
Heddiw fe fues i yn ngwasanaeth coffa, neu offeren requiem, y Tad John FitzGerald. Fe wnes i ysgrifennu pwt am John pan bu farw ‘nôl ddiwedd mis Tachwedd 2007. Cynhaliwyd ei angladd yr ochr draw i Lundain, yn Aylesford, swydd Caint. Dyna gartref Urdd y Carmeliaid ym Mhrydain ac yn draddodiadol dyna lle y caiff holl aelodau’r urdd eu claddu. Ond yr oedd John hefyd yn bendant perthyn i Gymru ar ôl yr holl flynyddoedd y treuliodd yn gweinidogaethu yma. Yr oedd hefyd yn perthyn i’r Gymru Gymraeg yn benodol fel rhan allweddol o genhadaeth yr Eglwys Babyddol i siaradwyr Cymraeg yn ail hanner yr C20.
Roedd Eglwys Gatholig Rufeinig Mair Arglwyddes yr Angylion a Gwenfrewi yn llawn ar gyfer yr offeren. Fel y disgwyl roedd llawer iawn o babyddion Cymraeg amlycaf Cymru yno yn y...
Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain mlynedd, wedi symud i Lanelli yn ôl penderfyniad ei urdd. Roedd llawer o’r rhai oedd yn adnabod John wedi credu i hynny fod yn anodd ac roedd Daniel Huws yn cadarnhau hynny.
Pan orfodwyd ‘y Tad Fitz’ i adael Aberystwyth, roedd pobol leol yn protestio ond, yn ôl Daniel Huws, roedd y ffordd yr ymatebodd yr offeiriad yn nodweddiadol ohono.
“Roedd John yn ddig,” meddai, “ond wnaeth o ddweud, ‘mi gymerais fy llw i fod yn aelod o’r Urdd ac mae bod yn ufudd yn rhan o’r...

Ddydd Iau fe glywais fod John Fitzgerald, neu Y Tad John Fitzgerald O.Carm, wedi marw ac fe gadarnhawyd hynny ddoe. Bu farw’n weddol sydyn, ac fe ddaeth yn dipyn o sioc i glywed y newyddion. Ond mae’r tristwch wedi’i gymysgu gyda llawenydd gan fy mod yn gwybod am ffydd gadarn John a’i dystiolaeth bendant a chyson fod angau wedi’i orchfygu gan fuddugoliaeth Iesu. Mae’n ‘na atgofion melys hefyd am ŵr a oedd yn gwbl echreiddig a chwbl normal ar yr un pryd. Des i adnabod John wedi dod i fyw yn Aberystwyth ac yn arbennig felly oherwydd ein diddordeb cyffredin mewn Basgeg. Cefais bron i bymtheng mlynedd o’i gymdeithas ac i ni oedd yn byw yn Aberystwyth fe welwyd ei golli pan symudodd i Lanelli rhyw bedair blynedd yn ôl, ond nawr mae’r...