Welsh Blogs.com


Merched y Wawr, Llanfarian via Blog Dogfael January 9th, 2008 at 23:00

image Dydd Mercher (2008-01-09). Heno fe fues i’n annerch cyfarfod o Ferched y Wawr yn Llanfarian, ger Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad ers misoedd i ddod yno er mwyn siarad am ddathlu’r flwyddyn newydd. Fe wnes i siarad wrth gwrs am y traddodiad yng Nghwm Gwaun o gadw’r Hen Galan, 12 Ionawr. Mae’r arfer hwn yn dyddio yn ôl i’r hyn a ddigwyddodd yn 1752 pan fabwysiadwyd calendr Grigor yn hytrach nag un Iŵl. Golygodd hynny golli diwrnodau o’r calendr swyddogol, ond mynnodd y werin oedd yn grediniol fod rhywun wedi dwyn y dyddiau oddi arnynt i barhau i ddathlu’r gwyliau ar yr hen adeg draddodiadol – ar 12 Ionawr yn achos Dydd Calan. Cefais groeso twymgalon gan yr aelodau yn Llanfarian ac fe wnaethon nhw wrando yn astud ar yr hyn oedd gennyf...