Daeth sawl cyfnod ac eiliad i’m rhan pan ddywedais na fedrwn i droi yn unigolyn rhyfeddach, ond yn ddiweddar mae fy nhuedd i olrhain alcohol gydag obsesiwn mewn bod yn Babydd yn dro od, a dweud y lleiaf. Maent yn bethau rhyfedd i'w cyfuno, ond dwi'n llwyddo gwneud, rhywsut. Bob tro y byddaf yn feddw, dwisho bod yn Gatholig. Ydi hynny'n naturiol?Dwi wedi hen gyrraedd y cam yn fy mywyd lle nad ydw i’n adnabod fy hun yn chwil. Y peth gwaethaf ydi’r ffaith nad ydi fy ffôn lôn yn cadw nodau bodyn a anfonwyd yn ei gof, felly nid yn anaml y bydda i’n cael negeseuon yn dweud “ffyc off” neu “hahaha” y bore wedyn, a heb fath o syniad pam.Prin iawn y proffwydais y byddwn byth yn dweud hyn, ond mae’r tueddiad tuag at yr absẃrd ac od hyn yn fy chwildod yn peri i mi feddwl y dylwn...
Mae rhai pethau sydd mor ofnadwy o randym a gwych fel y byddai’n anghywir peidio â’u rhannu. Ddoe oedd, o bosib yn ei gyflawnder, y diwrnod mwyaf randym yn fy mywyd. Dechreuodd wrth i mi a Ceren fynd i Sain Ffagan, gyda’i chwaer sef Glesni yr wyf hefyd yn gweithio gyda hi (helo Glesni!), cael cinio yno, ni ein tri (gallwch chi ddim dallt pa mor randym ydi hwnnw heb fod yno) i yfed alcohol a gwrando ar farddoniaeth yn y man ymladd ceiliogod. Doeddwn i ddim cweit yn dallt sut i hyn ddigwydd ac mi bendronais am ateb na chefais.Mi fethodd Ceren a fi’r bws yn ôl i ganol y dref, a bu’n rhaid i mi eistedd efo rhaw yng nghar Glesni, wrth i ni bigo i mewn i’r Halfway am beint. Yn y pen draw fi a Ceren oedd yno, wrth i bobl fynd a dod, a chan ganu Cân yr Orsedd mi wnaethom ein ffordd...
Graddio via Wierdo July 22nd, 2008 at 17:41
Dwi di graddio. Dwi wedi gwisgo'r het wirion a'r clogyn. Dwi wedi tynnu'r llun efo'r disgysgrif ffug. Dwi wedi tynnu miloedd o luniau eraill. Dwi'n raddededig.Ac yn wahanol i be oni'n meddwl pan oeddwn i'n fach, dwi ddim yn berson gwahanol nag yn hen. Dwi yr un hen fi, yr un mor ddiog, yr un mor wirion, yr un mor bróc.Sydd ddim yn sypreis o gwbwl rili, gan mai dim ond lot o bres am ddim byd oeddo.Ar un llaw, mi oeddo'n ddwrnod neis - diwrnod allan efo'r teulu, lluniau neis i gofio'r diwrnod, a pryd bwyd hyfryd (ac anferth!) i orffen popeth!Ond ar y llaw arall? Mi oeddo'n ddrud iawn, yn ddiwrnod anhygoel o hir (cychwyn am chwarter i saith), ac i gyd er mwyn sefyll ar ben llwyfan am chydig o eiliadau yn nodio ar rhyw ddyn neu gilydd.Ond dyna ni, mae o drosodd rwan, ac er mod i wedi blino'n...
Dwi wedi ystyried sawl gwaith symud y blog yma i wordpress. Dwi ddim yn siwr iawn pam, ond ma'n swnio fatha syniad da. A'r gobaith yn y dyfodol ydi cael un cyfeiriad we sydd yn lincio i wefan lle mana ddewis os mai'r blog yma ta'r un saesneg dechi'n cyraedd.Swish.A mi benderfynnais fod wan yn amser da i wneud hyn, gan fod gin i dros yr haf i'w wneud o, ac yn ogystal a hyn, dwi yn ceisio gwneud y blog yn fwy "anonomous" cyn dod yn athrawes. Chos dwi ddim ffansi cael un o fy nisgyblion yn darllen am fy "drunken escapades" fel petai.Yn anffodus, dydio ddim yn gweithio felna.Tro dwetha i mi drio, mi lwyddish i gyraedd nunlla gan nad oeddwn i yn gallu ffindio nunlla i fy hostio am ddim. Chos dwim yn dallt.Ond troma mi oni'n meddwl mod i wedi'w dallt hi; wedi cael y syniad gora erioed. Gofyn i...
