Lansio ‘Tonnau Tryweryn’ via Blog Dogfael
Roedd noson lansio nofel Martin Davis, Tonnau Tryweryn, yn ddigwyddiad dymunol iawn. Rydw i’n adnabod Martin ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Fe wnes i gyfarfod gydag e pan ddes i’r coleg yn Aberystwyth ac mae’r ddau ohonon ni wedi bod o gwmpas ers hynny ac mae’n llwybrau yn croesi yn achlysurol.
Dywedodd Martin yn y lansiad ei fod wedi cyhoeddi wyth o lyfrau gyda’r Lolfa a dwi wedi darllen dau ohonynt – Brân ar y crud ac Os dianc rhai. Fe wnes i fwynhau’r cyntaf, ac er fy mod yn edmygu bwriad ac uchelgais yr ail rhaid dweud na lwyddodd i gyflawni yr hyn yr oeddwn wedi’i obeithio. Roedd honno yn nofel yn cymryd digwyddiadau yn y 1930au a’r 1940au yn gefndir iddi ac ac yn Tonnau Tryweryn mae’r awdur yn edrych yn ôl i digwyddiadau... Byd y Powysiaid via Morfablog
Mae adolygiad y “Powys Journal” diwetha yn y TLS newydd, sy’n sôn am that old Powys thrill.
Dw i hanner ffordd trwy un o fy hoff lyfrau John Cowper Powys, A Glastonbury Romance, ar hyn o bryd, ond heb symud ymlaen gyda fe ers wythnosau. Mae bob tro o leia un o’i lyfrau yn y [...]...
Liesbeth yn Aberystwyth (4) via Blog Dogfael
Fe wnes i gymryd prynhawn ddydd Gwener fel gwyliau er mwyn cyfarfod gyda Liesbeth ac fe fuon ni’n siarad am bob mathau o bethau trwy’r prynhawn. Aeth hi i siopa am ychydig ac wedyn fe es i ddangos Eglwys y Santes Fair iddi hi. Roedd yn rhaid imi geisio esbonio iddi hanes crefydd yng Nghymru, ac wrth gwrs mae’n wahanol iawn i hanes crefyddol Fflandrys. Bu Fflandrys yn ardal a oedd bron â bod yn gyfan gwbl Babyddol tan yr ugeinfed ganrif, er adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd rhai o ddinasoedd Fflandrys, yn arbennig Antwerpen, yn gartref i ddiwygwyr crefyddol. Daeth hynny i gyd i ben gyda’r adwaith yn erbyn gwrthryfel yr isel diroedd a sefydlu Holand annibynnol yn y gogledd pan erlidiwyd meddylwyr Fflandrys gyda’r mwyafrif... Llên y Lli via Morfablog
Dyma gêm i chi ffans y Talwrn. Cliciwch ar y ddolen nesa i Fideo 1 ym Mhrosiect Llên y Lli, ond cyn i’r ffilm fach ddechrau, cuddio’r sgrîn tu ôl i ffenest arall neu rywbeth: faint o’r beirdd ych chi’n eu hadnabod o’u lleisiau?
(Trwy Nwdls, eto. Dw i’n chwarae dal-i-fyny ’ma, wedi wythnosau di-ri o [...]...
Cylch darllen Aberystwyth 2008-10-06 via Blog Dogfael
Nos Lun roedd cylch trafod llyfrau Aberystwyth yn cyfarfod yn yr Orendy, Stryd y Farchnad. Roedd dau lyfr o dan sylw yn y noson. Cyfrol gyntaf o farddoniaeth y bardd dawnus Eirug Salisbury, Llyfr glas Eirug a nofel Siôn White (gyda chymorth Catrin Dafydd), Y dyn handi.
