Llafur yn fethdalwyr? via Blog Dogfael
Mwy am Peter Hain via Blog Dogfael
Anghofio am £103,000? via Blog Dogfael
Gordon Brown yn cymhlethu fy mywyd via Blog Dogfael
Dwi’n gwybod bod rhai yn ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i Dogfael a dyna pam nad oes cofnodion newydd wedi ymddangos ar Flog Dogfael ers bron i bythefnos. Mewn ffordd o siarad mae rhywbeth ‘ofnadwy’ wedi digwydd – dwi wedi bod yn rhy brysur i feddwl am ysgrifennu fy mlog. Dwi wedi bod yn mynd o un dydd i’r llall yn gwneud y peth hyn a’r peth arall yr oeddwn wedi addo eu gwneud, ond heb sylweddoli y buasai’r cyfan yn digwydd yr un pryd.
Efallai y person sy’n rhaid ei feio am hyn i gyd yw prif weinidog llywodraeth San Steffan, Gordon Brown. Fel un o swyddogion (cyn-swyddog, bellach) pwyllgor etholaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion roeddwn i wedi cael y gwaith o drefnu’r broses o ddewis ymgeisydd seneddol ar gyfer yr etholiad... Brysia wella, Rhodri via Blog Dogfael
Dwi ddim am i hyn swnio fel rhyw fath o erthygl goffa i Rhodri Morgan, ond dwi’n teimlo y dylwn i wneud ychydig sylwadau ac yntau yn rhoi’r gorau am ychydig i fod yn brif weinidog gweithredol oherwydd ei lawdriniaeth. Mae’r dyn yn ennyn teimladau cymysg ynof fi, cymysgedd o barch a siom. Yn gyntaf mae’n rhaid ddweud imi edmygu’r modd y bu’n barod i dorri ei gŵys ei hun wedi marwolaeth John Smith a phan etholwyd Tony Blair yn arweinydd Llafur Newydd. Roedd yn barod i’w herio a phan ddaeth ei gyfle yn ystod cyfnod byrhoedlog Alun Michael fel prif weinidog, neu’n hytrach prif ysgrifennydd, ni dynnodd yn ôl gan sicrhau y fuddugoliaeth yr oedd yn ei haeddu. A chwedyn dechreuodd pethau i fynd o chwith yn fy marn i. Credaf ei fod wedi penderfynu... Hanes ym Mhontrhydfendigaid via Blog Dogfael
Y peth diwethaf y mae blogiwr am fod yn euog ohono yw bod yn ystrydebol. Felly dwi’n ofni ac yn petruso rhag defnyddio’r gair ‘hanesyddol’ i ddisgrifio beth ddigwyddodd ym Mhontrhydfendigaid dros y penwythnos. I raddau mae’n rhaid cael y peth mewn persbectif o gofio beth sydd wedi digwydd i un o’r chwaraewyr yn y gêm heddiw. Mae’n rhaid bod gair arall i’w gael y buasai’n rheitiach ei ddefnyddio:-’arwyddocaol’ efallai, ynteu ‘nodedig’. Ond y gwir amdani yw nad yw’r un ohonynt yn dod yn agos i grynhoi’r teimlad a gefais o fod yno. Felly er gwaethaf fy mwriadau da, fy nymuniad i ddangos teithi’r iaith, nid oes unrhyw fodd imi ddisgrifio’r cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru ond fel... Llywodraeth glymblaid yn agosáu via Blog Dogfael
Nos yfory mae’r Blaid Lafur yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod a phleidleisio ar y cytundeb ar gyfer llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae lleisiau wedi’u clywed yn erbyn gan rai o hoelion wyth Llafur – Paul Murphy, Don Touhig a’r Dr Kim Howells. Rydyn ni hefyd wedi clywed pedair aelod o’r Cynulliad yn datgan eu bod yn erbyn y cytundeb; dwi’n ofni nad yw’r un ohonyn nhw yn enwog iawn am eu cyfraniad yn y Senedd. Pan ddaeth yr Ail Gynulliad i ben ei dymor dyma’r asesiad a gafodd y pedair yn y Western mail.