Wel, nachi'r haf wedi dechra go iawn. Mi gyrhaeddish i adra ddoe wedi blino'n lan ac yn drewi dipyn go lew. Gwychder yr haf wedi cychwyn o'r diwedd.Dydd gwenerCael lifft lawr i Aberystwyth a wedyn parti pwnsh yn nhy newydd fy mrawd yno. Ma pynsh yn lethal. A minna yn downio gymaint a phosib gan modi'n trio arbed arian a doedd y pynsh ddim yn fy meddwi bethbynnag. Hynny yw tan i mi adael y ty i fynd i gig texas radio band yn yr Angel. Dau beint o siedr yn fana ac wedyn dwi jesd abowt yn cofio mod i wedi mynd adra i'ng ngwely ar ol gwario dim ond £10 (£5 o hwnw ar fynd i mewn i'r gig!).Dydd SadwrnBrecwast yn varsity er mwyn trio sobri ein designated driver. Yno trafod y planiau. Y plan gwreiddiol oedd cael tacsi i Llanrwst ac aros yn ty rhywun yn fana. Ond doedden ni methu cael tacsi....
Bywyd via Wierdo March 16th, 2008 at 12:40
Ma'n edrych fel mod i'n catch-up blog eto. Chenj.Ond dion ddim i gyd wedi bod yn feddwi troma. Gaddo.Lle i ddechra? P'thefnos yn ol mi gymerais ran yn y relay-for life i godi arian i Cancer Research UK. Timoedd o rhwng 8 a 15 yn cerdded am 24 awr heb stopio gydag oleia un person o bob tim ar y trac ar un pryd. Mi oedd na 7 ohonom ni gan fod un person yn sal. Gadewch i mi ddeutha chi, dydio ddim mor hawdd a ma'n swnio. Mewn theori dim ond 3-4 awr oedd rhaid i bawb gerdded yr un ond mi oedd hi mor oer a gwyntog mi oedd hi'n well cerdded! Erbyn tua hanner ffordd roedd pawb yn brifo drostynt - pengliniau, pherau, traed. Mi ath y nos ei hun yn ddigon cyflym gan fod pawb yn gwneud awr ar ben eu hunain a'r gweddill yn trio cysgu drwy'r miwsic mawr.Ond oh, roedd hi'n wyntog. Mi roeddwn i'n poeni...
Bobl bach. Ni theimlais, ar fy myw, y ffasiwn orfoledd â theimlais am tua 6 nos Sadwrn. Roedd o’n warthus o fuan ac roeddwn i’n neidio o amgylch seddau’r Mochyn Du yn swsio pawb am hanner awr dda yn jibidêrs. Roeddwn i, efo Ceren a Haydn a’r Rhys, wedi bod allan ers deuddeg, ar ôl cyrraedd y Mochyn Du yn fuan a chael ein gwahodd i mewn achos ein bod ni’n edrych yn oer tu allan.Yn ôl Ceren bu inni yfed o leiaf wyth peint cyn y gêm, sy’n gwneud i rywun feddwl eu bod nhw’n fwy o ran o broblem cymdeithas yn hytrach na’r ffisig i’w gwella. Ond does ots. Hanner amser, roedd y Mochyn yn ddistaw. Deugain munud wedyn mi aeth yn wyllt. Wn i ddim beth ddigwyddodd bron. Ond roedd y gorfoledd a’r dathlu mor amlwg. Ro’n i mor hapus. Roeddem ni wedi curo’r Saeson.Ac fel y...