Fel arfer doedd pawb ddim wedi darllen popeth; ond roedd mwy wedi darllen cyfrol Eirug Salisbury nag oedd wedi darllen nofel Siôn White. Dyna oedd fy sefyllfa i. Doedd gen i ddim sylw i’w wneud ar y nofel ond roedd gen i fy marn ar gyfrol Salisbury. Sylwer fy mod yn dewis fy ngeiriau yn ofalus, roedd fy sylwadau yn ymwneud gyda’r gyfrol. Dim ond trwy chwys fy wyneb yr wyf fi’n llwyddo i ysgrifennu un llinell o gynghanedd felly mae darllen gwaith rhywun sy’n llwyddo i lenwi cyfrol gyfan gyda chanu... Cyfarfod blynyddol Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru, 2008-10-04 via Blog Dogfael
Mae wedi bod yn gwpwl o ddiwrnodau eithaf prysur i ddweud y gwir. A doedd dydd Sadwrn ddim yn wahanol. Dwi’n aelod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau; sef grŵp sy’n cefnogi ac yn hybu gwaith y Cyngor sydd yn ei dro yn cefnogi pob agwedd ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru ac yn hybu diddordeb mewn llyfrau. Yn ogystal â bod yn aelod rydw ar y Pwyllgor Llywio. Mae’ Cyfeillion yn gymdeithas gyfeillgar a’u haelodau yn rhannu dileit mewn llyfrau. Ac mae bod yn aelod yn porthi’r deleit hwnnw’n wych trwy gysylltu’n rheolaidd â’r Cyfeillion, mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu cyflwyno iddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am y byd llyfrau yng Nghymru, yn ogystal â hynny mae aelod yn derbyn tocyn mantais o £2.50 i’w wario ar lyfrau Cymraeg a Chymreig deirgwaith... Lansio llyfr ffotograffau John Thomas via Blog Dogfael
Roedd nos Wener yn noson arbennig gan fy mod i wedi cael gwahoddiad i gadeirio noson lansio llyfr am y ffotograffydd John Thomas (1838-1905). Ef yw un o ffotograffwyr pwysicaf ac arloesol Cymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Lerpwl, ond cafodd ei eni a’i fagu yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan, ac yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yn gwnaeth y rhan fwyaf o’i waith. Mae ei gasgliad o ryw 3,000 o negyddion gwydr yn rhan o’r Casgliad Ffotograffau Cenedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ysgrifennwyd y llyfr, Hen ffordd Gymreig o fyw: ffotograffau John Thomas, gan Iwan Meical Jones. Ef oedd fy rheolwr cyntaf i yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno y cefais i’r fraint o drosglwyddo cofnodion catalog am y casgliad o gardiau catalog i gronfa ddata... Derbyn anrheg am yr eildro via Blog Dogfael
Derbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd a thro. Roedd yn ddiddordeb i mi oherwydd fy nghysylltiad i â Waldo, Mynachlog-ddu a Sir Benfro. Yn ychwanegol at hynny dyma efallai y peth agosaf at fywgraffiad Waldo sydd ar gael. Ond am ryw reswm fe aeth y llyfr ar goll. Roeddwn i wedi credu ei fod ar goll ym Mhlas-yn-Dogfael – ar ryw silff, neu mewn rhyw gwpwrdd lle nad oeddwn i yn medru ei weld – ond ar ôl chwilio a chwilio roeddwn i wedi ildio. Credwn nad oeddwn yn mynd i ddod o hyd iddo eto hyd nes y byddwn yn symud ac i ddweud... Nofelau C J Sansom via Blog Dogfael
Dwi’n llawn cynnwrf oherwydd heddiw fe fues i yn Siop Lyfrau Oxfam yn Aberystwyth a chael copi o’r bedwaredd nofel, Revelation, yng nghyfres Shardlake yr awdur C J Sansom. Dechreuais i ddarllen nofelau’r gyfres ‘nôl ar ddechrau mis Awst ac fe wnes i orffen y drydedd nofel rhyw bythefnos yn ôl. Dwi wedi cael blas mawr ar y nofelau, sy’n beth rhyfedd imi achos taw nofelau ditectif ydyn nhw mewn gwirionedd. Ond yr hyn sy’n fy nenu i atyn nhw yw eu bod wedi’u gosod yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ystod teyrnasiad Henry VIII. Cyfreithiwr yw’r prif gymeriad, Matthew Shardlake ac mae’r nofelau yn dod â’r cyfnod yn fyw iawn, ond mae’r awdur hefyd yn storïwr penigamp sy’n gwneud hyd yn oed i rywun fel fi fynnu... Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2008 via Blog Dogfael
“Barddas newydd – cyfnod newydd” – dyna’r neges ar glawr rhifyn diweddaraf Barddas sydd newydd gyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel arfer dyma un o rifynnau mwyaf difyr y flwyddyn wrth i’r golygydd ac aelodau eraill y Gymdeithas Gerdd Dafod fwrw golwg dros gynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r eisteddfod yn bwrw ei chysgod yn drws dros y rhifyn, fel y buasai dyn yn ei ddisgwyl. Ar y clawr mae llun lliw hyfryd o enillydd y goron, Hywel Griffiths.
