Gwarth! via Wierdo
Dwi di bod yn aros am jec wthos yma (cheque dwin feddwl), gin gwaith am y shifts neshi ym mis Rhagfyr (mi wn, slo fel...crwban). Oni am ebostio'r "bos" a dweud wrthi fodo heb gyradd, ond mi gesi wbod heddiw fod y chec di cyradd Marco's (takeaway 2 dy i ffwrdd ohona ni) a fod nw di trio casho'r chec!!! Sut yn y byd ma hyn di llwyddo i ddigwydd, dwn i ddim!Yn un peth, ma merch y bos yn myw yn yr un ty a mi felly mi oedd y cyfeiriad yn mynd i fod yn gywir doedd.Yn beth arall, ma "Mari Davies" yn reit wahanol i "Marco". Ma'n eitha cangymeriad i'r postman neud yn y lle cynta, ond nw yn trio casho'r chec! Ma huna'n warth. Ma Marco's wedi mynd lawr yn fy ngolwg i. Manw dal i neud pizza's anhygoel, allaim gwadu hynny, ond ceisio dwyn fy arian prin i?! Grrr.Ma hi'n ddydd gwyl dewi fory. Mana...