
Dim ond wrth imi ffonio Sky TV neithiwr y sylweddolais i nad ydw i wedi dweud dim am gynhadledd Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. Rydyn ni ym Mhlas-yn-Dogfael yn derbyn ein teledu digidol trwy Freestat from Sky ond am ryw reswm roedd rhywbeth wedi mynd o’i le ar ein cerdyn gwylio. Y rheswm imi gael fy atgoffa o gynhadledd Plaid Cymru oedd am fod y wraig a atebodd y ffôn yn Freestat from Sky wedi dweud ei bod hi’n eistedd mewn swyddfa yn Dunfirmline. Wrth geisio gwneud sgwrs tra’r oedd hi’n gwirio rhyw fanylion amdanaf ar gyfrifiadur reit araf dyma ofyn pa mor agos yr oedd i etholaeth yr isetholiad. Roedd hi’n gwybod yn iawn fy mod i’n siarad am isetholiad Gleann Rathais (Glenrothes); felly mae’n rhaid fod y peth yn...