Ond mae’r rhifyn hwn yn arbennig hefyd am ei fod y cylchgrawn wedi cael ‘gwneuthuriad-drosodd’. Mae’r clawr yn dwyllodrus o adnabyddus, ond y tu mewn mae rhywun wedi mynd yn wyllt gyda’r ffontiau a’u meintiau a chyda’r gosod! Y rheswm dros y newid radical yw nodi’r... Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (4) via Blog Dogfael
Roedd fy niwrnod cyntaf yn Norwich bron â dod i ben. Yn awr yr oedd yn rhaid mynd yn ôl i St Stephen’s er mwyn cwrdd gyda RO a DML i gael swper ac yna mynd yn ôl i’r llety ym Mrhifysgol Dwyrain Anglia.
Roeddem wedi trefnu i gwrdd yn y caffi yn siop lyfrau Borders yng nghanolfan siopa Chapelfield. Daeth pawb ynghyd yn brydlon, ond roedd DML yn drymlwythog. Yr oedd ar ei wyliau ac wedi prynu dau lyfr yn gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, un o’i ddiddordebau mawr. Y llyfr cyntaf oedd blodeugerdd o gerddi o’r rhyfel, The winter of the world, a olygwyd gan Dominic Hibberd a John Onions. Y llall oedd hanes y gwrthwynebwyr cydwybodol yn ystod yr un rhyfel, sef We will not fight… gan Will Elsworth-Jones. Yr oedd ei hapusrwydd o gael llyfrau oedd cymaint... Byw o hyd via Morfablog
Een Ogenblik: Roland Rens - ffilm fer am yr artist o Wlad Belg.
Harddwch Americanaidd. Mewn wythnos ni wedi gweld gorau a gwaethaf Gwlad y Rhyddion.
Sôn am y gorau, dyma Improv Everywhere eto:...
Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-09 via Blog Dogfael
Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd hi’n bwrw glaw unwaith eto ac felly doedd dim llawer o chwant ymweld ag unrhyw le ar y ffordd adref. Ond dywedodd RO y carai fwrw golwg dros siop lyfrau Borders yn Llantristant ac felly dyna a wnaethpwyd yng nghanol y glaw. Wedi cinio yn y caffi yn y siop dyma ddychwelyd i Aberystwyth trwy’r Rhondda a’r canolbarth.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.
Rhannu hyn Rhagor »Gyrrir gan... Ian Rush a Mickey thimas yn arwyddo eu hunangofiannau yng Nghaerdydd mis nesa. via Gwenu dan Fysiau
Bydd dau gyn-chwarawr Cymru a Wrecsam (ok, a Lerwp a Man U i chi genfowyr cadair freichiau) yn arwyddo eu hunangofiannau yng Nghaerdydd wythnos nesaf.Ian Rush2.9.08 Watestones am 12:30Despite finding foreign countries a little, well, foreign, Ian Rush is a role model for the footballing youth of today. This is his own story, from his school team in Flintshire, to the dizzy heights of European success with Liverpool, (and breaking a few records along the way), and is a must-have for Liverpool fans and those fervent followers of the Welsh team. Plus, he'll be signing copies in branch at Cardiff on the 2nd September 2008, so come along and meet him for yourself! Mickey Thomas6.8.08 Borders am 12:00Mickey Thomas - Kickups, Hiccups, Lockups - The Autobiography 12:00 pm, Sat 6th Sep...
Llyfrau o’r Steddfod via Blog Rhys Llwyd
Llyfrau dwi wedi dod â nhw i’r Eisteddfod via Blog Dogfael
Lansio “Aber” via Blog Dogfael
Neithiwr fe fues i mewn noson hyfryd a noson arbennig, sef lansiad “fy nghyfrol gyntaf”. Yn anffodus rydw i’n rhannu’r gyfrol gyda chwech o bobol eraill, ond o leiaf mae fy enw i yn y llyfr ac fe alla i alw fy hun yn awdur o hyn mas.
