Welsh Blogs.com


Noson Gwylwyr Lerpwl… via Clecs Cilgwri October 23rd, 2008 at 23:06

Yn ôl cyflwynydd y noson, mi welodd Noson Gwylwyr S4C yn Lerpwl un o'r cynulleidfaoedd mwyaf a welodd o mewn cyfarfod o'r fath. Roedd hi'n braf gweld yr ystafell crand yn y Bluecoat Chambers (adeilad hanesyddol ac enwog,ac yn perffaith am baned a saib bach o fwrlwm y ddinas) llawn o wylwyr y sianel, yn barod i fynegu eu barn am gynhyrch yr orsaf teledu Cymraeg. Clywon ni hefyd gan arbennigwr technegol manylion ynglŷn â'r 'signal' digidol bydd dim ond ar gael (neu ddim!) i wylwyr dros y ffin wedi'r newidiadau i ddod. Mae'n ymddangos bod y signal digidol yn llawer mwy pennodol ar ran daearyddiaeth na'r signal analog, ac o'r herwydd yn llai tebygol o gario yn bell tu hwnt i ffiniau Cymru. Fel person sy'n dibynnu ar y signal analog, roedd hynny'n newyddion ddrwg, ond erbyn hyn dwi...

Cymru, Lerpwl a Stryd Hope… via Clecs Cilgwri September 3rd, 2008 at 22:30

Clywais 'raglun' heddiw o ddrama o'r enw 'Dyddiau Hope Street' sy'n cael ei darlledu p'nawn Sul ar Radio Cymru. Gwrandawais yn astud ar ôl glywed enw'r ddrama gan fy mod i'n cyfarwydd iawn gyda'r ardal 'Stryd Gobaith' o fy nyddiau fel myfyriwr yn Ninas Lerpwl. Hope Street yw'r heol (trwy cyd-ddigwydiad) sy'n arwain o'r Gadeirlan Anglicanaidd at y Gadeirlan Pabyddol, ac enw braidd yn eironig gan ystyried yr hanes cythryblus rhwng y dau ffydd yn Lerpwl (Dwn i ddim os oes cysylltiad rhwng enw'r stryd a phentre Hope (Yr Hob) yn y Gogledd?). Ta waeth, yn ôl y rhaglun, hanes digwyddiadau yn ystod cyfnod y chwedegau yw'r ddrama, gyda cyffro 'Beatlemania' fel cefndir. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd presenoldeb y Cymry Cymraeg yn dal i weddol cryf ar Lannau Mersi, cyfnod dwi'n ychydig yn rhy...

Diwedd cyfnod via Wierdo June 12th, 2008 at 16:46

Dwi wir wedi gorffen coleg. Ma raid mod i - fy mod i nawr yn y byd oedolyn go iawn ydi'r unig reswm allai feddwl amdano i gael dau pryd bwyd posh mewn wythnos!Yr un cynta oedd pryd neis o fwyd yn lerpwl i ddathlu penblwyddi cynnar/hwyr bron i bawb oedd yn byw efo John (a finna hefyd gan mod i wedi dathlu fy mhenblwydd yn 21 y dydd llun blaenorol). Mi aethon ni am fwyd i Circo yn y docks ac mi ydoedd hyfryd!* Mi geshi mushroom rarebit a spinaich naan pizza. Hyfyrd. Hwnnw oedd y caws ar dost hyfryta gefais erioed ac mi oedd y pizza yn lyfli jybli hefyd ac yn ddigon hawdd i'w wneud fy hun (naan bread, tomato puree, spinaich, caws cryf). A mi rannais bwdin toffi sdici i orffen.A'r ail bryd ym mron eifion criccieth i ddathlu penblwydd 21ain fy ffrind gorau. Ar un llaw swni'n anhebygol iawn o...

