Dad-Drefedigaethu’r Meddwl via Blog Rhys Llwyd
Dwi wedi cael tridiau o ddad-drefedigaethu'r meddwl – antidôt cwbl anghenrhaid ag ystyried y seremonïau cyfoglyd a ddigwyddodd yng Nghymru wythnos yma. Nos Fawrth roedd Ngũgĩ wa Thiong'o yn siarad yn adran y Gymraeg Bangor, maen awdur,bardd a beirniad llenyddol ôl-drefedigaethol. Menna oedd a'r diddordeb (theori ôl-drefedigaethol yw ei 'thing' hi) ond fe es i am dro hefyd i wrando ac roeddwn ni'n falch iawn mod i wedi mynd i wrando.Ganwyd a magwyd Ngũgĩ yn Kenya ac fe'i fedyddwyd a'r enw 'James Ngũgĩ'. Graddodiodd a BA Saesneg yn Uganda ac yna fe aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds, Lloegr, lle cyhoeddodd ei nofelau Saesneg cyntaf. Fodd bynnag syrthiodd mewn i argyfwng hunaniaeth ac fe sylwodd o'r newydd ei fod wedi bod yn wrthrych ac offeryn is-raddol mewn trefn... Annwyl Ioan Matthews via Blog Rhys Llwyd
Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn...