Welsh Blogs.com


Lansio ‘Tonnau Tryweryn’ via Blog Dogfael November 1st, 2008 at 19:45

image Roedd noson lansio nofel Martin Davis, Tonnau Tryweryn, yn ddigwyddiad dymunol iawn. Rydw i’n adnabod Martin ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain. Fe wnes i gyfarfod gydag e pan ddes i’r coleg yn Aberystwyth ac mae’r ddau ohonon ni wedi bod o gwmpas ers hynny ac mae’n llwybrau yn croesi yn achlysurol. Dywedodd Martin yn y lansiad ei fod wedi cyhoeddi wyth o lyfrau gyda’r Lolfa a dwi wedi darllen dau ohonynt – Brân ar y crud ac Os dianc rhai. Fe wnes i fwynhau’r cyntaf, ac er fy mod yn edmygu bwriad ac uchelgais yr ail rhaid dweud na lwyddodd i gyflawni yr hyn yr oeddwn wedi’i obeithio. Roedd honno yn nofel yn cymryd digwyddiadau yn y 1930au a’r 1940au yn gefndir iddi ac ac yn Tonnau Tryweryn mae’r awdur yn edrych yn ôl i digwyddiadau...