Welsh Blogs.com


Wncwl John Llanymawddwy via Blog Rhys Llwyd July 17th, 2008 at 21:30

Heddiw yn Ninas Mawddwy roedd crebrwng dyn arbennig iawn - Wncwl John gynt o fferm Bryn Ucha, Llanymawddwy. Hen gyfaill i'n Nhadcu a'm Mamgu oedd John a'i Wraig Mari - mi fyddai ein teulu ni gyd, pob cangen o deulu mam, yn arfer mynd i aros ar y fferm wythnos olaf Awst yn ddi-ffael. Tan i John a Mari ymddeol i'r Bala rhyw ddeng mlynedd yn ol fe fuodd Mam yn aros ar y fferm bob haf ers ei geni. Roedd apel y fferm i ni fel plant o'r dre yn anhygoel, ro' ni'n disgwyl mlaen yn eiddgar gydol y flwyddyn i gael mynd i Lanymawddwy. Erbyn y blynyddoedd ola ro' ni'n ddigon hen i helpu Wncwl John ac ro' ni'n cael mynd da fe lan y mynyddoedd yn y Defender 90 - dwi dal i gofio llythrennau olaf y registration: "WFF". Wrth edrych yn ol heddiw maen debyg mae mwy o ffwdan nag o help oeddw ni i Wncwl...