Iesu! Aled Jones Williams via Blog Rhys Llwyd
Mae'r theatr a'r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae'r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o'r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio'r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na'i gyflwyno o'r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr... 38,191 gair via Arth sy'n Dawnsio
Tarwyd fi ddoe gan y ffaith taw amaturaidd yw cyfrif maint geiriau sydd gennyf ar brosiect. Ni welwch y math stwff hwn gan Owen Martell, er enghraifft. Mae fe'n gweithio ar lyfr arall ar hyn o bryd ond dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud (neu, os mae yn, dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd).Ond, wrth gwrs, amatur ydw i.O hyd rydw i'n fath person a swynir gan syniad o ysgrifennu. Rhaid brwydro weithiau erbyn gwneud pethau dim ond oherwydd ymddangosan nhw fod yn "awduraidd" imi. Yfed jin ac ysmygu wrth deipio ac ati. Ar y cyfan, rydw i'n llwyddo osgoi bod yn ystrydebol ond os mae yna ferch sy'n darllen sydd eisiau cael helynt Bohemiadd â fi, rho fi wybod.Ces i e-bost ddoe gan rywun sy'n gwneud rhaglenni teledu o'r Babell Len yn yr Eisteddfod a ofynnodd ai fodlon siarad â Mari...
Diwedd y Disgfyd? via e-clectig
Newyddion trist ar gyfer ffans y...
Petae Jeeves yn Gymro… via e-clectig
Petae P.G. Wodehouse wedi bod yn Gymro, a chymeriadau ei nofelau yn Gymry'r 1920au, pwy neu ba fath o gymeriadau fuasai Jeeves a...
Adolygiad o Blerwytirhwng? via Rwdls Nwdls
Llyfr gweddol newydd ar gerddoriaeth bop Gymreig. Na nid yr un Cymraeg, ond yr un Saesneg gan Sarah Hill o Brifysgol Caerdydd.
Peth anffodus ar y diawl fod gan y ddau yr un teitl yn union! Wpsi!
Ta waeth, dyma’r adolygiad ar......
Allan o hydion via e-clectig
Hmmm. Hen bryd imi ail-gydio yn y gwaith o sgwennu fy mlogel, Y Rhithwyr. Dechreuais sgwennu'r blogel ym mis Chwefror 2006, ond dim ond dau "act" (maen nhw'n rhy fyr i haeddu'r enw "pennod") sydd wedi cael eu cynhyrchu eleni.Chwefror 2006: 17 actMawrth 2006: 3 actEbrill 2006: 1 actMedi 2006: 2 actChwefror 2007: 1 actTachwedd 2007: 1 actCawn weld os dw'i'n gallu terfynu'r peth yn...
Ofsted yn mynnu safonau uwch mewn barddoniaeth via e-clectig
Dyma'r stori...
DVD Pictiwrs a Tu Chwith - Galwad Am Ffilmiau via Rwdls Nwdls
Dim ond nodyn i hysbysebu fod Pictiwrs a Tu Chwith yn chwilio am ffilmiau byr Cymraeg ar gyfer DVD aml-gyfrannog fydd yn cael ei ddosbarthu gyda Tu Chwith ac yna i sinemâu a chymdeithasau ffilm ledled Cymru.
Meddyliwch am faint o bobol gaiff weld eich ffilm!
Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2007
Manylion llawn ar wefan Pictiwrs…... Tintin Pastiche - Adendwm via Rwdls Nwdls
Rhestr o pastiches a pharodïau o lyfrau Tintin ar Wikipedia.
[adendwm i flogiad cynharach]... Cof David Jones via Morfablog
What the hole is made of: religion. Astudiaeth o David Jones, CH Sisson, Kathleen Raine, a Peter Abbs, gyda’r ffocws ar rôl chwaraewyd gan crefydd yn eu gwaith. Dim ond Jones ac, i raddau llai, Raine ydw i wedi darllen o’r rhestr yma, ond mae adran fach ar y cyntaf yn werth ei ddarllen.
The [...]...
John Cowper Powys via Morfablog
The Ecstatic Storyteller - adolygiad o ddau lyfr a chyflwyniad gwych i waith a bywyd John Cowper Powys yn y Wall Street Journal ddoe.
Y cyntaf o’r ddau lyfr yw Descents of Memory gan Morine Krissdóttir, y cofiant llawn cyntaf am Powys - arwydd heb ei ail o’r “academic neglect” soniwyd amdano gan Robertson Davies [...]...
