
Mae fy mag ysgwydd wedi torri oddi ar fy ymweliad â Brwsel dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd ac ers hynny dwi wedi bod yn cario fy mhwts arian, camera, llyfr nodiadau, &c. o gwmpas mewn sach archfarchnad o Frwsel y gellir ei hail-ddefnyddio. Ond roeddwn i’n gweld eisiau fy mag ysgwydd yn fawr ond wedi methu dod o hyd i siop yn Aberystwyth a oedd yn darparu rhai i’r ddau ryw. Bues i mewn sawl siop ond roedd y bagiau i gyd yn rhy ferchetaidd, hyd yn oed i fi! O’r diwedd fe fues i’n chwilio ar y we a dod o hyd i fagiau a wneir gan gwmni Jost o’r Almaen. Penderfynais fuddsoddi mewn bag ysgwydd bychan du mewn cynfas yn y gyfres Gobi. Dyma sut mae’n ymddangos ar wefan y cwmni – y lliw yn y llun yw ‘Oliv’, ond dwi wedi cael...