Dwi newydd wylio'r fideo isod sef sgwrs gan Mark Driscoll ar Nehemeia 1:11b-2:8 lle mae Driscoll yn esbonio sut roedd Nehemeia ar un llaw yn uchelgeisiol ac ar y llaw arall yn llwyr ddibynnol ar Dduw a gweddi. Byrdwn ei neges yw fod dim byd o'i le gyda bod yn uchelgeisiol a dibynnu fod yr uchelgais yna yn un bydd yn gogoneddu Duw....
Maen ymddangos mae nid dim ond pregethu da mae Mars Hill yn Seattle yn deall ond mae ganddyn nhw sesiynnau mawl pen i gamp hefyd. Dyma fideo o'r band oedd yr arwain y mawl ddydd Sul diwethaf, pa mor cŵl yw hwn, mewn capel! Ffantastig! 'Send Me' - Live at MHC | Ballard from Mars Hill Church on...
Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef...

Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF. Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o...

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Parhad o'r postiad blaenorol...Megathema'r llyfr yw fod yr eglwys i fodoli fel cenhadaeth ac nid fel clwb i'r cadwedig rai yn unig felly wrth wneud penderfyniadau ar sut y dylid cynnal gwasanaethau ac ati yn yr eglwys rhai rhoi yr ystyriaeth gyntaf i'r rhai di-gred a fydd yn troi mewn ac nid i'r teulu Cristnogol bach neis. Mae hon yn wers galed sydd yn rhaid i Eglwysi Cymru ei dysgu os am weld twf eto. Fel enghraifft o'r egwyddor hon ar waith mae Driscoll yn rhoi hanesyn am deulu o efengylwyr-brethren tra ceidwadol a ddechreuodd fynychu'r eglwys ac a ddywedodd y buasen nhw yn dod yn aelodau ar yr amod y cai eu plant nhw gannu handbells fel rhan o'r gwasanaeth a fyddai, a...
Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Parhad o'r postiad blaenorol....Beirniadaeth o rai agweddau o'r llyfrI ddechrau rhaid nodi na fydd arddull Driscoll at ddant pawb, mae ei onestrwydd ar rai adegau yn rhy onest ac maen debyg y bydd llawer o bobl o fewn ei eglwys yn darllen amdanyn nhw eu hunain ac yn gwylltio gyda Driscoll am ddatgelu rhai hanesion rhy bersonol. Gellid dadlau hefyd fod Driscoll, am berson sy'n honni i roi'r pwysigrwydd mwyaf i waith Iawnol Crist ar y groes, yn rhyw ysgaf ei agwedd at waith Iesu, edrychwch ar y frawddeg fyrbwyll yma: 'We scraped together enough money to buy some big honking speakers, and I stole an unused sound console from my old church along with a projection screen,...

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)Mae'r adolygiad yma yn un hir a hynny mewn tri postiad gwahanol ac ar y dechrau hoffwn annog pob Cristion i ddarllen y blog ar ei hyd oherwydd fod cynnwys y llyfr yn ddifyr ac yn hynod berthnasol i chi. Maen flogiad hir oherwydd fod gymaint o gîg yn y llyfr i'w drafod.Yn dilyn y gynhadledd am ddyfodol yr eglwysi ddechrau'r mis (blog am y digwyddiad yma) ym Mangor dwi wedi fy sbarduno i ddarllen ambell i lyfr gan aelodau mwyaf blaenllaw symudiad yr Emerging Church. Dyma adolygu'r llyfr cyntaf sef Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll. Yn y llyfr hynod yma mae Driscoll yn gwneud sylwadau am gyflwr yr eglwys...