Pawb a’i Farn via Clecs Cilgwri February 17th, 2008 at 23:23

Mi ddoth y rhaglen 'Pawb a'i Farn' i Lannau Mersi wythnos yma am y tro cyntaf erioed, i ganol dinas Lerpwl yn y neuadd San Sior. Ces i'r profiad o fod yn y cynulleidfa gyda tua cant o bobl eraill, gan cynnwys Cymry'r ardal, myfyrwyr o Brifysgolion Lerpwl ac ambell i ddysgwr siwr o fod. Roedd yr ymweliad i'r neuadd (er dim ond rhan ohono) yn werth y taith byr i Lerpwl, adeilad dwi heb ymweled â hi o'r blaen mae gen i gywilydd cyfadde! Wedi blynyddoedd o waith adnewyddu, cawsom ni i gyd ein syfrdanu wrth cerdded trwy drysau trwm yr ystafell cyngherdd. Yna, yng nghanol y stafell safodd set Pawb a'i farn, un sy'n fel arfer mewn canol rhai canolfan hamdden di-nod yn ôl Dewi Llwyd cyflwynydd y cyfres. Wedi sgwrs bach a chyflwyniad gan 'rheolwr llawr' a rownd o gwestiynau gan Dewi er...

Trenflogio via Wierdo February 16th, 2008 at 14:35

Yn aml iawn pan dwi ar drenau (neu amryw o sefyllfaoedd cyhoeddys eraill) dwi'n creu rhyw fath o fyd ffantasi i fi fy hun.Mae'r byd yma bron union yr un peth bob tro.Mae'n dechrau gyda bachgen. Mae'n rhaid iddo fo fod yn fy ngwynebu neu dio'm yn gweithio. Ma'n llygid ni'n cwrdd am hanner eiliad a dyna fi off yn syth i fyd ffantasi ffilmiau. Dau berson ar dren yn cwrdd ac yn disgyn mewn cariad. Fflyrtio, penegliniau'n taro, llygaid yn cwrdd.A mi wn yn iawn fod gin i gariad a mod i ar y ffordd i'w weld o felly mae disgyn mewn cariad ar y ffordd yno yn anghyfleus iawn ond does gan fy ffantasi ddim byd i'w wneud efo bod yn hapus efo John neu beidio. Y rheswm dwi'n cal y ffantasis hyn ydi achos mod i'n darllen gormod ac yn gwylio gormod o deledu. A dwi'n methu dechra perthynas. maethu'r dod i...

Yn dathlu Cymreictod Lerpwl via Clecs Cilgwri October 5th, 2007 at 06:35

Dwi ddim cweit yn sgowser. Ces i fy ngheni ochr anghywir y dŵr i fy ngalw fy hun hynny, ond dwi'n hoff iawn o'r hen ddinas budr (Lerpwl..) sy'n pwysig dros ben i fywyd ar y penrhyn 'ma. Ces i fy niddori felly i weld y darn hon ar raglen Wedi 7 ynglŷn â dylanwad Cymry ar Lerpwl dros y canrifoedd, a'r plac newydd yn ardal Pall Mall (Little Wales) i ddathlu'r ffaith. (Symudwch y 'chwaraewr ymlaen at 18'00" er mwyn mynd at y darn am Gymry Lerpwl).Roedd 10% o boblogaeth Lerpwl yn 1813 yn Gymry, y rhan mwyaf yn Gymry Gymraeg wrth rheswm, cysylltiad unigryw (ar ran cryfder a deaeryddiaeth) sy'n clymu Lerpwl a Chymry o hyd, ac sy'n gwneud i fi ofyn wrth fy hun pam ar wyneb y ddaear ydy cymaint o Gogs yn cefnogi Man U!!...

Uffern via Wierdo March 10th, 2007 at 22:14

Dwi'n mynd i uffern. Dwi wirioneddol yn berson ofnadwy. Wir yr. I kid you not.Mi ydwi'n Lerpwl am benwythnos hir. Ma penwythnos yn Lerpwl yn golygu mod i'n cael penwythnos hapus efo f'annwylyd a dipyn o siopa. Sydd yn wych.Ond, mi oni a'r cariad mewn canolfan siopa heddiw yn cerdded yn braf, a dyma fi digwydd bod yn cicio darn o sbwriel oedd ar lawr. At hen ddynes. Oedd yn cerdded a ffon.Dwi'n teimlo'n ofnadwy. Mi ddudish i sori, ond wnaeth hi ddim ymateb o gwbwl.Dwi'n mynd i uffern.Petawn i wedi cicio'r sbwriel at unrhyw un arall, swni'n teimlo'n ddrwg hefyd. Ond ddim cweit mor ddrwg a hyn. Petawn i wedi cicio'r sbwriel at pa bynnag yob sydd yn berffaith hapus i sbwriel ar lawr, mi fyswn i'n hapus. Dwi'n casau bobl sy'n taflu sbwriel ar lawr; pam? Dio ddim gymaint a huna o ymdrech i...