‘Sdim rhyfedd fy mod i’n dew. Ar ôl bwyta dwy bowlen o lobsgóws neithiwr mi es allan a chael pizza hefyd. Roeddwn i’n llwgu. Dyna mae rhywun yn ei gael am wario degpunt ar eu taith siopa bwyd wythnosol, mae’n rhaid. Wn i ddim sut y maen nhw’n dygymod yn Affrica, dw i’n llwgu rŵan a dw i ‘di cael brecwast. Yr oll dw i’n gweld o’m mlaen ydi baget dychmygol, yn erfyn arnaf i’w fwyta.Dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos. Bydda’ i ddim yn mynd allan ar nos Wener yn aml iawn erbyn hyn: sy’n drist ac yn hen. Ond mae o fel nad oes gan neb ots na blys gwneud. “Isio safio arian”, “Isio bod yn ffresh ‘fory”, “Dw i’m ffansi yfed”. A ninnau'n fyfyrwyr tlawd roedden ni'n meddwi bob nos Wener: ac rwan mae gennym ni arian yn dod i mewn dydyn ni ddim hanner...
Rhu hwyr via Wierdo November 1st, 2007 at 14:47
Mai di mynd yn rhu hwyr i sgwennu'r petha onisho sgwennu amdanyn nhw. Mi oeddwn i eisiau sgwennu am wythnos y glas er enghraifft ond dwi di anghofio be ddigwyddodd!Y plan felly ydi rhoi llunia fyny a sgwennu amdanyn nhw. Unwaith fyddai wedi dal i fyny, siawns allai ddechra blogio eto yn gall...byw mewn gobaith bethbynnag!!Ma'r cwps yn gneud jygiau wan. Dim ond jwg o celtic gold neu twti ffrwti sydd yn cael ei gynnig yno fel arfer ond gan ein bod ni yn gwsmeriaid mor arbennig (yno drwr fflipin amser!) mi gafodd Huw jwg o guinness sydd yn gyfatebol i 4 peint ar unwaith. Mi setlodd o lot gwell na'r disgwyl a dweud y gwir!O, mor braf oedd cal mynd nol ir cwps. Mi oedden ni yna bron bob dydd am bthefnos ar ol cychwyn nol yn y brifysgol. Peint da (os nad ychydig yn ddrud), cwmni da, stôl wrth...
Mae'r dyddia'n hedfan heibio a dwi wedi bod yn ol yn y brifysgol ers ddigon agos at 3 wythnos. A hwn yw fy mlog cynta ers dod yn ol. Mi wn nad oes esgus am hyn ac ymddiheuraf. Mae'r dyddiau erbyn rwan yn cymysgu'n un mwsh mawr o ddarlithoedd a meddwi.Ond, i fod yn deg dwi wedi bod ym mhob darlith oni bai am un. Sydd yn wych i mi. A'r unig reswm fethish i'r un ddarlith yna oedd achos mod i'n hynnod hynnod hyng-ofyr. A dwi di cal y nodiada i gopiio i fyny felly pw i unrhywun feiddia edrych yn flin arnai am ei fethu!Wedi dweud hyn i gyd, mi fysa'n anodd i mi fethu lot o'n narlithoedd. Dydd off ddydd llun, diwrnod llawn ddydd mawrth, dydd off dydd mercher, bora llawn ddydd iau a mond 2awr dydd gwener. Unwaith dwi fyny yn fy narlithoedd, mi ai i bob un. Codi allan o'r gwely sydd yn...
Richard via Wierdo August 13th, 2007 at 19:15
Mae gin i ffrind. Wel, ma gin i fwy nag un ffrind (wir yr), ond ma'r un dwi am son amdano yn un person (a chydig mwy). Mae Richard yn un sydd yn hoffi ei beint, a mbach yn enwog o fewn ein cylch bach ni am wneud pethau mbach yn wirion pan ma di meddwi. Er enghraifft, yn ystod eisteddfod Casnewydd fe aeth ar goll am noson. Y peth cyntaf mae'n cofio ydi bod mewn bwsh heb ei sbectol na'i ffon. Fe ddilynodd noson sgeri ond doniol i bawb arall o grwydro drwy gerddi bobl, cysgu ar y grass verge ar dual carrigeway a chuddiad rhag y bobl oedd yn mynd mewn i'r eisteddfod.Bethbynnag, mae wedi gwneud rhywbeth gwirion tebyg ers hynny yn reit aml! Pan gyrhaeddish i'r eisteddfod eleni mi oedd Richard yn goch. Doedd o heb allu dod i fy nol o'r car a'm helpu i gario petha at y campsait gan ei fod wedi...
