Diwrnod 4 - Gwynt a Lluniau via Wierdo
Mi oedd hi wedi bod mor braf ddoe, mi oedden ni wedi bwriadu mynd i lan y môr heddiw. Mi gychwynnom ni o’r tŷ am tua 9 a mi oedd hi’n eitha’ braf ond oer iawn; lot o wynt. Ond ffwrdd a ni i Le Touqet bethbynnag. Wedi’r cyfan, dim ond 9 o’r gloch oedd hi, mi oedd hi siwr o gnesu cyn amser cinio. Mi gyrhaeddom ni ac mi oedd hi dal yn oer. Ddigon braf, ond gwyntog ac oer. Tra oedd yr “oedolion” yn chwilio am le gwell i barcio lle nad oedd rhaid talu, mi oedd y “plant”, John a mi yn chwarae pel droed. Fi a Iwan yn erbyn Carys a Gareth (cefnder a cyfneither John) gyda John yn chwarae gôl. Andros o gêm. 10-9 iddyn nhw. Gem agos a shatryring. Nid llun o’r gem ei hun oedd hwn, ond dyna ni. Mae’n rhyfedd peido bod yn un o’r “plant”. Mana 9 ohona ni ar y...