Cynhaliwyd y lansiad yng nghanolfan newydd-addasedig Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth, a’r llyfr oedd yn cael ei lansio oedd Aber: ysgrifau am Aberystwyth gyda ffotograffau gan Keith Morris. Y cyhoeddwyr yw Gomer a hwy oedd wedi trefnu’r noson. Gan fy mod wedi cyfrannu ysgrif at y gyfrol cefais wahoddiad i siarad “ar ran” awduron yn y gyfrol Gymraeg. Roedd y noson hefyd yn lansiad i lyfr Saesneg tebyg am Aberystwyth yn cynnwys ffotograffau gan Keith Morris ac ysgrifau gan wahanol awduron. Roedd Andrew Green, y... Beth mae DML yn ei ddarllen 2008-07-17 via Blog Dogfael
Adolygiad o ‘Stop Dating the Church’ gan Joshua Harris via Blog Rhys Llwyd
Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O'r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw'n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi'n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai'n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw'r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau'r cysur a'r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae'r sbarc a'r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw'n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae'r wefr o fod gyda'i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos... Rhodri Glyn Thomas a Llyfr y Flwyddyn via Blog Rhys Llwyd
Pan glywais i yn gyntaf am gamgymeriad Rhodri Glyn Thomas yn cyhoeddi'r enw anghywir yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn neithiwr roeddw ni yn fy nyblau. Ond erbyn heno 'ma rwy'n teimlo'n sori dros Rhodri Glyn druan. Erbyn hyn mae'r helynt wedi cyrraedd tudalen flaen prif wefan newyddion y BBC dros Brydain nid dim ond BBC Cymru, gweler isod:I chi sydd heb weld yr halibalw drostoch chi eich hun eto, rhowch glec YMA i weld y fideo. O diar o diar, o leia mae gan dim LOL eu dalen flaen...
Llyfr y flwyddyn 2008 via Blog Dogfael
Hugh MacDiarmid via Morfablog
Mae hi bron â bod pum mlynedd ers i ni sôn am Hugh MacDiarmid fan hyn, a siwr o fod bron cyhyd ers i mi dynnu ei lyfrau o’r silff “llyfrau i’w darllen yn iawn rhywbryd”, ond dw i wedi dod ar draws casgliad recordiadau MacDiarmid yn archif Prifysgol Pennsylvania. Mae gwrando ar y [...]...
Beth mae prif weinidog Canda yn ei ddarllen? via Blog Dogfael
Fe wnes i ddysgu rhwybeth diddorol iawn heno wrth ddarllen papur newydd y Guardian ar-lein. Roedd ‘na flog yno ar pa lyfrau dylai gwleidyddion eu darllen. Ac mewn ymateb dyma rhywun yn postio sylw am sut mae’r awdur Yann Martel, enillydd gwobr Man Booker yn 2002, sy’n anfon llyfr at brif weinidog Canada bob pythefnos. Nid yn unig y mae’n anfon llyfr y mae’n ysgrifennu llythyr hefyd i fynd gyda’r llyfr er mwyn esbonio i Stephen Harper beth yw rhinweddau’r llyfr. Dwi ddim yn gwybod beth yw ymateb Stephen Harper, ond mae Yann Martel yn rhannu ei ddewis o lyfrau a’i lythyron yn gyhoeddus ar wefan, What is Stephen Harper reading? Mae’n werth taro heibio i weld beth yr hoffai Martel iddo ddarllen.
Note: There is a rating embedded within... Beth mae DML yn ei ddarllen 2008-03-18 via Blog Dogfael
Mwy am Lyfr y flwyddyn 2008 via Blog Dogfael
Ai fi sy’n dychmygu hyn, ynteu a wnaeth rhywun arall ddarllen y stori hon ynglŷn â chyhoeddi rhestr hir Llyfr y Flwyddyn mewn papur newydd ddoe ?
ANTI N.WALES AUTHOR BIAS SHOCK
A Welsh Assembly Government-funded literature promotion agency found itself at the centre of an anti-North Wales bias controversy yesterday.
The announcement of the short-list for the Welsh-language Book of the Year prize, worth £10,000 to the winner, by the Cardiff-based Academi unleashed a storm of reaction as angry North Wales authors complained of bias. Of the ten books on the short-list, only two were from North Wales-based authors.
A well-known author, who wished to remain anonymous, said “There was bias built into the system from the beginning as all the adjudicators in the competition are based...