Oni'n cerdded rownd Caernarfon heddiw efo'r gwen fwya ar fy ngwyneb. Mi onin edrych fatha ffwl manic. Duw a ŵr pan oni mor hapus. Diwrnod da yn y gwaith bosib? Wedi blino lot yn rewm posib arall. Mi oni di bod yn edrych ar luniau o fy ffrindiau a fi wedi gwisgo fyny fel condoms a mi ddoth huna a gwen i'ng ngwyneb. Rheswm arall posib yw mod i di cal cynnig mynd i Iwerddon fo genod gwaith. Ma'n od, dwi'n aml yn teimlo fel mod i'n tarfu ar bawb arall gan mod i mond yno am bythefnos a dipyn. Ond eto, un cynnig i fynd i Iwerddon a dwi ar ben y byd. Ydwi angen ffitio i mewn gymint a huna? Gai weld os ai.O helo gyda llaw! Na, dwi heb ddiflannu i berfeddion y byd go iawn am byth, dwi dal yma. Ers y blog dwetha, dwi di: dathlu fy mhenblwydd yn 20 gyda drinc tawel a fy ffrindiau (nathy nw jibio...
Dwi'n blogio lot amlach ar fy mlog saesneg yn ddiweddar a dwi'n ymddiheuro am hynny. Mae'n warthus gan mai hwn yw fy mlog cynta bob amser.Dwi wedi gorffen fy arholiadau!!! Wooo! Mi fydd rhaid i mi aileistedd yn yr haf, ond tan hynny (neu tan Orffennaf y 6ed pan gai wybod fy nghanlyniadau) dwi'n hapus braf mewn byd o feddwi a ffrindiau! I ddathlu diwedd yr arholiadau mi eshi i Abreraeron (ddim ar ben fy hun, mi oedd na 3 byd yn mynd!) a meddwi. Diwrnod gwael i fynd i Aberaeron rili gan ei fod hin tresho bwrw glaw, ond di hyna'm yn gneud gwahaniaeth mewn pyb nadi!Bethbynnag, cafwyd ddiwrnod gwych o yfed a meddwi gyda criw gwahanol gan nad oedd neb o ty ni wedi dod gyda mi. A ma hyna wasdad yn beth neis.Y rheswm nad oedd neb arall wedi dod gyda mi? Wel nos fawrth mi oedd crôl dre. Crôl...
Pun intended.Wel wir, dyna i chi olygfa. Ma hi'n wythnos RAG umca (casglu arian at achosion da) ac felly dwi wedi bod allan bob nos ers cyraedd nol. Prysur! Ond mi oedd neithiwr yn wahanol. Neithiwr, mi oedd y crol ffiaidd yn cael ei gynnal. Y syniad yw fod pawb yn mynd i siopau achosion da ac yn prynu dillad horibl. Ond na, mi oedd rhaid i ni fynd yn bellach. Mi oedd rhaid i ni fynd allan fel condoms. Ia, condoms. Lyfli de. Edrych chydig bach fel poteli plastic plant bosib? Triwch chi wisgo fyny yn well!! Ah, hwyl. Mi gawsom ambell goment clefar fel y teitl. "dim sach dim sosej, no glove no love, dim condom dim caru, dim johnnie dim john" (yr ola yn sbeshal i mi ;) ) . Pan oni ar y ffon gyda John geshi ambell un o'm ffrindiau yn dweud "phone sex"! Sa well i mi beidio son am y cról yma...