Blodeugerdd Y Forwyn Siocled via Rwdls Nwdls
Cyfres o gerddi a gyfansoddwyd yn deyrnged i Forwyn Siocled* Eisteddfod Sir Fflint a’r cyffiniau 2007.
O Forwyn, o Fair y Steddfod
Rho im siocled yn ôl y ddefod,
Cans o’th law a’th dwll pwps y daw,
Ein brown luniaeth a’n llawenydd.
Aaaa-men
Y Forwyn brown ar faes y Brifwyl – siocled
Ansanctaidd i’th berwyl
Afon o gachu o’i ffondŵ ffownt
Yn gymysg a phŵ-pŵ prifeirdd ar ein dwyfol lawnt
Siôn Ddu “Cwmcagle” (Bardd y Gadair Frown)
Y forwyn, anfarwol frown,
At dy lifeiriant feunydd down,
Sicrwydd dy siocled biso
Blesia oll a dyrant iddo,
Yn gachlyd dy wedd a’th bryd,
Trichant galwyn o dyrdiau hyfryd.
Ieuan Ddrewllyd a’i cânt
Ar gornel werdd faes ein gwareiddiad, -’’sbïwch'’!
Ffreutur brown ei edrychiad;
Ansanctaidd... Y Stori Dditectif Gyntaf (o bosib) via Rwdls Nwdls
The Murders in the Rue Morgue gan Edgar Allan Poe. [popups yma, sori]
Ddarllenais i hon ar y ngwylia ‘leni, mae hi’n dipyn o hwyl! Mae The Pit and the Pendulum hefyd yn werth ei ddarllen, ond watsh owt am rai o’r straeon hiliol/wladychol. Mae nhw’n anerbyniol erbyn hyn, ond eto dyw hyn ddim yn reswm dros eu tynnu oddi ar y silff, sydd wrth gwrs ddim yn digwydd efo llyfrau Poe....
Ac i chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r Watchmen… via Rwdls Nwdls
Dyma flas…
Crefftus iawn chwarae teg. Nid dim ond un o’r nofelau graffig gorau i fi eu darllen, ond un o’r llyfrau gorau ffwl stop. Ewch. Darllenwch. Cyn i’r ffilm ddod allan....
Cylchgrawn Transcript Review via Rwdls Nwdls
Curio Cymraeg ar y we via Rwdls Nwdls
I blant y we, mae hwn fel tudalen cyn hanesyddol bron (fel yr hen dudalen caneuon Beatles yn Gymraeg ‘na sydd rwan yn fynwent eliffantod y rhyngrwyd).
Mae rhywun yn dod ar eu traws bob yn hyn a hyn. Llecynnau bach rhyfedd o’r we lle bu coloneiddio Cymraeg cyn curiad calon maes-e. Mae tipyn o sdwff am Iolo Morgannwg ac Islwyn Ffowc ar Y Blaned Dirion sef gwefan Johan Schimanski. Ond y darn difyrraf ydi ei proto-blog - Rhedeg i Paris - sy’n croniclo ei gylchdaith o Oslo i Oslo via Paris, Tregaron a Dulyn, gyda’r holl beth wedi ei seilio i soundtrack a lyrics cân yr Anrhefn! Gwych!
Ac yn odiach fyth, mae rhywun wedi hyd yn oed ysgrifennu adolygiad i’r dyddiadur taith…...
Sôn am agweddau gwladychol… via Rwdls Nwdls
Tabyrddau’r Babongo! (Islwyn Ffowc Ellis, 1961)
“Nofel ddigri am drafferthion cenhadon ymhlith brodorion rhyfedd Affrica.”
Sa Islwyn ddim yn yn para dwy eiliad ar Celebrity Big Brother!... Tintin a Hiliaeth via Rwdls Nwdls
Bu trafodaeth ddiddorol iawn yn y Guardian wythnos dwetha am y penderfyniad gan siop lyfrau yn Llundain i symud llyfrau Tintin in the Congo i adran ar wahân i’r un plant am ei fod â chynnwys hiliol ynddo.
Mae’n wir fod llyfrau cynnar Tintin, yn ogystal â bod yn rhai sâl o ran stori, yn cynnwys cynrychiolaethau gwladychol eithaf hyll a stereotypical - ac yn sicr yng ngolau dydd heddiw maent yn hiliol.