Hen lyfrau Cymraeg (a’r gair ‘Sgotland’) via Gwenu dan Fysiau
Es i siôp lyfrau Oxfam ar stryd y Santes Fair i chwlio am lyfr Saesneg, ond ches i mo hyd iddo, er cystal y dewis. Cyn gadael dyma fi'n mynd i chwilio os oedd rhai Cymraeg ygyda nhw, ac roedd rhyw ddwy silff fer ohonynt. Yn wahanol i'r rhai saesneg oedd i gyd reit diweddar, rhai llawer hŷn oeddynt ac fe brynnais ddau, y ddau gan Lyfrau'r Dryw digwydd bod.Llyfr Garddio gan J. E. Jones (gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1967)aCrwydro Gorllewin Dinbych gan Frank Price Jones Cafodd y ddau eu cyhoeddi yn 1969, a dywedodd mam ei bod yn cofio llyfr Frank Price Jones yn dod allan gan ei bod hi'n gweithio mewn siop bapur yn nimbych ar y pryd ac roedd yr awdur yn un o'r cwsmeriaid.Mae Crwydro Gorllewin Clwyd yn lyfr hynod ddifyr, gyda hanes manwl am born i bob plwyf mewn ardal...
Rhestr hir Llyfr y flwyddyn 2008 via Blog Dogfael
Mae rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2008 yr Academi Gymreig wedi’i chyhoeddi ac mae’r gystadleuaeth yn mynd yn fwy bisâr bob blwyddyn mae’n ymddangos. Mae’r rhestr yn un dderbyniol, er nad yw’n cynnwys y nofel a wnes i ei mwynhau fwyaf llynedd, sef Wrth fy nagrau i gan Angharad Tomos. A ble mae Glaw a hindda Jenny Ogwen a Cestyll yn y cymylau Mihangel Morgan? Fe wnaf dderbyn nad yw barn y tri beirniad – Siân Thomas, Huw Meirion Edwards ac Aled Islwyn – yr un fath â’m barn i a’i gadael hi fan ‘na. Yr hyn sy’n bisâr yw fod llyfr ar y rhestr hir nad oedd hyd yn oed ar y rhestr o lyfrau a oedd yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth yn ôl gwefan Academi, sef Rhoi Cymru’n gyntaf gan Richard Wyn Jones. Cyfrol a oedd yn haeddu ei lle yn... Darllen a dysgu via Blog Dogfael
Dwi wedi darllen yr ysgrif gyntaf allan o’r gyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards, Cawr i’w genedl, sef un Allan James ar Arlunydd Penygarn. Fe wnes i ei chael hi’n erthygl ddiddorol dros ben, fel yr oedd T H Thomas, neu Arlunydd Penygarn ei hun. Dwi ddim yn siŵr pa ysgrif yr wyf am droi ati nesaf. Rwyf hefyd wedi ail-gychwyn ar ddarllen nofel Gareth F Williams, Dyfi Jyncshiyn : y dyn blin. Dechreuais ei darllen rhyw bedwar neu bump diwrnod yn ôl ac ildio cyn diwedd y bennod gyntaf bron â bod, ond dwi wedi rhoi cyfle arall iddi ac yn dechrau cael blas. A thrwy’r holl adeg, a phan nad ydw i’n darllen y ddau lyfr hyn ‘na, mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig wrth fy ochr er mwyn troi mewn iddo’n achlysurol. Dwi’n siŵr y... Cawr i’w genedl via Blog Dogfael
O gofio ei bod hi’n Ddiwrnod y Llyfr heddiw roedd hi’n bleser cael bod mewn cyfarfod i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd neithiwr yn Aberaeron. Daeth cynulleidfa dda at ei gilydd yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron i nodi cyhoeddi Cawr i’w genedl: cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards a olygwyd gan Tegwyn Jones a’r Dr Huw Walters. Roedd ystafell fawr y gwesty yn llawn wrth i selebs a gwreng eistedd blith draphlith ar gyfer noson o ddathlu. Dylai’r rhestr o’r rhai oedd yn siarad neu’n berfformio yn ystod y noson ddangos yn eglur beth oedd calibr y selebs oedd yn y digwyddiad – pob un yn A-list, fel petai PC Leslie Wynne yn ei ddweud.
Tegwyn Jones (llywydd y noson)
Y Dr Huw Walters
Y Parchg Meirion Evans
Yr Athro M Wynn Thomas
Y Dr Rhidian...