Jamborii! via Wierdo April 29th, 2007 at 21:20
Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd jambori, ond mi oedd yn ennyn rhyw fath o deimlad od o waelod fy mol, teimlad o aros ac o blentyndod a fu. Mi oedd y jambori yn cael ei gynnal fel rhan o wythnos UMCA i gasglu arian at elusenau. Mi oni wedi clywed si pan yn feddw yn ystod yr wythnos fod na gastell neidio am fod yno, ond falla mai breuddwyd meddw oedd hwnnw wedi bod!Brthbynnag, dyma ddoe yn cyrraedd yn blyri ac yn hyngofyr fel arfer ar ol y gig Cowbois noson gynt. A dyma ni off i'r cae uwchben Pantycelyn. Wir yr, hwn di un or diwrnoda gora i mi gael ers dipyn! Mi oedd na gastell neidio, mi oedd hin braf, mi oedd na farbeciw, mi oedd na gemau o rownderi a pel droed a mi oedd na ffrindiau. Mi neshi fwynhau fy hun lot. Wedyn rth sgwrs mi oedd rhaid mynd allan.Dyma y peth gorau i mi erioed...
Fel ddywedodd nain ffrind i mi; ma bobl ifanc dyddia yma bob amser yn un o dri "B" - Bored, blinedig neu brysur! Mi bwyntiodd fy ffrind allan gyda llaw mai gyda "p" mae prysur yn cychwyn, ond dim ots, mae'n wir. Dwi wedi bod trwy pob un o'r rhain yn y 24 awr dwetha.Mi oedd ddoe yn ddiwrnod prysur....i fod bethbynnag. Mi oedd rhaid i mi wneud gwaith yn y bore. Ni lwyddish i hyn. Wedyn mi oedd gin i ddarlith. Ni lwyddish i fynd i'r ddarlith oherwydd fy mod yn ddiog. Ond achos fod gin i dros awr i dreulio wedyn yn gwneud dim, mi oeddwn wedi diflasu. Ond gwell hynny na darlith unrhyw ddydd. Wedyn i fyny i gyfarfod a fy ngrwp (sydd rwan yn ddwy ohonam ni gan fod un wedi diflannu a'r llall wedi bygro i ffwrdd i ffrainc) i wneud ychydig or gwaith. Lawr i'r dre am mbach o siopa, rygbi, a wedyn...
Wel, dyma fy debutYouTube. Nid hon yn rhy diddorol neu doniol, ag mae'n rhy tywyll, ond dyma chi. Roedd hon yn cael ei thynnu pan oedden ni yng...
Mi fues i allan nos Wener yn tafarn lleol o'r enw Aura. Wel, ron i'n yfed peint o Bell's Two-Hearted Ale a sgwrsio efo ffrindau pan cerddodd dyn cyfarwydd at y bar a chesio am newid ar gyfer y medr parcio.* Wel, roedd yn Mike Farrell, pwy oedd yn actio fel B. J. Hunnicutt yn y rhaglen teledu M*A*S*H. Mi naeth o'n osgoi cyswllt-llygad** â phawb, ond ron i'n tipyn o feddwi yn barod, felly holiais i amdano, "You're doing a book signing across the street, right?" Mi nodiodd o. "You're Mike Farrell, aren't you?" Mi gwenodd o, "Yes." meddai. "Well, I'm pleased to meet you." Ag wedyn, gofynnodd fy ffrind, "You were in that sit-com, weren't you?" ag mynnodd ei wraig, "That wasn't a sit-com!" Mi winciodd Mike Farrell iddi, "Thanks for saying that," meddai ag adael y bar. Ar ol adawodd o'r bar,...
Gwarth! via Wierdo February 28th, 2007 at 22:00
Dwi di bod yn aros am jec wthos yma (cheque dwin feddwl), gin gwaith am y shifts neshi ym mis Rhagfyr (mi wn, slo fel...crwban). Oni am ebostio'r "bos" a dweud wrthi fodo heb gyradd, ond mi gesi wbod heddiw fod y chec di cyradd Marco's (takeaway 2 dy i ffwrdd ohona ni) a fod nw di trio casho'r chec!!! Sut yn y byd ma hyn di llwyddo i ddigwydd, dwn i ddim!Yn un peth, ma merch y bos yn myw yn yr un ty a mi felly mi oedd y cyfeiriad yn mynd i fod yn gywir doedd.Yn beth arall, ma "Mari Davies" yn reit wahanol i "Marco". Ma'n eitha cangymeriad i'r postman neud yn y lle cynta, ond nw yn trio casho'r chec! Ma huna'n warth. Ma Marco's wedi mynd lawr yn fy ngolwg i. Manw dal i neud pizza's anhygoel, allaim gwadu hynny, ond ceisio dwyn fy arian prin i?! Grrr.Ma hi'n ddydd gwyl dewi fory. Mana...
