
Wedi talu gwrogaeth wrth y London Stone, roedd yn amser imi fynd ymlaen i gyfeiriad eglwys gadeiriol St Paul’s. Ond nid yr eglwys ei hun oedd yn fy nenu – roeddwn i wedi ymeld â honno o’r blaen – ond yr ardal o’i chwmpas, St Paul’s Churchyard. Roedd hi’n arferol i gael siopau o gwmpas eglwysi mawrion ac eglwysi cadeiriol, ond roedd St Paul’s Churchyard yn enwog fel cartref i argraffwyr a llyfrwerthwyr. Digwyddodd hyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dilyn diwygiadau crefyddol Henry VIII. O gwmpas yr eglwys yr oedd yna lawer o gapeli a chysegrfeydd a gafodd eu cau neu eu tynnu i lawr o dan orchymyn brenhinol yn dilyn torri’r cysylltiad â Rhufain, ac fe werthwyd llawer o’r adeiladau i’w troi’n siopau ac am ryw reswm fe...

Dwi’n ofni fy mod yn dal i feddwl am y London Stone. Doeddwn i erioed wedi clywed am y peth o’r blaen nes imi fynd i St Swithins Lane, ac er na chefais hyd i gofeb Catrin ferch Owain Glyn Dŵr dwi’n credu fod darganfod y garreg hon yn gwneud iawn am hynny. Yn ôl traddodiadol mae’r garreg yn mynd â ni yn ôl i ddyfodiad y Brythoniaid neu’r Prydeinwyr (cyn-deidiau’r Cymry) i’r ynys hon. Credai’r Cymry taw Brutus o Gaer-droia oedd sylfaenydd Prydain – dyna ddywedodd yr hanesydd Nennius yn y 9fed ganrif, ac yn bendant dyna oedd barn Sieffre o Fynwy (1090?-1155), awdur Brut y Brenhinoedd – a gwae neb a wadai hynny. Yn ôl Sieffre Brutus oedd yn gyfrifol am sefydlu dinas Llundain, Caer-droia newydd, a’r traddodiad oedd taw darn...

Ger St Swithins Lane ar Cannon Street mae ‘na wrthrych rhyfedd iawn a elwir yn London Stone. Does neb yn gwybod rhyw lawer iawn yn bendant am y garreg, er bod traddodiadau a chwedlau wedi tyfu o’i chwmpas. Erbyn heddiw y mae tu ôl i reilins gyda phlac yn adrodd ei hanes. Mae’r plac yn darllen fel hyn:
LONDON STONE
This is a fragment of the original piece of limestone once / securely fixed in the ground now fronting Cannon Street Station. / Removed in 1742to the north side of the street, in 1798 / it was built into the south wall of the Church of St Swithun London Stone / which stood here until demolished in 1962. / Its origin and purpose are unknown but in 1188 there was a / reference to Henry, son of Eylwin de Londenstane, subsequently Lord Mayor / of London....

Ddydd Sadwrn fy mwriad oedd mynd i ddinas Llundain i chwilio am y gofeb i Catrin ferch Owain Glyn Dŵr. Roedd Siân Phillips wedi dadorchuddio’r gofeb yn 2001 yn Cannon Street Gardens. Nid oeddwn yn rhy siŵr ble’r oedd Cannon Street Gardens, ond roeddwn yn weddol hyderus y buaswn yn dod o hyd iddyn nhw. Mae Cannon Street yn stryd amlwg iawn yn y ddinas yn rhedeg o Eglwys Gadeiriol St Paul’s hyd at y Monument. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi bod yn ninas Llundain ar ddydd Sadwrn mae’r lle yn wag a’r holl siopau wedi cau. Does neb yno, heb law am ambell i dwrist fel finnau yn crwydro yn y gobaith o ddod o hyd i rywbeth diddorol. Roeddwn i’n gwybod fod Cartin ferch Owain wedi’i chladdu ym mynwent Eglwys St Swithin’s ond bod honno wedi’i...

Doeddwn i ddim wedi cychwyn o Aberystwyth yn gynnar iawn fore Gwener, rhyw 9.30am, ond roeddwn i wedi cyrraedd Llundain erbyn canol y prynhawn gydag amser i fynd i grwydro ryw ychydig. Fel y dywedais dyma’r cyfle cyntaf imi ddefnyddio’r cerdyn Oyster ac ar y bws yr es i am ardal Soho a siop Grant & Cutler. Siop lyfrau yw Grant & Cutler ond mae’r llyfrau i gyd yn llyfrau dysgu ieithoedd tramor neu mewn ieithoedd tramor. Roeddwn i am gael golwg ar eu hadran Iseldireg, wrth gwrs. Tipyn o siom yw hi bob amser wrth edrych ar y silffoedd yma – fy mai yw hynny mewn gwirionedd gan fy mod wastad yn chwilio am ieithoedd ‘bychain’ ac ychydig yw’r llyfrau yn y maes hynny ac dwi’n gwybod amdanyn nhw yn barod. Petawn i’n dewis iaith fel Rwsieg...

Dwi wedi bod mor brysur yn adrodd hanes fy ngwyliau yn yr haf fel nad ydw i wedi cael cyfle i ddweud am fy ymweliad â Llundain fis Hydref ac mae’n rhaid imi wneud am fy mod wedi gwneud ambell i beth cyffrous iawn; cyffrous iawn yn fy ngolwg i. Dyw aros yn Llundain ddim yn rhad felly mae’n syniad da chwilio am bethau sy’n rhad i’w gwneud yno a dyna a wnes i. Treuliais fy amser yn mynd o le i le i weld pethau am ddim a chael profiadau newydd. Y profiad mwyaf oedd defnyddio fy ngherdyn Oyster am y tro cyntaf. Y cerdyn Oyster yw’r ffordd rataf o deithio o gwmpas ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain, ac ar gyfer rhywun sydd am deithio ar fysus mae’n berffaith. Yr ofn arferol am deithio ar fws yw peidio gwybod faint mae’n costio i fynd o fan i fan ac...
Trên yn gadael Caerdydd am 9:25. Gobeithio cwrdd lân mewn tafarn wrth faes Dagenham & Redbridge tua 1:45pmTrain leaves Cardiff at 9:25. Hope to meet up in apub near Dagenham and Redbridge's ground at around 1:45.Yn mynd / Going: Rhys W, Rhys D, Aled, Owain, Richard, Ade, KyleTUBE journey PlannerTafarndai / PubsView Larger...