Ond dyw hyn ddim yn dweud fod Hergé yn hiliol, yn wir, credaf fod ei lyfrau yn dystiolaeth cryf i’r gwrthwyneb. Yn y llyfr Coke en Stock caiff llong o ddynion o Affrica eu hachub rhag caethwasiaeth, ac mewn llyfrau eraill ceir portreadau sympathetig iawn o bobol frodorol a phobol o ddiwylliannau gwahanol. Mae teuluoedd Arabaidd a chymuned Romani gyfa(!) yn dod i... Gwylia a shdwff… via Rwdls Nwdls
Iow, dwi nôl o’r holidês yn Skopelos. Crynodeb:
Tiropita (pei caws), feta, plyms, prŵns (roedd rhain yn arbenigedd ar yr ynys), Mythos (cwrw Groegaidd), Tsipouro (gwirodydd o Skopelos), hethethetheth - scorchio (40C+!), snorclio (gweld Slywan Fôr Moray! Hollol amazing!), nofio (pwll plys traetha), trac ffarm nyts at y villa, darllen: Ffawd, Celwydd etc (ferigwdthingwir); Post Office - Bukowski (WOW!!); Melog (meh…); Cardiff Central (gwd); Edgar Allan Poe - casgliad straeon Pit & Pendulum etc (ym…diddorol).
Nid egsactli hapi rîdiing, fe glywaf chi, ond roedd angen marwolaeth, sataniaeth a sinigaeth drôl i wrthgyferbynnu a’r haul a hwyl.
Mewn newyddion arall…mae gwefan Pictiwrs wedi cael sawl enwebiad ar gyfer Gwobr Blogiau Cymru! Wel chwara teg...
Seiberpync via e-clectig
Mae seiberpync yn ddosbarth gwyddonias a chanddo ffocws ar "high tech and low life". Cafodd y term ei fathu gan Bruce Bethke yn ei stori fer Cyberpunk (1980) ond ei boblogeiddio cyn cyhoeddiad y stori gan y golygydd Gardner Dozois. Datblygwyd yr enw yn wreiddiol fel term masnachu.Mae'r enw yn gyfansoddair o seiberneteg a phync. Nodweddion seiberpync yw gwyddoniaeth datblygedig fel technoleg gwybodaeth a seiberneteg, wedi ei gyfuno â rhyw raddau o fethiant neu newid radicalaidd yn y drefn gymdeithasol. Yn ôl Lawrence Person:Roedd cymeriadau clasurol seiberpync yn bobl unig wedi eu hestroneiddio oedd yn byw ar gyrion cymdeithas mewn dyfodol dystopaidd lle roedd bywyd beunyddiol yn cael ei daro gan newid technolegol chwyrn, yn ddatasffer hollbresennol o wybodaeth gyfrifiaduredig, ac...
Ymryson y Sesiwn via Rwdls Nwdls
Ma’r Sesh yn agosáu a minnau’n ecseitio i glywad Steve Earle ar ôl i mi gael menthyg rhai o’i CDs o’n ddiweddar. Do’n i ddim yn disgwyl lecio fo - ond dwi yn, lot. Yn arbennig felly El Corazon.
Ac felly gan mod i wedi llwyddo rywsut i ennill llyfr am fy limrig yn Ymryson/Stomp llynadd (clywch y sŵn rhwygo na, mae fy mron yn chwyddo fel Hulk drwy grys-t gyda’r balchder!), dyma hysbysebu testunau ‘leni:
Ymryson Flynyddol Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae hi wastad yn hwyliog a difyr, y ffordd orau bosib i gloi’r penwythnos. Dewch yn llu a’ch cerddi efo chi – neu bensal o leia.
Amser: 2 y pnawn, dydd Sul Gorffennaf 22ain.
Lleoliad: Y Clwb Rygbi, Dolgellau.
Meuryn: Twm Morys.
Y Tasgau – agored i bawb sydd am roi cynnig arni:
1) Englyn yn...
