Welsh Blogs.com


Sut y gall y Blaid yng Ngwynedd gael gwared o’i phlentyn siawns via blogMenai January 2nd, 2009 at 10:41

Mi'r ydw i weithiau (wel yn aml) yn cael fy nghyhuddo o fod yn ddilynwr un llygeidiog i Blaid Cymru. Efallai y byddai'n ychydig o syndod i ambell un fy mod wedi derbyn cwynion gan fwy nag un aelod blaenllaw o'r Blaid oherwydd peth o'r cynnwys sy'n ymddangos yma o bryd i'w gilydd. 'Dwi hefyd wedi derbyn cwynion ac yn wir bygythiadau gan bobl o bleidiau a grwpiau eraill - felly 'tydi cadw blog fel hwn ddim yn ffordd effeithiol iawn o fod yn boblogaidd - ond dyna fo, mae yna bethau sydd angen eu dweud o bryd i'w gilydd.Mae rhai o'r sylwadau sydd i ddilyn yn feirniadol o'r Blaid yng Ngwynedd - ond 'dwi'n mawr obeithio y byddant yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol.Fel mae pawb yn gwybod mae'n debyg, collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn Ne a Gorllewin Gwynedd yn ystod etholiadau...

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin? via blogMenai December 23rd, 2008 at 21:32

Mae Hen Rech Flin yn gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru?.Y rheswm am hyn ydi ei fod wedi darllen rhywbeth yn y Western Mail sy'n dweud nad ydi Dafydd Elis Thomas am weld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad tan ei fod yn siwr y bydd yn cael ei ennill. Yn rhyfedd iawn mae dau o aelodau blaenllaw y Blaid - Bethan Jenkins ac Adam Price wedi galw am roi cychwyn ar ymgyrch yn syth bin. Ymddengys nad ydi Alwyn wedi sylwi ar hyn. A dweud y gwir nid yw'n hawdd deall agwedd Alwyn o gwbl at y pwnc yma - hanner yr amser mae'n edrych i lawr ei drwyn ar y sawl ohonom sy'n gweld datganoli fel y ffordd o ddod ag annibyniaeth i Gymru. I'r graddau bod y ddadl yn ddealladwy o gwbl y rhesymeg mae'n debyg ydi bod na rhyw gynllwyn i atal annibyniaeth ydi datganoli. Mae Alwyn hefyd wedi ypsetio ei...

Effing politisian via Blog Dogfael May 10th, 2008 at 19:27

image Llun gan Steve Jurveston. Sylwadau gan y Cynghorydd Peter Read fel y’u dyfynnwyd yn Golwg sy’n mynd â’m sylw i. Ef yw’r cynghorydd newydd o blaid Llais Gwynedd a drechodd cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd Richard Parry Hughes yn yr etholiadau diweddar. Un neges roedd e am i’r newyddiadurwraig ei throsglwyddo i’r byd a’r betws, sef “Dw i ddim yn effing politisian”. Pam roedd gwneud hynny mor bwysig iddo? Mewn ffordd o siarad dwi’n credu ei fod yn gweld ei ymgyrch a’i fuddugoliaeth fel un yn erbyn gwleidyddiaeth a’r gwleidydd ‘proffesiynol’. Mae’r teimlad yn erbyn gwleidyddion o’r fath yn gryf; fe’i teimlais hyd yn oed wrth ganfasio ac ymgyrchu yn ward Canol Aberystwyth ar gyfer y cyngor tref. Mae...

Etholiadau Lleol IX (Casgliadau+Llundain+Ron Davies) via Blog Rhys Llwyd May 3rd, 2008 at 09:23

image Dyna ni felly, etholiad arall drosodd, dyma grynhoi rhai o'r prif argraffiadau. GwyneddPlaid Cymru yn colli Gwynedd gyda unigolion blaenllaw fel Dafydd Iwan a Richard Parry Huws yn colli eu seddau oedd newyddion yr etholiad i mi. Er mod i'n credu fod Plaid Cymru yn haeddu ysgytwad dydw i ddim yn hollol gyfforddus gyda buddugoliaeth Llais Gwyendd oherwydd nad ydw i'n credu mewn single issue politics. Er enghriafft pwy yw arweinydd grwp Llais Gwynedd ar y cyngor nawr? Pwy fydd a'r mandad i arwain y trafodaethau am glymbleidio? Ydy Llais Gwynedd eu hunain yn gwybod yr ateb i hyn heb son am ni'r etholwyr yma yng Ngwynedd - y cwestiwn tymor hir fydd yn hofran uwch ben Gwynedd fydd hyn - a aeth y brotest rhy bell?Newyddion arwyddocaol arall yng Ngwynedd oedd bod Plaid Cymru wedi ennill tir mewn...

Etholiadau Lleol IV (Dafydd Iwan yn colli) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:53

image Maen swyddogol nawr fod Dafydd Iwan wedi colli ei sedd i Llais Gwynedd. Ond newyddion da i Blaid Cymru fod Dyfrig Jones (Golygydd Barn a blogiwr) wedi cipio Gerlan (ardal Rachub) i'r Blaid oddi ar Llafur. Sylwebwyr yn dechrau tybio fod hi'n arwyddocaol fod y Blaid yn colli yn y wlad ond yn cryfhau yn y...

Etholiadau Lleol - I (Ceredigion) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:35

image Mae'r canlyniadau yn dechrau dod trwyddo bore ma a'r si mawr ar hyn o bryd yw fod Dafydd Iwan a Richard Pari Huws wedi colli eu seddau i Llais Gwynedd! Mi fydd hyn yn ergyd sylweddol i Blaid Cymru. Ond dwi am sylwebu am Geredigion yn gyntaf gan fod gyda ni set o ganlyniadau llawn. Esgusodwch yr arddull ysgrifennu ychydig bach mwy tafodiaethol na'r arfer, mae hyn er mwyn postio yn sydyn!CeredigionAnnibynol: 11Dem-Rhydd: 10Plaid Cymru: 19Llafur: 1Arall: 1Maen ergyd sylweddol i'r Blaid fod Penri James wedi colli ei sedd ar y cyngor - hyn ddim yn argoeli'n dda o gwbl i'w ymgyrch i ad ennill sedd San Steffan i'r Blaid yng Ngheredigion. Ond cofiwch wnaeth y Blaid ddim mor wael a hynny ar y cyfan yn y sir achos dim ond 2 sedd i ffwrdd o reoli'r cyngor oeddem ni ac o dynnu'r stops i gyd allan...

Etholiadau Lleol II (Y Garth, Bangor) via Blog Rhys Llwyd May 2nd, 2008 at 10:43

Newydd gael newyddion da fod John Wyn Meredith (Plaid) wedi ennill yn Y Garth, Bangor gyda mwyafrif o 40 dros yr ymgeisydd Annibynol (o dras Llafur nid Llais Gwyneddaidd). Roedd John yn un o'r 12 rebel o Grwp y Blaid oedd yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r ysgolion felly hyn yn newyddion da i gefnogwyr Llais Gwynedd.Hon oedd fy ward i ym Mangor oedd a JMJ ynddi, yn anffodus dim ond llond dwrn aeth allan i bleidleisio o JMJ ond diolch byth roedd yn...