dde fel Jerry Falwell (rip) ac efengylwyr adain chwith (neu trydedd ffordd i fod yn fanwl gywir) fel Jim Wallis. Diddorol oedd clywed sylwadau hen weinidog Barack Obama heddiw, Y Parch. Jeremiah Wright, pan ddywedodd ar goedd ei fod yn gwbl o ddifri pan ddywedodd dro yn ôl mae yr UDA ei hun a berodd i 9/11 ddigwydd oherwydd fod pawb a phob cenedl yn medi eu had eu hunain yn y diwedd. Dywedodd:"America's chickens came home to roost. You cannot do terrorism on other people and expect it never to come back on you. Those are Biblical principles, not Jeremiah Wright bombastic divisive principles."Gan fod y Parch. Wright wedi ategu'r hyn a ddywedodd yn...