Welsh Blogs.com


maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr eisteddfod? via Blog Rhys Llwyd August 15th, 2007 at 23:28

image Mae pawb yn ymwybodol o hoffter y Cymry o'r ddiod gadarn. Amhosib yw mynychu unrhyw ddigwyddiad Cerddorol, Llenyddol neu Chwaraeon Cymreig heb fod y cwrw neu'r gwin yn llifo'n rhydd. Meiddia i awgrymu fod presenoldeb y ddiod gadarn ar lawer achlysur wedi troi yn bwysicach na'r gerddoriaeth ei hun? Yn bwysicach na'r gêm rygbi ei hun?Nos Fawrth diwethaf roedd Meic Stevens yn lansio ei albwm newydd – roedd yna stondin yna yn gwerthu'r CD. Er fod yna lond pabell o bobl yn 'lyfio', yn 'addoli' ac 'yn ffan penna' Meic – dim ond un, ie un, CD a werthwyd. Pam hynny te? Wel esboniad fy nghyfaill (nad sy'n Gristion o argyhoeddiad fel fi) oedd y byddai gwell ganddynt wario eu £10 olaf ar bedwar diod arall nag ei wario ar CD newydd eu 'harwr'.Nawr cyn mynd ymlaen ym mhellach rhaid i mi...