Irene James, Islwyn, Labour
Comment: Useless nonentity as far as we are concerned. Has added nothing to the Assembly that we can see
Marks out of 10:2
Ann Jones, Vale of Clwyd, Labour
Comment: Poor... Y drwg yn y caws via Blog Dogfael
Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha i roedd y peth yn drist. Mae’n rhaid bod y newyddiadurwr yn gwybod beth sy’n digwydd mewn seneddau lle nad oes sustem etholiadol wyrdroëdig sy’n rhoi’r holl bŵer i blaid sydd prin yn ennill dros 35% o’r bleidlais boblogaidd, fel y digwyddodd i Lafur Newydd yn 2005. Ond mae’n rhaid bod pwysau arno i adrodd beth y buasai ei gynulleidfa (Lloegeraidd Llundeinig) am ei glywed, mae pleidleisio cyfrannol yn estron i’r ysbryd ci-tarw Prydeinig...
Clymblaid? via Blog Dogfael
Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. Ni fyddai’n synhwyrol i orfodi rhywbeth ar gorff sydd wedi dewis dyfodol arall iddo’i hun a’n gwneud ni yn rhyw ail Lib Demiaid. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi dewis bod yn bartner llai yn hytrach nag arwain yn fy siomi yn arbennig. Ond nawr dwi’n edrych ymlaen i weld y ddogfen sydd yn sail i’r cytundeb gan obeithio ei bod yn cynnig y pethau hynny sydd eu hangen ar Gymru gyfan, ac yn arbennig felly y meini hynny sydd eu...
Ffansi sedd yn y cabinet? via Blog Dogfael
Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai hyd yn oed ail afael yng Nghaeredin yw? Yn bendant wrth gynnig lle yn y cabinet i Paddy Ashdown mae Brown wedi rhoi ei imprimatur ar glymbleidio gyda’r Dem Rhyddiaid. ac felly nid yw’n syndod clywed fod aelodau seneddol Llafur o Gymru yn dweud wrth Rhodri Morgan i fynd i glymblaid gyda’r Dem Rhyddiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol a pheidio â gwneud dim gyda Phlaid Cymru. I mi mae’n ddiddorol iawn fod Rhodri Morgan yn mynd i Lundain yn gyson i gael gwybod...
Pwy fydd yn cael dewis? via Blog Dogfael
Mae’r adeg y bydd hi’n rhaid i Blaid Cymru benderfynu beth maen nhw am ei wneud ynglŷn â chlymbleidiol yn dod yn nes. Ond mae’r gêm hefyd yn mynd yn fwy caled a chyfrwys. Yn y pendraw efallai nad Plaid Cymru fydd yn penderfynu o gwbwl gan fy mod yn siŵr imi glywed fod Mike [...]...
Coch a gwyrdd? via Blog Dogfael
Mae’n anodd dal lan gyda beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd y dyddiau hyn. Mae’n fwy anodd byth deall y pethau hynny pan ych chi’n gwylio’r cyfan o bellter Aberystwyth. Dwi’n credu fod rhyw fath o gêm yn digwydd gyda phawb yn gwthio’i gilydd i weld pa mor bell mae pawb yn medru neu’n fodlon mynd. Ond mae un peth yn amlwg iawn mae Llafur yn gwbl despret i gadw’u dwylo ar bwer a dwi ddim yn eu beio nhw am wneud – oni fyddai pawb yn ceisio gwneud yr un peth?
Wythnos yn ôl fe fues i yng nghynhadledd fy undeb llafur, Prospect – un o undebau llafur y gwasanaeth sifil a sefydliadau cyslltiedig. Doedd y syniad o roi’r Torïaid yn ôl mewn llywodraeth ddim yn apelio at nifer o’r cyfeillion yno; ond pwy fyddai’n disgwyl...
Y drwg yn y caws via Blog Dogfael
Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha i roedd y peth yn drist. Mae’n rhaid bod y newyddiadurwr yn gwybod beth sy’n digwydd mewn seneddau lle nad oes sustem etholiadol wyrdroëdig sy’n rhoi’r holl bŵer i blaid sydd prin yn ennill dros 35% o’r bleidlais boblogaidd, fel y digwyddodd i Lafur Newydd yn 2005. Ond mae’n rhaid bod pwysau arno i adrodd beth y buasai ei gynulleidfa (Lloegeraidd Llundeinig) am ei glywed, mae pleidleisio cyfrannol yn estron i’r ysbryd ci-tarw Prydeinig...
“Peidiwch â rheoli dim byd allan” via Blog Dogfael
Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac heb unrhyw ddiddordeb mewn bod yn rhan o lywodraeth. Roeddwn i wedi teimlo taw clefyd a oedd yn effeithio ar Blaid Cymru oedd hynny ond fe ges i fy mhrofi’n anghywir yn hynny o beth (ac nid am y tro cyntaf!).
