Welsh Blogs.com


Marian Delyth ‘Yr ail filltir’ via Blog Dogfael December 18th, 2007 at 23:26

image Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith fel y gwnes i fethu rhaglen Y Sioe Gelf (Cwmni Da) ar S4C. Roedd hon yn rhaglen yr oeddwn am ei gweld yn arbennig am ei bod yn dweud hanes y ffotograffydd Marian Delyth yn dychwelyd i’r Mynydd Bach lle’r oedd hi wedi bod yn gweithio ddeng mlynedd ar hugain yn gynt ar un o’i phrosiectau ffotograffig cynharaf o dan y teitl ‘Y filltir sgwâr’. Ond diolch i wasanaeth gwylio eto S4C, Gwylio yma, roeddwn i’n medru edrych ar y...