Dwi'n eistedd yma o flaen y teledu yn byw bywyd i'r llawn. Ddim yn codi tan amser cinio, prin yn gadael y ty oni bai am i fynd allan i feddwi, yn treulio'r diwrnod cyfan o flaen sgrin. Boed hwnnw yn sgrin deledu neu gyfrifiadur (neu'r ddau yn yr achos yma).Mana drefn dyddiol sydd yn helpu rhoi trefn i'r diwrnod. Neibys, Doctors a Diagnosis Murder. Wedyn ambell i raglen wahanol fel Sudo-q, Countdown a qavanna QC. Wedi gwylio sudo-q am y tro cyntaf erioed heddiw a sylweddoli ei fod o lot haws na beth sydd yn y papurau newydd gan nad oes gymaint o sgwariau (ar y mwyaf, 6x6 yw'r grid yn sudo-q yn hytrach na'r 9x9 arferol). Derbynniaf, dyw'r cwestiynnau ddim ynhawdd iawn, gan nad yw fy ngwybodaeth gyffredinnol mor wych na hynny. Er gwaethaf hyn, dwi'n hanner ystyried ceisio bod ar y gyfres...
Hehe, dyma fideo neshi ffilmio neithiwr o un o fy ffrindiau hynnod feddw. Dio fwy na thabyg ddim yn ddoniol i chi, felly ymddiheuraf, ond dwi awydd bod yn gas.HeheHwyl a...
Nos Wener Ellan a fi'n mynd allan i swydd yn y Llyfrgell Canol Minneapolis efo cwmni fy mod wedi gweithio off and on ers blynyddoedd. Be' bynnag, mi weles i ffrindiau fy mod i ddim wedi gweld ers talwm ag aeth Ellan a fi, John a Jean allan i gael rhagor o diodydd yn Ike's. Wel, mae 'na torf yn y bar ag roedd y tywydd yn oer iawn (tua -20º C). Felly aethon ni'r drws nesa i Murray's Steakhouse. Roedd yr hogiau yn yfed martinis Hendrick's a'r ferched yn yfed cosmopolitans. Mi gaethon ni amser gwych.Yna roedd amser mynd adra ag Ellan a fi'n mynd adra yn tipyn o feddwi. Mi aeth Ellan i'r gwely a dw i'n mynd i'r 'stafell molchi. Eniwe, pan o'n i'n edrych ar fy hunan yn y drych, dw i'n meddwl bod fy aellau yn rhy bushy ag o'n i dechrau i'w trimio. Dyma rhai o gyngor: paid â thrimio unrhybeth...
inc via Wierdo January 14th, 2007 at 13:05
Mai'n un o'r gloch. Ma gin i banad ond sa ddim digon o tea bags yn y ty i mi gael llawer mwy. Dim gymaint a dwisho bethbynnag. Pam ydwisho gymaint o de? Chi'n gwbod yn iawn. Fuesh i allan neithiwr. Pah.Ma pah yn air sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ddigon aml. Gennyf i bethbynnag. "Meh" yn air dwin defnyddio yn aml iawn, man un o fy hoff eiriau ac yn cyfleu lot fawr mewn 3 llythyren, man air clefar iawn! "Bah" yn air dwin ei ddefnyddio yn rheolaidd hefyd. Ma hwnnw fel arfer yn cael ei ddilyn gin "hymbyg" ond os dwi ddim isio blino fy laryncs ma "bah" yn ddigon. Ond "pah"? Dwi ddim yn siwr iawn be man ei gyfleu...dwin ama fodo'n canol yn rwla...Dwin sicr am ei ddefnyddio yn amlach bethbynnag!Pa mor hir tan fydd fy iaith yn newid i ddim ond 3 llythyren?Bethbynnag, neithiwr. Ia. Wel mi...