Fe glywais i Alun Cairns (nid fy ffefryn) yn siarad ar Radio Cymru y bore ‘ma yn dweud efallai y gallai’r cytundeb rhwng y Ceidwadwyr ‘Cymreig’ a Phlaid Cymru fynd yn ei flaen ac na ddylen ni... Enfys! enfys! via Blog Dogfael
Dyw blog Vaughan Roderick yn pylu dim o ran diddordeb, a dim rhyfedd gan fod cymaint o bethau diddorol yn digwydd. Ar ei flog yntau y darllenais i fod Lembit Opik heb fynd i gyfarfod tyngedfennol o’r Lim Demiaid yn Llandrindod neithiwr ond yn hytrach fe ddewisodd recordio rhaglen deledu. Fe wnes i droi at y teledu am y tro cyntaf ers tipyn heno i weld y rhaglen Have I got news for you. Roeddwn i am weld y rheswm pam nad oedd aelod seneddol Maldwyn, Lembit Opik, wedi mynd i’r cyfarfod holl bwysig yn Llandrindod neithiwr pan benderfynodd y Dem Rhyddiaid geisio cytundeb gyda Phlaid Cymru a’r Torïaid yn hytrach na chyda Llafur. Wedi gweld y rhaglen a’i gyfraniad cwbl bitw dwi’n siŵr fod y Dem Rhyddiaid yn falch nad oedd wedi trafferthu dod yno os dyna oedd... Newyddion mawr! via Blog Dogfael
Dwi’n gwybod taw’r newyddion mawr o Gymru ddoe oedd y cyhoeddiad gan Charlotte Church ei bod hi’n disgwyl. Ond yn y cefndir dwi’n credu imi glywed rhyw sôn fod Peter Hain wedi dweud nad oedd unrhyw bosibilrwydd o gwbwl y buasai y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn mynd i glymblaid i ffurfio Llywodraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol. Felly dyna ni. Does dim angen i bobol Cymru bleidleisio o gwbwl – mae wedi’i benderfynu yn barod. Efallai fy mod i’n bod yn naïf, ond rhaid imi gyfaddef taw dyna roeddwn i’n gobeithio a fyddai’n digwydd. Dyw’r Blaid Lafur ddim yn mynd i ennill y mwyafrif fydd ei angen arnyn nhw i ffurfio llywodraeth heb fynd i glymblaid gyda phlaid arall. Felly mae’n rhaid Llafur yn weddol sicr fod y Democratiaid... Pwy fydd yn cael ei arestio nesaf? via Blog Dogfael
Mae’r rhwyd yn cael ei thaflu yn ehangach gyda phob diwrnod. Arestiwyd yr Arglwydd Levy a bu’r Argwlydd Sainsbury yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau, a phwy a ŵyr pwy fydd nesaf. Yn bersonol dwi’n credu y dylai’r rhan fwyaf o aelodau Tŷ’r Arglwyddi gael eu harestio am fodloni ar fod yn rhan o sustem mor amlwg a sylfaenol lwgr. Cafodd pawb ei sedd yno trwy ymgreinio a llyfu, dyna natur y lle. Does neb yn ennill ei le trwy eu gallu a’u rhinweddau eu hunain, mae’r cyfan yn dibynnu ar ddal llygad rhywun pwysig - arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn bennaf - a does dim sy’n tynnu sylw rhywun yn fwy na lot fawr o arian yn cael eu chwifio o’ch blaen. Yr unig ffordd arall i fewn yw’r ffordd yr aeth Maggie... Pwy sy’n deall beth? via Blog Dogfael
Roedd ‘na erthygl ddiddorol iawn yn y rhifyn diweddaraf o’r New statesman gan y golygydd gwleidyddol Martin Bright o dan y pennawd ‘Ministers no speaky nothing’. Roedd yn dadlau taw’r rheswm fod y llywodraeth Lafur Newydd yn edrych tuag at y Taleithiau Unedig am ddulliau newydd o ddelio gyda throseddau yw am nad yw’r rhan fwyaf o weinidogion y llywodraeth yn siarad dim ond Saesneg.
In a speech in Bristol designed to launch a national debate on crime (yes, another one), the Prime Minister will say he is planning to extend “community courts” being trialled in Liverpool and Salford, which are designed to give local people a greater say in justice: yet another idea imported from the US.
In America there are nearly 700 prisoners for every...