Dad-Drefedigaethu’r Meddwl via Blog Rhys Llwyd
Dwi wedi cael tridiau o ddad-drefedigaethu'r meddwl – antidôt cwbl anghenrhaid ag ystyried y seremonïau cyfoglyd a ddigwyddodd yng Nghymru wythnos yma. Nos Fawrth roedd Ngũgĩ wa Thiong'o yn siarad yn adran y Gymraeg Bangor, maen awdur,bardd a beirniad llenyddol ôl-drefedigaethol. Menna oedd a'r diddordeb (theori ôl-drefedigaethol yw ei 'thing' hi) ond fe es i am dro hefyd i wrando ac roeddwn ni'n falch iawn mod i wedi mynd i wrando.Ganwyd a magwyd Ngũgĩ yn Kenya ac fe'i fedyddwyd a'r enw 'James Ngũgĩ'. Graddodiodd a BA Saesneg yn Uganda ac yna fe aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds, Lloegr, lle cyhoeddodd ei nofelau Saesneg cyntaf. Fodd bynnag syrthiodd mewn i argyfwng hunaniaeth ac fe sylwodd o'r newydd ei fod wedi bod yn wrthrych ac offeryn is-raddol mewn trefn... Barddoniaeth y Byd via Rwdls Nwdls
Ar wefan lyrikline gallwch ddarllen (gyda chyfieithiadau) a gwrando ar farddoniaeth mewn 40 o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg.
Syniad neis. Gwefan hawdd i’w llywio hefyd....
“Tintin and I” ar YouTube! via Rwdls Nwdls
Mae yna berson hyfryd iawn wedi rhoi 40 munud o’r ffilm ddogfen awr a hanner o hyd “Tintin and I” gan Anders Ostergaard fyny ar YouTube. Dwn im faint o amser fydd o’n aros yna am ei fod yn ffilm eitha diweddar (2003 dwi’n meddwl), felly os da chi’n Tintin ffan ewch draw!!
YouTube - Tintin and I rhan 1
YouTube - Tintin and I rhan 2
YouTube - Tintin and I rhan 3
YouTube - Tintin and I rhan 4...
I’r bin a’r bwcsyn budr… via Rwdls Nwdls
…baniwch y basdad*.
Dathliad gan Google ac Amazon o lyfrau sydd wedi cael ymgeisiau i’w banio - dipyn o’r rhain ar y rhestr ‘rhaid darllen yn fuan’ fel stwff Burroughs, Steinbeck, Huxley, Miller a Mailer. O ran fy rhestr mae sdwff Bukowski yn eitha uchel hefyd. Pryd ddiawl gai gyfla i’w darllen nhw ‘dwch…dwi’n methu gorffan ‘A Confederancy of Dunces’ fel ma hi.
*ymddiheuriadau i daid fy ffrind am fachu a bastardeiddio y cwpled hwn o’i eiddo. Dyma’r fersiwn wreiddiol:
“I’r bin a’r baco budur, baniwch y basdad”
Amserol iawn yntê hogs a gens....
Dal:Rhegi/Nawr - Prosiect Ffilm y Rhegiadur via Rwdls Nwdls
Be ddiawl medde chi?
Wel, mae hi fel hyn…yn ystod Eisteddfod Tyddewi saethodd Marc Evans ffilm ddwys o’r enw Dal:Yma/Nawr am hen hanes barddoniaeth Cymraeg…wrth ei wylio yn ddiweddar gan edmygu gwallt Gerallt Lloyd Owen am y canfed tro, daeth fflach o flaen fy llygaid…ymddangosodd ysbryd Y Parch. Rhys Jones, y bardd budr o’r Blaenau gynt, ac ysbrydoliaeth y Rhegiadur.
“Hei ti! Yr hen fflewjan lac,” dywedodd wrthyf “rwyf am i ti fyned allan a chynhyrchu ffilm gyffelyb â’r Dal:Yma/Nawr hwn i ddathlu gogoniant y Rheg Gymraeg, fel y gwnaeth yntau i farddoniaeth. Casgliad y penillion piws pennaf a blodeugerdd y frawddeg front fel petai. Dyma yw fy ngorchymyn!”
“Iawn,” me’fi yn syn “ond shifftia draw i’r chwith ‘chydig, dwi’n...
Cynghanedd i Lyn Gregennan via Rwdls Nwdls
Draw fan hyn
Dipyn gwell na’n ymgais i i farddnoi am fy hoff le yn y byd pan yn 21! Efallai, wnai bostio hi fan hyn rywbryd….wel, na wnaf....
Escape Pod via Morfablog
Escape Pod - podledu storïau gwyddonias....
Escape Pod via Morfablog
Escape Pod - podledu storïau gwyddonias....